Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Cooper, S. Godfrey-Coles a G.B. Thomas. |
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig. |
|||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2023/24 PDF 103 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad monitro ariannol ar Gyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2023/24 y Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a Lle a Seilwaith ar gyfer y cyfnod hyd at 29 Chwefror 2024.
Dywedwyd bod y gyllideb refeniw ar y cyfan yn rhagweld gorwariant cyffredinol o £1,280k ar ddiwedd y flwyddyn. Rhagwelwyd gwariant net yn y gyllideb gyfalaf o £15,802k o gymharu â chyllideb net weithredol o £29,179k gan roi amrywiant o £-13,377k.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:
Wrth ystyried yr adroddiad, gofynnodd y Pwyllgor am i wybodaeth ychwanegol gael ei chynnwys o fewn meysydd amrywiadau gwariant sylweddol yn adroddiadau'r dyfodol i roi gwybod i'r aelodau am y sefyllfa gyllidebol ac i alluogi craffu effeithiol ar y meysydd perthnasol. Cytunwyd y byddai adborth y Pwyllgor yn cael ei drosglwyddo i'r adrannau priodol ac atgoffwyd yr aelodau y gellid gwneud ceisiadau am adroddiadau manwl fel rhan o rôl y Pwyllgor wrth nodi tueddiadau o fewn meysydd sy'n berthnasol i'w gylch gwaith.
Mewn ymateb i'r pryderon a godwyd mewn perthynas â'r cynnydd mewn gwariant ar drydan mewn safleoedd tirlenwi sydd wedi cau, darparwyd sicrwydd bod swyddogion yn edrych ar y mater hwn ar hyn o bryd, a'r bwriad oedd nodi atebion i liniaru costau wrth symud ymlaen.
Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, y bydd adroddiad yn ymwneud â thaliadau parcio'r Cyngor yn cael ei ystyried gan y Cabinet maes o law.
Cyfeiriwyd at dangyflawniad incwm ar gyfer safleoedd trwyddedig lle nad oedd y targed yn adlewyrchu nifer y busnesau trwyddedadwy yn y sir. Eglurodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod y gorwariant a ragwelwyd yn seiliedig ar yr incwm wedi'i ddilysu o flwyddyn i flwyddyn, a oedd bellach angen ei adolygu yng ngoleuni'r gostyngiad yn nifer y safleoedd trwyddedadwy ar draws y Sir. Cytunwyd y byddai rhagor o wybodaeth yn hyn o beth yn cael ei dosbarthu i'r Pwyllgor dros e-bost.
Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith i'r Pwyllgor nad oedd digon o gyllid wedi dod i law gan y Llywodraeth Ganolog a Llywodraeth Cymru i gynnal priffyrdd y sir i lefel briodol.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y gost o brynu tir a'r ffioedd cysylltiedig ar gyfer Llwybr Dyffryn Tywi, cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau at y broses gymhleth a hir sy'n ofynnol i sicrhau bod cynllun uchelgeisiol yr Awdurdod yn cael ei ddarparu'n briodol. Hefyd rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai adolygiad yn ymwneud â Llwybr Dyffryn Tywi yn cael ei ystyried gan y Cabinet maes o law.
Eglurodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd wrth y Pwyllgor fod adolygiad arbenigol ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||||||
EFFEITHLONRWYDD YNNI A CHYNHYRCHU YNNI MEWN TAI HANESYDDOL PDF 103 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad i'w ystyried ar effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu ynni mewn perthynas â stoc adeiladau hanesyddol y sir. Cyflwynwyd yr adroddiad yn dilyn atgyfeiriad gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio a oedd yn nodi gwerth adeiladau hanesyddol i Sir Gaerfyrddin, yr angen i gynnal adeiladau o'r fath yn briodol gyda'r deunyddiau a'r dulliau cywir o atgyweirio, a hynny er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Roedd yr adroddiad yn manylu ar ymrwymiad yr Awdurdod i wella effeithlonrwydd ynni ei adeiladau, gan gynnwys y rhai sydd â gwarchodaeth statudol, yn unol â fframweithiau deddfwriaethol a pholisi perthnasol, er mwyn cyrraedd ei dargedau di-garbon, lleihau tlodi tanwydd a gwella iechyd pobl. Yn hyn o beth, cyfeiriwyd at ddatblygu canllawiau cynllunio atodol drafft ar dreftadaeth adeiledig a fyddai'n destun ymgynghoriad yn fuan, a datblygu cynlluniau ynni'r ardal leol a fyddai'n nodi'r newidiadau y mae eu hangen i ddatgarboneiddio'r system ynni leol yn Sir Gaerfyrddin ynghyd ag amcangyfrif lefel uchel o gostau.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:
Mewn ymateb i sylwadau a wnaed, cadarnhaodd yr Uwch-swyddog Treftadaeth Adeiledig fod 3 o'r 29 o ardaloedd cadwraeth ledled Caerfyrddin yn destun amodau 'Erthygl 4' a thrwy hynny'n dileu hawliau datblygu a ganiateir deiliaid tai. Yn unol â hynny, eglurwyd na fyddai unrhyw gyfyngiadau cynllunio ychwanegol ar osod Paneli Solar i'r 26 o ardaloedd cadwraeth eraill nad ydynt yn destun amodau 'Erthygl 4'. Pwysleisiwyd bod penderfyniadau o'r fath yn cael eu gwneud yn unol â deddfwriaeth a'u bod yn ystyried y gwerth cynhenid a roddwyd ar dreftadaeth adeiledig y sir.
Yn dilyn ymholiad ynghylch gofynion cyllido ar gyfer adfer adeiladau hanesyddol, cyfeiriodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd at Gynllun Ynni Ardal Leol drafft yr Awdurdod a oedd yn darparu'r costau ynni cyffredinol ar gyfer yr Awdurdod cyfan, ond nid oedd costau manwl ar dreftadaeth adeiledig na stoc dai hanesyddol y sir ar gael ar hyn o bryd, ond gallai fod yn faes i'w archwilio ymhellach maes o law ar ôl gweithredu'r Cynllun.
Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad ac roedd yr aelodau'n falch o nodi'r gefnogaeth a ddarparwyd gan yr Awdurdod i fusnesau a pherchnogion tai ledled y sir mewn perthynas ag arbed ynni a mesurau cynhyrchu ynni priodol ar gyfer adeiladau hanesyddol. Yn dilyn gwahoddiad a estynnwyd gan yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd, cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymweliad safle â Chanolfan Tywi a oedd yn rhan o'r tîm Lle a Chynaliadwyedd ac, fel awdurdod ledled y DU, rhoddodd gyngor, hyfforddiant ac addysg ynghylch y gofal, y gwaith atgyweirio a'r gwaith addasu priodol i adeiladau hanesyddol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||||
BLAENRAGLEN WAITH AR GYFER 2024/25 PDF 99 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd nad oedd unrhyw wybodaeth wedi dod i law i awgrymu na fyddai'r Strategaeth Farchogaeth yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor fel y nodwyd yn y Blaengynllun Gwaith.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Blaengynllun Gwaith Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd ar gyfer 2024/25. |
|||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 98 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 22 EBRILL 2024 PDF 118 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |