Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd - Dydd Llun, 7fed Hydref, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd E. G. Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith.  Achubodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddymuno'r gorau i'r Cynghorydd Thomas gyda'r llawdriniaeth ar ei ben-glin.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYNGOR 2023/24 pdf eicon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd Adroddiad Blynyddol y Cyngor am 2023-24 ei roi gerbron y Pwyllgor i'w gymeradwyo.  Cyflwynwyd yr adroddiad i'r Pwyllgor gan yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd.

 

Gwnaed yr arsylwadau a'r ymholiadau canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

  • Roedd nifer o'r arsylwadau i'w canmol e.e. lleihau allyriadau carbon gan draean, camau ar ynni adnewyddadwy, ysgolion newydd a Llwybr Beicio Tywi.

 

  • Gan gyfeirio at y datganiad 'cynyddu ein hynni adnewyddadwy', gofynnwyd bod adroddiadau'r dyfodol yn cynnwys manylion ychwanegol megis enwau safleoedd penodol a hyd a lled y gwaith, er mwyn dangos ymhle roedd ynni adnewyddadwy wedi cael ei gynyddu.  Dywedodd yr Aelod Cabinet bod disgwyl i adroddiad am ynni adnewyddadwy gael ei gyflwyno yn y cyfarfod Craffu nesaf ym mis Tachwedd, a fyddai'n gyfle i gynnwys y manylion.

 

  • Gwnaed nifer o awgrymiadau am ddeunyddiau'r paneli solar, a byddai'r prosiectau lawer mae'r Cyngor yn eu datblygu, ynghyd â'r hyrwyddo a'r cyfathrebu yn eu cylch, o fudd sylweddol o ran dangos bod y Cyngor hwn yn gweithredu ynghylch newid yn yr hinsawdd.  Nododd y swyddogion yr awgrymiadau.

 

  • Cyfeiriwyd at Gam 16286 - Adolygu'r strategaeth fflyd cerbydau bresennol gyda'r bwriad o ddefnyddio'r dechnoleg cerbydau mwyaf addas ac allyriadau isel (gan gynnwys ffynonellau trydan neu ffynonellau p?er eraill) dros y blynyddoedd nesaf.  Roedd yn destun pryder nodi'r 'ffynonellau p?er eraill' oherwydd y teimlad nad oedd ffynonellau p?er eraill i'w defnyddio. Dywedodd yr Aelod Cabinet y byddai adroddiad am y newid i Gerbydau Allyriadau Isel Iawn (ULEV) yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn fuan, a byddai trafodaeth fanwl am y pwnc hwn yn cael ei groesawu bryd hynny.

 

  • Cyfeiriwyd at dudalen 103 yr adroddiad - Yr Economi Gylchol ar waith. Gofynnwyd faint oedd cost dargyfeirio 4 tunnell o gewynnau? O ran yr economi gylchol, rhoddodd yr Aelod Cabinet gyflwyniad ar yr hyn a olygir gan economi gylchol a'r gwaith oedd wedi'i gyflawni hyd yma o ran cyfrannu at yr economi gylchol. Roedd modd ailddefnyddio ffibrau'r cewynnau o ganlyniad i waith cwmni lleol a oedd wedi dod o hyd i ffordd o ailddefnyddio ffibrau'r cewynnau, a fyddai fel arall wedi mynd i safleoedd tirlenwi.  O ran cost, eglurodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol nad oedd cost gynyddol ynghlwm wrth ddefnyddio ffibrau hen gewynnau, o gymharu â defnyddio deunydd crai o dramor neu ddeunyddiau eraill oedd wedi'u hailgylchu.

 

  • Cyfeiriwyd at dudalen 107 yr adroddiad - Cynnal a chadw ffyrdd.  Gofynnwyd am eglurhad pwy oedd yn adrodd bod nifer y diffygion arwyneb a thyllau rhoddwyd gwybod amdanynt gan gwsmeriaid wedi cynyddu 175%.  Dywedodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol ei bod yn anodd gwybod a oedd mwy o achosion yn cael eu hadrodd neu a oedd yr un achosion yn cael eu hadrodd dro ar ôl tro. Fodd bynnag, eglurwyd bod y system gofnodi yn ystyried sawl cofnod o’r un diffyg yn un adroddiad.  Ar ben hynny, cadarnhawyd bod cynnydd sylweddol yn y tyllau ffordd yr adroddid amdanynt.

 

5.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CWARTER 1 - 2024/25 pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor yr Adroddiad Perfformiad ar gyfer chwarter 1 blwyddyn 2024/25 i'w ystyried.  Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd yn amlinellu cynnydd y Camau a'r Mesurau yng nghylch gwaith y Pwyllgor hwn oedd yn gysylltiedig â'r Strategaeth Gorfforaethol a'r Amcanion Llesiant.

 

Gwnaed yr arsylwadau a'r ymholiadau canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at Gam 17499 ar dudalen 2 yr adroddiad.  Mynegwyd pryder am y diweddariad cynnydd 'Nid yw gwaith arferol yn cael ei flaenoriaethu ar hyn o bryd oherwydd diffyg adnoddau.' Eglurodd yr Aelod Cabinet fod y cam hwn yn gysylltiedig â'r gwaith ar y Cynllun Rheoli Traethlin, a rhoddodd sicrwydd i'r Aelodau bod gwaith arfordirol yn cael ei flaenoriaethu ar hyn o bryd, yn cynnwys gwaith mewn ardaloedd risg uchel fel Glanyfferi a Llansteffan lle roedd problemau adeg stormydd a llanw uchel. Parhau oedd y sgyrsiau am liniaru llifogydd. Cadarnhaodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd fod 3 aelod ychwanegol wedi cael eu recriwtio i'r tîm. Unwaith oedd y tîm yn llawn, eglurodd y Rheolwr Amddiffyn rhag Llifogydd a Diogelu'r Arfordir fod dull gwaith rhagweithiol wedi cael ei ddefnyddio i asesu amddiffynfeydd, a oedd wedi caniatáu i'r tîm ail-flaenoriaethu ac ail-ffocysu ar gyfer y flwyddyn oedd i ddod gyda'r adnoddau oedd ar gael.  Byddai'r adran yn chwilio am ffyrdd mwy cynaliadwy o flaenoriaethu a gwneud gwaith yn y dyfodol. Roedd gwaith parhaus yn cael ei wneud i gael grantiau a chyfleoedd ariannu.

 

Gofynnwyd pa waith oedd yn cael ei wneud i hysbysu'r cyhoedd a busnesau ble i ddod o hyd i fagiau tywod a llifddorau pe bai eu hangen arnynt.  Dywedodd y Rheolwr Amddiffyn rhag Llifogydd a Diogelu'r Arfordir fod gwybodaeth helaeth am faterion llifogydd ar wefan y Cyngor.  Mewn ymateb i sylwadau wnaed ar wybodaeth i'r cyhoedd, cadarnhaodd y Rheolwr Amddiffyn rhag Llifogydd a Diogelu'r Arfordir fod cyfres o gyfathrebiadau wedi'u cynllunio ar gyfer y mis hwn drwy'r cyfryngau cymdeithasol a datganiadau i'r wasg.

 

·       Cyfeiriwyd at y sylw a wnaed mewn ymateb i fesur PPN/001i – 'Mae ymchwiliadau adweithiol parhaus a gwaith rhagweithiol i fynd i'r afael â gwerthu fêps anghyfreithlon a gwerthu fêps i blant dan oedran wedi golygu gorfod ailgyfeirio adnoddau o arolygiadau arferol.  Mynegwyd cryn bryder ynghylch y cynnydd mewn fêpio anghyfreithlon a'r defnydd ohonynt gan rai dan oedran. Er mwyn galluogi'r Pwyllgor i gael dealltwriaeth lawn o fêpio anghyfreithlon a fêpio dan oedran a'r gwaith i fynd i'r afael â'r mater, cynigiwyd ychwanegu adroddiad am hyn at Flaengynllun Gwaith y Pwyllgor. Eiliwyd y cynnig hwn.

 

PENDERFYNWYD:-

 

5.1      derbyn Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 ar gyfer 2024/25

5.2      ychwanegu adroddiad a roddai wybodaeth am waith ymchwiliadau adweithiol a gwaith rhagweithiol i fynd i'r afael â gwerthufêps anghyfreithlon a gwerthu fêps dan oedran, at Flaengynllun Gwaith y Pwyllgor.

 

6.

ADRODDIAD ALLDRO CYLLIDEB REFENIW 2023/24 pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Alldro Cyllideb Refeniw 2023/24 mewn perthynas â'r Gwasanaethau Lle a Seilwaith a Diogelu'r Cyhoedd oedd o fewn ei gylch gwaith. Nodwyd bod gorwariant cyffredinol o £832k gan y gwasanaethau.

 

Gwnaed yr arsylwadau a'r ymholiadau canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

  • Cyfeiriwyd at Atodiad B yr adroddiad ac nad oedd defnydd llawn yn cael ei wneud o'r ceir adrannol o hyd. Dywedodd y Rheolwr Gwella Busnes, yn dilyn y peilot oedd ar waith i gynyddu'r defnydd o'r ceir, mai'r gobaith oedd byddai ffigyrau adroddiad Chwarter 3 yn dangos cynnydd.

 

  • Cyfeiriwyd at Atodiad D yr adroddiad.  Gofynnwyd am ddiweddariad ar gyflwyno'r ail gerbyd gorfodi â chamera a'i ddefnydd y tu allan i ysgolion.  Dywedodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol ei fod bellach yn gwbl weithredol ac yn cael ei ddefnyddio mewn lleoliadau lle'r oedd ei angen fwyaf, gan gynnwys strydoedd mwy diogel ger ysgolion.

 

  • Gofynnwyd nifer o gwestiynau ynghylch y diweddariadau canlynol ac ymatebodd y swyddogion iddynt:-

 

  • Atodiad D(i) – Glanhau. 

Yn edrych ar hyn o bryd ar ffyrdd o leihau costau drwy ddigideiddio

 

  • Atodiad D(ix) – Gwasanaethau Parcio

Cafodd y tîm ei longyfarch ar ei holl waith caled. Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, er bod meysydd parcio yn creu refeniw, nad yw'n gost niwtral.

 

·       Atodiad D(ii) - Diogelwch Ffyrdd a Rheoli Traffig / Cau Ffyrdd

Soniwyd bod ffyrdd yn cael eu cau er taw mân atgyweiriadau oedd angen eu gwneud, gan achosi gwyriadau mawr lle gallai goleuadau traffig fod yn ddigonol. Dywedodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol y byddai'n ymchwilio ymhellach i'r mater hwn ac yn trefnu monitro cwmnïau cyfleustodau yn agos.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Alldro Cyllideb Refeniw 2023/24 yn cael ei dderbyn.

 

 

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2024/25 pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2024/25 y Gwasanaethau Lle a Seilwaith a Diogelu'r Cyhoedd oedd o fewn ei gylch gwaith. Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau yr adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 30 Mehefin 2024.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2024/25 yn cael ei dderbyn.

 

 

8.

ADOLYGIAD O'R STRATEGAETH BARCIO pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad am yr adolygiad arfaethedig o'r Strategaeth Barcio. Diben yr adroddiad oedd cynghori'r Pwyllgor Craffu am yr adolygiad oedd i ddod o Strategaeth Barcio Sir Gaerfyrddin.  Cyflwynwyd yr adroddiad i'r Pwyllgor gan yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd yn absenoldeb yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith.

 

Gwnaed yr arsylwadau a'r ymholiadau canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

  • Teimlwyd bod parcio ar linellau melyn dwbl, yn enwedig gyda'r nos, yn broblem gynyddol yr oedd angen ei blaenoriaethu. Gofynnwyd sut roedd gorfodi rheolau parcio ar linellau melyn dwbl yn cael ei reoli?  Awgrymwyd ymhellach y gallai'r Cyngor weithio mewn partneriaeth â Heddlu Dyfed-Powys i roi pwerau gorfodi i Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau wrth y Pwyllgor fod Heddlu Dyfed-Powys yn edrych ar hyn o bryd ar roi'r pwerau i'r Swyddogion orfodi troseddau parcio.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd, er y byddai gorfodi yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad, mai ar daliadau parcio fyddai'r prif bwyslais. Croesawodd y Pwyllgor yr adolygiad er mwyn ystyried busnesau newydd, nifer yr ymwelwyr, a'r sefyllfa economaidd roedd cymunedau'n wynebu.  

 

  • Gofynnwyd a fyddai'r mannau parcio i Gerbydau Nwyddau Trwm yn cael eu hystyried?  Dywedodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol y gallent fod yn rhan o'r Adolygiad o'r Strategaeth Barcio.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr Adolygiad o'r Strategaeth Barcio.

 

 

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor y byddai'r Cynlluniau Busnes yn cael eu cynnwys yn y Blaengynllun Gwaith.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gytuno ar y rhestr o'r eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor oedd i'w gynnal ar 20 Tachwedd 2024.