Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd - Dydd Iau, 23ain Tachwedd, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Cooper a K. Madge.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

T.A.J. Davies a G.B. Thomas

 5. Llawlyfr Cynnal a Chadw y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd Rhan 4.8 – Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf a Thywydd Garw Priffyrdd

Mae'r Cynghorydd yn dirfeddiannwr sy'n gyfrifol am dir sydd wrth ymyl cwlferi ar ochr y ffordd. 

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.

ADRODDIAD DATGANIAD BLYNYDDOL 2023 Y CYNLLUN RHEOLI ASEDAU PRIFFYRDD pdf eicon PDF 303 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Datganiad Blynyddol 2023 y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith.  Tynnodd yr Aelod Cabinet sylw at yr heriau sylweddol yr oedd yr Awdurdod yn eu hwynebu.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Wrth nodi bod gan Sir Gaerfyrddin y rhwydwaith priffyrdd ail fwyaf yng Nghymru a'i bod yn y trydydd safle yng Nghymru o ran maint traffig ar ei ffyrdd, mynegwyd pryderon cryf wrth nodi bod yr adroddiad hwn, yn debyg i'r blynyddoedd blaenorol, yn dangos dirywiad parhaus yng nghyflwr y ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin. Cydnabuwyd mai'r unig ffordd o wella cyflwr presennol y ffyrdd fyddai derbyn lefel ddigonol o gyllid gan y Llywodraeth. 

 

Mynegwyd pryderon pellach bod y pwysau parhaus ar y gyllideb yn cael effaith ar gyflwr y ffyrdd o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd fel achos amlwg a'r cynnydd mewn costau deunyddiau, adeiladu a gosod wyneb, yn ogystal â chost uwch gweithrediadau'r gwasanaeth dros y gaeaf. Cydnabuwyd y byddai'r ased hollbwysig yn parhau i ddirywio heb y cyllid angenrheidiol. 

 

Cyfeiriwyd at dudalen 16 yr adroddiad a oedd yn nodi 'yn yr un modd ag Awdurdodau priffyrdd eraill, mae gan Sir Gaerfyrddin ôl-groniad sylweddol, sef dros £63m yn ôl yr amcangyfrif, o ran gwaith cynnal a chadw wyneb priffyrdd, sy'n cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.’  Roedd hyn yn achosi tipyn o bryder i aelodau'r Pwyllgor a gyfeiriodd at y buddsoddiad 'digyfnewid' oedd ei angen o £8m o'i gymharu â'r cyllid cyfalaf disgwyliedig yn 2024/25 o £0.6m y flwyddyn, na fyddai'n gynaliadwy.

 

Hefyd, fel y nodwyd ar dudalen 16 yr adroddiad, gwnaed sylwadau bod cynnydd mewn anfodlonrwydd ymhlith y cyhoedd ar gyflwr y priffyrdd a bod y ceisiadau gwasanaethau cwsmeriaid yn cynyddu a oedd yn rhoi mwy o alw ar adnoddau mewn ymateb i'r materion.  Dywedwyd nad oedd y dull adweithiol hwn yn gost effeithiol nac yn gynaliadwy.

 

Cydnabu Aelodau'r Pwyllgor fod y ffyrdd wedi dirywio o ganlyniad i argyfwng cyllido. Nodwyd hefyd y byddai'n cymryd tua 12 mlynedd i sicrhau bod cyflwr y pontydd yn cyrraedd lefel foddhaol.

 

Cyfeiriwyd at dudalen 18 yr adroddiad - Troedffyrdd a Llwybrau Beicio a'r datganiad 'Nid oes cyllid cyfalaf ar gael ar gyfer 2023/24’.  Dywedwyd bod troedffyrdd hefyd mewn cyflwr gwael a heb unrhyw gyllid cyfalaf ar gyfer y flwyddyn nesaf mynegwyd pryder cryf y gallai hyn achosi anaf i ddefnyddwyr.

 

Cydnabu'r Rheolwr Gwasanaethau Priffyrdd a Thrafnidiaeth yr holl bryderon a'r materion a godwyd gan yr aelodau ac roedd yn cydymdeimlo â nhw, ac ailadroddodd y pwysau a'r heriau cyllidebol yr oedd yr adran yn eu hwynebu.  Wrth gydnabod dirywiad yr ased a'r ôl-groniad cynnal a chadw yn sgil hynny, dywedwyd wrth yr aelodau bod yr adran yn wynebu cynnydd mewn gwaith cynnal a chadw ymatebol a oedd yn cael effaith sylweddol ar dimau priffyrdd gan eu troi oddi wrth waith cynnal a chadw hanfodol arall a gynlluniwyd.  Yn ei hanfod, roedd yr adran dan gyfyngiadau cyllidebol sylweddol.

 

Awgrymwyd y byddai'n fuddiol cynnal ymarfer cysylltiadau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

LLAWLYFR CYNNAL A CHADW Y CYNLLUN RHEOLI ASEDAU PRIFFYRDD RHAN 4.8 - CYNLLUN GWASANAETH DROS Y GAEAF A THYWYDD GARW PRIFFYRDD pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

[Sylwer: Wrth ystyried yr eitem hon, datganodd y Cynghorwyr A.D.T. Davies a G.B. Thomas fuddiant personol. Arhosodd y ddau Gynghorydd yn y cyfarfod gan gymryd rhan yn y trafodaethau ynghylch yr eitem ond ni phleidleisiodd y ddau yn ei chylch.]

 

Cafodd y Pwyllgor Lawlyfr Cynnal a Chadw'r Cynllun Rheoli Asedau Priffordd i gefnogi'r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith.

Roedd yr adroddiad yn gofyn i'r Pwyllgor ystyried a rhoi sylwadau ar ran 4.8 – Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf a Thywydd Garw Priffyrdd sydd ynghlwm wrth yr adroddiad cyn i'r Cabinet ei mabwysiadu.

 

Codwyd y sylwadau/ymholiadau canlynol ynghylch yr adroddiad:-

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cyfrifoldeb tirfeddianwyr i glirio ffosydd ar ochr y ffordd, eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Priffyrdd a Thrafnidiaeth nad oedd dull cyffredinol o orfodi tirfeddianwyr i glirio ffosydd ar ochr y ffordd, ond bod y timau priffyrdd lleol yn cysylltu â thirfeddianwyr i ddatrys problemau yn lleol ac osgoi unrhyw gamau gorfodi posibl lle bo hynny'n bosibl. 

 

Roedd taflenni wedi'u llunio ar y cyd ag NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru ac mewn ymgynghoriad â Chymdeithas y Tirfeddianwyr i egluro cyfrifoldebau tirfeddianwyr sy'n berchen ar dir ger y briffordd gyhoeddus.  Roedd y daflen wedi cael ei hyrwyddo drwy'r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned a'i dosbarthu i bob Cyngor Tref a Chymuned.  Mae'r daflen hefyd ar gael ar wefan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CABINET fod Llawlyfr Cynnal a Chadw y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd – Rhan 4.8 – Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf a Thywydd Garw Priffyrdd yn cael ei chymeradwyo.

 

 

6.

STRATEGAETH TOILEDAU LLEOL DDRAFFT pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y fersiwn ddrafft o'r Strategaeth Toiledau Lleol a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith. Dywedwyd bod Rhan 8 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017: Darparu Toiledau wedi dod i rym ar 31 Mai 2018 a'i bod yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i baratoi a chyhoeddi Strategaeth Toiledau Lleol ar gyfer ei ardal.   

 

Hefyd, dywedwyd wrth y Pwyllgor, er nad oedd gofyniad statudol ar Awdurdodau Lleol i ddarparu toiledau cyhoeddus, nad oedd y ddyletswydd i baratoi Strategaeth ynddi'i hun yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol ddarparu a chynnal a chadw toiledau cyhoeddus eu hunain.  Fodd bynnag, roedd yn ofynnol i Awdurdodau Lleol ystyried yn strategol sut y gellir darparu’r cyfleusterau hyn a sut y gall y boblogaeth leol gael mynediad iddynt. Wrth wneud hynny, rhagwelir y byddai awdurdodau lleol yn ystyried ystod lawn o opsiynau ar gyfer sicrhau bod cyfleusterau ar gael i'r cyhoedd.

 

 

Codwyd y sylwadau/ymholiadau canlynol ynghylch yr adroddiad:-

 

·       Wrth gydnabod yr adroddiad drafft, awgrymwyd cyn cwblhau'r adroddiad terfynol bod swyddogion yn edrych ar y posibilrwydd o gael cyllid drwy Gronfa Y Pethau Pwysig.  Dywedwyd bod Awdurdodau eraill wedi defnyddio'r gronfa hon ar gyfer cyfleusterau cyhoeddus.  Dywedodd y Rheolwr Gwella Busnes y byddai'r holl ffrydiau cyllido posibl yn cael eu hystyried ac y byddai awgrymiadau ynghylch cyfleoedd cyllido yn cael eu croesawu.

 

·       Dywedwyd er nad oedd dyletswydd statudol ar y cyngor i ddarparu cyfleusterau cyhoeddus, bod yn rhaid cydnabod ei fod yn angen dynol sylfaenol ac, yn benodol, efallai na fydd yr henoed, er enghraifft, yn ymweld ag ardal lle nad oes cyfleusterau cyhoeddus ar gael a fyddai, yn ei dro, yn effeithio ar yr economi.  Yn ogystal, cydnabuwyd bod gan rai Cynghorau Tref a Chymuned gyfleusterau cyhoeddus o fewn eu hawdurdodaeth ond dywedwyd bod y costau refeniw yn dreth ar eu cyllidebau, yn enwedig os oedd fandaliaeth dro ar ôl tro yn broblem.  Gofynnwyd sut arall fyddai cyfleusterau toiledau yn cael eu darparu. Gan ystyried yr holl bethau a godwyd, cytunodd y Rheolwr Gwella Busnes fod angen ystyried ac archwilio'r mater ymhellach i gefnogi'r ddarpariaeth o gyfleusterau toiledau ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

 

·       Dywedwyd ei bod yn bwysig cynnwys ystyriaethau ynghylch sicrhau bod cyfleusterau toiledau digonol ar gael mewn ardaloedd siopa y tu allan i'r dref.  Gellid gwneud hyn drwy gefnogi busnesau lleol i ddarparu cyfleusterau toiledau cyhoeddus.  Byddai hyn yn fuddiol i'r busnes a'r cwsmer. Cytunodd y Rheolwr Gwella Busnes â'r sylwadau a'r awgrymiadau a dywedodd y byddai'n fuddiol cefnogi busnesau lleol i gefnogi anghenion y gymuned.

 

·       Esboniodd Aelod o'r Pwyllgor ei fod wedi bod yn trafod â chynrychiolydd o Gr?p Cymorth Canser y Prostad Gorllewin Cymru ynghylch yr ymgyrch Bechgyn angen Biniau.  Nod yr ymgyrch oedd codi ymwybyddiaeth o anymataliaeth dynion a'r angen am finiau mewn toiledau dynion.  Mewn ymateb i gynnig a wnaed gan y gr?p cymorth a fyddai'n darparu'r biniau am gost isel, gofynnwyd a allai'r Cyngor gefnogi'r fenter hon trwy osod y biniau ar gyfer cynhyrchion  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYFLWYNO GORCHYMYN GWARCHOD MANNAU CYHOEDDUS (PSPO) - CANOL TREF LLANELLI pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus Canol Tref Llanelli.  Roedd yr adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio, yn gofyn i'r pwyllgor adolygu ac asesu'r wybodaeth yn yr adroddiad yn ymwneud â gwneud Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus newydd ar gyfer Canol Tref Llanelli.

 

Nododd yr Aelodau fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwneud Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn 2020 o dan Adran 59 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 i fynd i'r afael â'r anhrefn a'r niwsans sy'n gysylltiedig ag alcohol mewn rhannau o ganol tref Llanelli. Daeth y Gorchymyn i rym ar 1 Hydref 2020 a daeth i ben ar 30 Medi 2023.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi bod Cyngor Sir Caerfyrddin o'r farn bod y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus wedi bod yn effeithiol o ran lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol. Fodd bynnag, roedd y defnydd gwrthgymdeithasol o alcohol, cyffuriau a reolir a sylweddau seicoweithredol yng nghanol tref Llanelli wedi cael, ac yn debygol o barhau i gael, effaith andwyol ar ansawdd bywyd pobl yn yr ardal leol.  Roedd pryderon parhaus gan y gymuned a'r heddlu ynghylch y mater hwn, ac yn ogystal, mae pryderon yn ymwneud â chyffuriau wedi'u mynegi.

Mae'r pryderon hyn yn cael eu cefnogi gan ddata ynghylch troseddau ac anhrefn ac yn dangos yr angen i gyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus newydd i roi pwerau ychwanegol i swyddogion dynodedig ddelio â'r materion hyn.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad roedd y Pwyllgor yn hapus gyda'i gynnwys ac felly nid oedd ganddo unrhyw sylwadau nac ymholiadau i'w gwneud.  Roedd aelodau'r pwyllgor o blaid cyflwyno'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn Llanelli am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CABINET y dylid cymeradwyo cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus – Canol Tref Llanelli.

 

 

8.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y rhestr o eitemau i gael eu cynnwys ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf oedd i'w gynnal ar 14 Rhagfyr 2023 a rhoddwyd cyfle i'r Pwyllgor wneud cais am unrhyw wybodaeth benodol yr hoffai'r Aelodau ei chynnwys yn yr adroddiadau.

 

Mewn ymateb i gais am ohirio ystyried adroddiad y Fflyd Drydan, rhoddodd y Cadeirydd wybod i'r Pwyllgor am y rheswm ac awgrymodd y dylai'r adroddiad gael ei ystyried gan y Pwyllgor ym mis Mawrth 2024. Byddai hyn yn caniatáu i'r Panel ar Hinsawdd a'r Argyfwng Natur wneud darn o waith i adolygu'r cwmpas i gyflwyno cerbydau allyriadau isel iawn ar draws gwasanaethau'r Cyngor, a fyddai'n cynnwys cerbydau trydan fel rhan o'r fflyd yn y dyfodol.

 

Yn ogystal, dywedodd y Cadeirydd, gan nad oedd y Pwyllgor wedi cyflwyno unrhyw sylwadau nac ymholiadau ynghylch adroddiad Cynllun Rheoli Traethlin 2 a ddosbarthwyd at ddibenion craffu drwy e-bost ar 17 Hydref 2023, gofynnwyd am i'r adroddiad gael ei ddosbarthu at ddibenion craffu drwy e-bost unwaith eto yn gofyn am sylwadau gan yr aelodau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y rhestr o'r eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 14 Rhagfyr 2023 ac eithrio adroddiad y Fflyd Drydan a fyddai'n cael ei symud i fis Mawrth 2024.

 

 

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 3 HYDREF 2023 pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion: