Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd - Dydd Iau, 14eg Rhagfyr, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S. Godfrey-Coles a N. Lewis.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

 B.D.J. Phillips

5. DOGFEN CYNLUNIO A CHWMPASU DDRAFFT - Adolygiad o Swyddogaeth Trwyddedu Bridio C?n y Tîm Iechyd Anifeiliaid, Materion Defnyddwyr a Busnes

Mae brawd y Cynghorydd Phillips yn berchen ar gynelau c?n trwyddedig.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

 

 

4.

GORFODI RHEOLAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ynghyd â chyflwyniad a oedd yn rhoi trosolwg ar ddulliau Gorfodi Cynllunio y Cyngor a'r cynnydd o ran hynny.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio, gan dynnu sylw at y ffaith bod gan y Cyngor rôl ddewisol o ran cymryd pa gamau gorfodi bynnag oedd eu hangen yn ei ardal fel yr Awdurdod Cynllunio Lleol er budd y cyhoedd. Pwysleisiwyd pwysigrwydd gwasanaeth gorfodi cynllunio effeithiol wrth geisio sicrhau bod polisïau cynllunio cenedlaethol a lleol yn cael eu gweithredu'n gadarn ac yn rhesymol.

 

I gefnogi'r adroddiad, aeth yr Uwch-reolwr Datblygu a Gorfodi â'r Pwyllgor drwy'r cyflwyniad a oedd wedi'i atodi i'r adroddiad.  Roedd y cyflwyniad yn rhoi trosolwg o'r system gorfodi cynllunio ac yn manylu ar y prosesau a'r pwerau gorfodi oedd ar gael i'r Cyngor.

 

Ymatebwyd fel a ganlyn i'r sylwadau a roddwyd:-

 

·       Mewn ymateb i ymholiadau yngl?n â'r gyllideb a'r costau mewn perthynas â gorfodi, a phryd nad oedd er budd y cyhoedd i fynd ar drywydd achos, eglurodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd nad oedd cyllideb wedi'i neilltuo'n benodol ar gyfer Gorfodi Cynllunio.  Priodolir costau oedd ynghlwm wrth achosion cyn mynd i'r llys drwy gyllideb yr adran. Yn yr achosion sy'n mynd i'r Llys a allai fod yn destun erlyniad/gwaharddeb, byddai achos busnes yn cael ei ddatblygu a byddai cyllid yn cael ei geisio gan gronfeydd wrth gefn yr adran. Fodd bynnag, safbwynt yr Awdurdod oedd ceisio costau o'r llys, ond yn anffodus nid oedd y trywydd hwn yn ddibynadwy.  O ran achosion budd y cyhoedd, pwysleisiodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd fod dilyn achosion gorfodi yn rhan o brawf budd y cyhoedd ynghyd ag ystyried y niwed y gallai achosion ei gael ar fudd cyhoeddus ehangach.

 

·       Cyfeiriwyd at y graff a oedd yn darparu data mewn perthynas â chanlyniadau o fwy neu lai nag 84 diwrnod. Gofynnwyd beth oedd y cyfartaledd dros 84 diwrnod? Dywedodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd ei fod yn credu bod y cyfartaledd hwnnw tua 400 diwrnod. Eglurwyd bod y cyfartaledd yn cael ei gofnodi pan gâi achos ei ddatrys, ond bod effaith anghymesur ar y ffigurau cyfartalog yn y data gan fod hen achosion oedd newydd eu datrys wedi eu cynnwys. Fodd bynnag, er mwyn monitro perfformiad, dadansoddodd yr adran y data trwy eithrio'r data mewn perthynas ag hen achosion. Esboniodd yr Uwch-swyddog Gorfodi a Monitro y data yn fanylach gan gynnwys y data apelio.

 

·       Ers cyflwyno'r Hwb, dywedwyd bod yn rhaid i Aelodau Lleol bellach fynd drwy'r un broses â thrigolion eu wardiau er mwyn cael ymateb i faterion gorfodi.  Awgrymwyd y gallai gwella'r cyfathrebu ag aelodau lleol osgoi drwgdeimlad posibl yn y materion emosiynol hyn.  Dywedodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd fod y mater hwn yn cael ei ailystyried fel prosiect ar hyn o bryd, a byddai'r awgrymiadau gan yr aelodau yn cael eu hystyried i wella'r broses gyfathrebu o ran gorfodi.

 

·       Gofynnwyd pa mor hir roedd yn ei gymryd i swyddogion ymweld â safle ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

FERSIWN DRAFFT O'R DDOGFEN CYNLLUNIO A CHWMPASU - Adolygiad o'r Swyddogaeth Trwyddedu Bridio Cwn y Tîm Iechyd Anifeiliaid, Materion Defnyddwyr a Busnes pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorydd Dorian Phillips, ar ôl datgan buddiant personol yn gynharach, wedi gadael y cyfarfod cyn i'r eitem hon gael ei hystyried.]

 

Bu i'r Pwyllgor, gan iddo gytuno i gynnal Gr?p Gorchwyl a Gorffen ar broblemau bridio c?n yn Sir Gaerfyrddin mewn cyfarfod ar 15 Tachwedd 2020, ac wedi hynny gwblhau'r Adolygiad Gorchwyl a Gorffen ar Dipio Anghyfreithlon y cytunodd y Pwyllgor i'w gwblhau cyn dechrau ar y gwaith bridio c?n, dderbyn Dogfen Cynllunio a Chwmpasu Drafft y Gr?p Gorchwyl a Gorffen ar Adolygu Swyddogaeth Trwyddedu Bridio C?n Tîm Iechyd Anifeiliaid y Materion Defnyddwyr a Busnes.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried nodau a chwmpas gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen, fel y nodir yn y ddogfen cynllunio a chwmpasu.  Wrth gydnabod natur emosiynol y pwnc, roedd yr Aelodau'n awyddus i gynnal yr adolygiad a chynnwys ymweliadau safle â chynelau trwyddedig ac ymchwilio i'r problemau mewn perthynas â chynelau oedd heb drwydded a'r broses orfodi.

 

Er mwyn ffurfio Gr?p Gorchwyl a Gorffen ag aelodaeth wleidyddol gytbwys, gofynnodd y Cadeirydd am hyd at 6 enwebiad gan y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

 

5.1      dderbyn y Ddogfen Cynllunio a Chwmpasu ddrafft ar Swyddogaeth Trwyddedu Bridio C?ny Tîm Iechyd Anifeiliaid, Materion Defnyddwyr a Busnes;

 

5.2      cymeradwyo nodau a chwmpas gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen fel y nodir yn y Ddogfen Cynllunio a Chwmpasu;

5.3  bod Aelodaeth y Gr?p Gorchwyl a Gorffen sy'n gytbwys yn wleidyddol o ran Swyddogaeth Trwyddedu Bridio C?n y Tîm Iechyd Anifeiliaid, Materion Defnyddwyr a Busnes fel a ganlyn:-

 

 

Y CYNGHORYDD

PARTI

1.

Y Cynghorydd Arwel Davies

Plaid Cymru

2.

Y Cynghorydd Karen Davies

Plaid Cymru

3.

Y Cynghorydd Gareth Thomas

Plaid Cymru

4.

Y Cynghorydd Kevin Madge

Llafur

5.

Y Cynghorydd Tina Higgins

Llafur

6.

Y Cynghorydd Sue Allen

Annibynnol

 

 

6.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 78 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad Rheoli Plâu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

6.1      dderbyn y dyddiad diwygiedig ar gyfer yr adroddiad Rheoli Plâu;

6.2      nodi'r esboniad dros beidio â'i gyflwyno.

 

 

7.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y rhestr o eitemau i gael eu cynnwys ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf oedd i'w gynnal ar 30 Ionawr 2024 a rhoddwyd cyfle i'r Pwyllgor wneud cais am unrhyw wybodaeth benodol yr hoffai'r Aelodau ei chynnwys yn yr adroddiadau.

 

Yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd i dderbyn a chraffu ar adroddiadau y tu allan i broses ffurfiol y pwyllgor, anfonwyd yr adroddiadau canlynol at holl aelodau'r Pwyllgor Craffu drwy e-bost ar 28 Tachwedd 2023:

 

·       Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2023/24

·       Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 2023/2024 (01/04/23 - 30/09/23) - sy'n berthnasol i'r maes craffu hwn

·       Rheoli Traethlin ac Addasu Arfordirol yn Sir Gaerfyrddin

 

Dywedodd yr Aelodau fod yr adroddiad yn cynnwys nifer o ymholiadau a sylwadau mewn perthynas â'r adroddiadau uchod ynghyd ag ymatebion.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

7.1     cytuno ar y rhestr o'r eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 30 Ionawr 2024;

7.2     nodi'r sylwadau a dderbyniwyd ar yr adroddiadau a ddosbarthwyd drwy e-bost at ddibenion craffu.

7.3     cynnwys Rheoli Traethlin ac Addasu Arfordirol yn Sir Gaerfyrddin ar agenda ffurfiol ym Mlaengynllun Gwaith y Pwyllgor.

 

 

8.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 23 TACHWEDD 2023 pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion: