Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd N. Lewis.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

 

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.

CAMAU GWEITHREDU'R PWYLLGOR CRAFFU - LLE, CYNALIADWYEDD A NEWID HINSAWDD - 2022/23 pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.

CYNLLUN RHEOLI STRATEGOL GLANHAU STRYDOEDD 2023 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, a oedd yn darparu gwybodaeth allweddol mewn perthynas â Chynllun Rheoli Strategol Glanhau Strydoedd 2023.  Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r ffordd y byddai'r Cyngor yn adolygu ac yn gwella ei ddarpariaeth gwasanaethau glanhau wrth fodloni gofynion deddfwriaethol Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.  Byddai'r Cynllun yn llunio dyfodol y gwasanaeth i gyflawni anghenion y Cynllun Rheoli Ansawdd Amgylcheddol Lleol a'r dyletswyddau a gyflawnir gan yr Awdurdod drwy God Ymarfer ar Sbwriel a Gwastraff a Chanllawiau Cysylltiedig 2007.

 

Holwyd ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at baragraff 1.19 o'r adroddiad a oedd yn nodi mai'r Dangosydd Glendid Cymru Gyfan ar gyfer 2022-23 yw 68.8 ac, ar hyn o bryd, fod gan Sir Gaerfyrddin sgôr o 67.4 sy'n ein gosod yn y 14eg safle yng Nghymru.  Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd yr Aelod Cabinet fod hyder y byddai'r Gwasanaeth Glanhau newydd, ynghyd â chydweithio, yn gwella'r Dangosydd Glendid Cymru Gyfan ymhellach yn y dyfodol.

 

·       Nodwyd bod cynghorwyr yn derbyn llawer o negeseuon e-bost gan drigolion yn rhoi gwybod am finiau llawn y mae angen eu gwagio.  Cydnabuwyd bod timau casglu sbwriel lleol yn ymdrin â'r rhain yn aml, ac felly dywedwyd nad yw'r mater hwn yn cael ei riportio'n aml gan nad yw wedi mynd drwy sianel riportio y Gwasanaethau Democrataidd.  Dywedodd y Pennaeth Gwastraff Dros Dro, fel rhan o'r arbedion effeithlonrwydd, y byddai biniau sbwriel yn cael eu lleihau 20% ar draws y sir ac anogodd yr aelodau i gyfrannu at y broses fonitro. Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Pennaeth Gwastraff Dros Dro y byddai'r aelod ward priodol yn cael gwybod am y biniau sbwriel a nodir ar gyfer eu gwaredu ledled y sir, ynghyd â'r rhesymeg.

 

·       Codwyd ymholiad ynghylch addysgu'r cyhoedd mewn perthynas â'r strategaeth.  Eglurodd y Pennaeth Gwastraff Dros Dro, ar wahân i’r Cynllun Rheoli Strategol Glanhau Strydoedd, fod rhaglen addysg ac ymwybyddiaeth gadarn a nodwyd yn y Cynllun Amgylchedd o Safon Lleol.  Yn ogystal, roedd gwaith allweddol yn cael ei wneud ochr yn ochr ag awdurdodau lleol eraill mewn perthynas â datblygu dull Cymru gyfan fel rhan o brosiect Caru Cymru.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch codi ymwybyddiaeth ac addysg drwy fynychu sioeau/ffeiriau/digwyddiadau, eglurodd y Pennaeth Gwastraff Dros Dro nad oedd modd mynychu pob sioe/ffair/digwyddiad, fodd bynnag, byddai rhestr o'r digwyddiadau y bwriedir bod yn bresennol ynddynt yn cael ei rhannu â'r aelodau a byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddatblygu proses lle gallai Aelodau ofyn am bresenoldeb mewn sioeau/ffeiriau/digwyddiadau lleol pe bai adnoddau'n caniatáu hynny.

 

·       Dywedwyd y byddai Aelodau yn bresennol yn Eisteddfod yr Urdd i addysgu plant am leihau gwastraff ac ailgylchu.

 

·       Gofynnwyd am eglurder mewn perthynas â'r strategaeth i wella ar y cam presennol ar raddfa Dangosydd Glendid Cymru Gyfan ac, wrth ymdrechu i wella, roedd yn cynnwys cynnydd mewn lefelau staffio ac, os felly, a fyddai'r ddibyniaeth ar staff asiantaeth yn lleihau a chostau yn cael eu gwrthbwyso?  Dywedodd y Pennaeth Gwastraff Dros Dro, fel  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNALIWYD AR 14 EBRILL 2023 pdf eicon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

8.

CYNLLUN BUSNES AC ADRODDIAD CYNNYDD HANNER BLWYDDYN CWM ENVIRONMENTAL LTD 2022-2023

Cofnodion:

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 7 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran cynnal cyfrinachedd er mwyn cynnal buddiannau a sefyllfa'r cwmni mewn trafodaethau masnachol/busnes.

 

Cafodd y Pwyllgor Gynllun Busnes 2022-23 Cwm Environmental Ltd a'r adroddiad cynnydd hanner blwyddyn, a gyflwynwyd gan Reolwr Gyfarwyddwr Cwm Environmental Ltd.

 

Nododd yr Aelodau fod cynllun busnes tair blynedd Cwm Environmental Ltd 2022-23 i 2024-25 wedi'i lunio i nodi amcanion strategol y cwmni, ei amcanion darparu gwasanaeth, y risgiau masnachol y mae'n eu hwynebu, ynghyd â'i berfformiad ariannol disgwyliedig. Roedd y Cynllun hefyd yn sicrhau bod strategaeth Cwm yn cyd-fynd ag agenda gwastraff ac amcanion ehangach Sir Gaerfyrddin, ac yn eu cyflawni. 

 

Roedd yr adroddiad cynnydd yn rhoi diweddariad canol blwyddyn ar berfformiad a chamau gweithredu mewn perthynas â'r cynllun busnes ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23.

 

Codwyd nifer o ymholiadau mewn perthynas â'r adroddiad ac ymatebodd Rheolwr Gyfarwyddwr Cwm Environmental Ltd iddynt gyda chymorth swyddogion.

 

Codwyd ymholiadau mewn perthynas â'r canlynol:

·       costau ariannol;

·       compost a'i strategaeth brisio;

·       cerbydau trydan yn rhaglen adnewyddu'r fflyd 2025-2030 – materion a chostau cysylltiedig;

·       economi gylchol;

·       Y Gweithdy Atgyweirio a'r Siop Ailddefnyddio (ETO).

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynllun Busnes ac Adroddiad Cynnydd Hanner Blwyddyn Cwm Environmental Ltd 2022-2023 yn cael ei dderbyn.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau