Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Media
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol. Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y STRATEGAETH WASTRAFF PDF 346 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn darparu crynodeb o'r newidiadau interim a gyflwynwyd i'r gwasanaeth gwastraff ar 23 Ionawr 2023.
Roedd yr adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith yn cynnwys diweddariad ar ddarpariaeth bresennol y gwasanaethau gwastraff sy'n gwasanaethu 91,000 o aelwydydd.
Dywedwyd ers cyflwyno'r newid interim i’r gwasanaeth gwastraff ym mis Ionawr 2023, bod y ddarpariaeth wedi'i chyflawni drwy'r canlynol:
- Casgliadau ailgylchu sych wythnosol [bagiau glas]; - Casgliadau bob tair wythnos o hyd at dri bag [du] o ddeunydd na ellir ei ailgylchu. Cyflwyno gwasanaeth casglu gwydr i 95% o'r tai yn Sir Gaerfyrddin i gasglu poteli a jariau gwydr o d? i d? bob tair wythnos; - gyda gwastraff bwyd yn parhau i gael ei gasglu bob wythnos.
Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i'r wybodaeth ganlynol yn yr adroddiad: · Ffigurau perfformiad y mesur interim; · Adborth yn dilyn cyflwyno'r newidiadau · Trosolwg o gam dau - Newidiadau i'r Gwasanaeth Gwastraff · Llywodraethu · Cerbydau ar gyfer glasbrint o’r casgliadau didoli wrth ymyl y ffordd · Llinell amser a chyfathrebu
Ymatebwyd fel a ganlyn i’r sylwadau a fynegwyd:-
· Mynegwyd pryder o ran y swm mawr o arian sy'n cael ei wario ar hyn er mwyn cyrraedd y targedau perthnasol. Eglurodd y Rheolwr Strategaeth a Pholisi Gwastraff er bod dyraniad y gyllideb wedi'i drafod yn drwyadl gyda Llywodraeth Cymru ac Aelodau'r Awdurdod, byddai goblygiadau costau o ran peidio â chyrraedd y targedau ailgylchu.
· Wrth longyfarch y cynnydd yn y perfformiad o ran gwastraff sy'n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio, pwysleisiwyd ei bod yn bwysig parhau i gadw ffocws.
· Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd fod dyheadau mawr o ran yr economi gylchol gan gynnig darparu rhagor o wybodaeth am hyn i'r Pwyllgor. Cytunodd yr Aelodau y byddai hyn o fudd ac y byddai'n cael ei gynnwys ar y Blaengynllun Gwaith fel sesiwn ddatblygu.
· Cyfeiriwyd at y trosolwg o gam dau yr adroddiad a oedd yn nodi nad oedd y depos gweithredol sef Cillefwr, Glanaman a Trostre yn gallu hwyluso a gweithredu methodoleg y glasbrint ar gyfer y Sir gyfan. Mynegwyd pryder yngl?n â’r awgrym i gau'r safleoedd hyn. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith fod hyn yn gyfnod cynnar a dywedodd yRheolwr Strategaeth a Pholisi Gwastraff, er nad oedd penderfyniadau pendant wedi'u gwneud, darparwyd sicrwydd y byddai’r gofynion o ran staff yn cael eu bodloni.
|
|
ADOLYGIAD GWASTRAFF SWMPUS PDF 1 MB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad am yr Adolygiad Gwastraff Swmpus Roedd yr adroddiad yn cyflwyno cwmpas yr adolygiad o ran y gwasanaeth gwastraff swmpus i'w ystyried a darparu sylwadau rhagarweiniol. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith mae'r nod oedd cyflawni i'r eithaf y potensial o ran ailddefnyddio ac ailgylchu eitemau gwastraff swmpus, hyrwyddo cynaliadwyedd, lleihau ôl troed carbon y gwasanaeth, a gwneud cynnydd o ran 'Eto', sef prosiect Economi Gylchol y Cyngor, a mentrau cymunedol eraill tebyg.
Ymatebwyd fel a ganlyn i’r sylwadau a fynegwyd:-
· Cyfeiriwyd at broffil y gwastraff swmpus o ran eitemau a phwysau yn yr adroddiad. Teimlwyd bod y 69% o bwysau amcangyfrifedig yn cael ei briodoli'n bennaf i ddodrefn rhatach nad oedd o wneuthuriad cystal â'r dodrefn o safon uchel gan achosi cyfradd gwaredu uwch. Dywedwyd y dylid buddsoddi mwy i annog a chynghori'r cyhoedd ar sut y gallent gynnal a gofalu am eu dodrefn, a fyddai yn ei dro yn para'n hirach gan osgoi'r gyfradd uchel o wastraff swmpus.
Roedd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd wrth nodi’r heriau yn cydnabod bod llawer mwy y gellid ei gyflawni.
· Dywedwyd y gellid defnyddio mannau gwag mawr fel Debenhams yng Nghaerfyrddin fel canolfan atgyweirio ac y gellid gwella'r Cyfeiriadur Atgyweirio ar-lein i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r cyhoedd ar ba eitemau y gellir eu trwsio ble.
5.1 derbyn yr Adolygiad Gwastraff Swmpus; 5.2 bod swyddogion yn nodi sylwadau'r Pwyllgor ar yr opsiynau posibl ar gyfer y Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus yn y dyfodol yn ystod y cam ymgysylltu cynnar hwn.
|
|
STRATEGAETH DRAFFT AR GYFER RHEOLI GLASWELLTIR I BRYFED PEILLIO PDF 138 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn atodi'r strategaeth ddrafft ar gyfer rheoli glaswelltir ar gyfer peillwyr ar ystâd Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2023. Wrth gyflwyno'r adroddiad, roedd yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd wedi tynnu sylw at y ffaith fod y Cyngor hwn wedi nodi ei uchelgais fel rhan o Ddatganiad Gweledigaeth y Cabinet i gynyddu bioamrywiaeth ar yr holl dir sy'n eiddo i'r Cyngor, a chydnabod y gydberthynas gref rhwng newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth a llesiant pobl.
Dywedwyd ei fod yn gyfle da i rannu'r strategaeth ddrafft â'r Pwyllgor yn ystod camau cynnar ei ddatblygiad.
Dywedwyd wrth Aelodau'r Pwyllgor fod y strategaeth ddrafft yn ystyried glaswelltiroedd amwynder, tir ysgolion, y portffolio adfywio a'r portffolio tai ond nid oedd fodd bynnag yn cynnwys perthi ac ymylon ffyrdd na thir fferm.
Ymatebwyd fel a ganlyn i’r sylwadau a fynegwyd:-
· Mynegwyd nifer o sylwadau wrth gydnabod y dirywiad yn y rhywogaeth a chymeradwywyd y ffaith fod y strategaeth yn cynnwys cynnydd mewn blodau gwyllt a fyddai yn ei dro yn gwneud gwahaniaeth o ran cynyddu gwenyn, ieir bach yr haf a rhywogaethau eraill.
· Adroddwyd bod darnau o laswellt, yn cynnwys pabïau, wedi cael eu torri yn ystod toriad glaswellt a oedd wedi'i drefnu. Pan gafodd ei herio dywedodd y gweithredwr fod y glaswellt yn cael ei dorri fel rhan o amserlen. Dywedodd yr Aelod Cabinet fod hwn yn faes ar gyfer gwella'n barhaus. Eglurodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd fod glaswellt amwynder yn hanesyddol yn cael ei dorri am resymau esthetig, fodd bynnag, roedd newidiadau'n cael eu gwneud wrth ystyried amseriad y toriadau i roi amser i flodau hadu, ffawna i atgynhyrchu ac i'r pridd a natur i ffynnu. Trwy arweinyddiaeth a chyfarwyddyd mae nawr yn gyfle da i newid ar gyfer y dyfodol. Pwysleisiodd y Rheolwr Tiroedd a Glanhau nad dyma'r gyfarwyddeb oedd yn cael ei roi ar hyn o bryd ac y byddai ymdrech ar y cyd i hyfforddi staff a chodi ymwybyddiaeth yn cael ei wneud. · Rhoddwyd clod i bawb a fu'n rhan o ddatblygu'r Strategaeth.
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch gweithio gydag Eco-bwyllgorau ysgolion, dywedodd y Swyddog Bioamrywiaeth fod yr adran yn aml yn gweithio gydag ysgolion yn unigol, pan fyddant yn cysylltu â'r adran am gyngor a hefyd gyda'r Gr?p Gweithredu Ysgolion. Adroddwyd mai disgyblion yr ysgolion yn aml sy'n pwyso am wneud mwy o waith mewn meysydd o'r fath. Yn ogystal, mae Cynghorau Tref a Chymuned wedi gwneud cryn dipyn o waith yn dilyn ceisiadau llwyddiannus am gyllid grant.
· Dywedodd y Swyddog Bioamrywiaeth fod y Cyngor wedi buddsoddi mewn offer torri a chasglu newydd i weithio tuag at weithredu'r strategaeth.
· Roedd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd wedi nodi mai'r agwedd bwysig oedd y gwaith cydweithredol ac eglurodd mai cam cyntaf y strategaeth oedd casglu tystiolaeth, a gosod polisi y byddai asesiadau effaith, cost ac ardal yn cael eu cwblhau dros gyfnod yr Hydref. Byddai dull ymgysylltu cadarn wedi'i dargedu gyda'r cymunedau hefyd yn flaenoriaeth.
· Gofynnwyd a oedd cynllun neu sgôp i ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
ATGYFEIRIAD GAN Y PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU, CARTREFI AC ADFYWIO - MEHEFIN 2023 PDF 104 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor atgyfeiriad gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio a benderfynwyd arno yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2023. Roedd yr atgyfeiriad yn gofyn i'r Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd edrych ar y mater ehangach o effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu ynni mewn perthynas â stoc tai hanesyddol y sir.
Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd fod yr atgyfeiriad yn ymwneud ag adolygiad o ardaloedd cadwraeth o dan gylch gwaith y polisi cynllunio. Yng nghyd-destun y polisi cynllunio, bu'r Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio hefyd yn trafod y mater pwysig ynghylch mesurau effeithlonrwydd ynni gan eu bod yn ymwneud ag adeiladau rhestredig ledled Sir Gaerfyrddin.
7.1 Derbyn y mater a gyfeiriwyd gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio - Mehefin 2023.
7.2 Ychwanegu adroddiad sy'n darparu data a gwybodaeth am effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu ynni mewn perthynas â stoc dai hanesyddol y sir at Flaengynllun Gwaith y Pwyllgor.
|
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 97 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 23 Tachwedd 2023.
|
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 21 GORFFENNAF 2023 PDF 135 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Dweud eich dweud
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2024Gyllideb
- Prif Gynllun Teithio Llesol Y Tymbl
- Strategaeth Hamdden 2023-33 ymgynghoriad cymunedol
- Trwyddedu Bridio Cŵn yn Sir Gaerfyrddin
- Cynnig i ffedereiddio Ysgol Rhys Prichard ac Ysgol Llangadog o 1 Medi 2024.
- Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
- Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
- Strategaeth Leol ar gyfer Perygl Llifogydd 2024-2030
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Strategaeth Cyfleusterau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin
- Creu Sir Gaerfyrddin Ddigidol
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2023
- Ymgynghoriad ynghylch Polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed Ysgolion Cynradd 2025/26
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Blaengynlluniau Waith
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
- Cynllun Cyflenwi Tai Fforddiadwy 2016 - 20
- Datganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022 - 2027 (Gorffennaf 2022)
- Strategaeth Drawsnewid Cyngor Sir Caerfyrddin
- Polisi Diogelu Corfforaethol
- Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2018 - 2021
- Strategaeth Technoleg Ddigidol 2018 - 2021
- Strategaeth Trawsnewid Digidol
- Cymorth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin 2018-23
- Gwybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth Llyfrgelloedd - Symud ymlaen 2017 - 2025
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg (1)
- Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen
- Cynllun Cydraddoldeb Strategol
- Cynllun Trechu Tlodi 2023
- Strategaeth Hybu’r Gymraeg
- Safonau’r Gymraeg
- Adroddiad Blynyddol y Gymraeg
Y Cyllideb y Cyngor
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Perfformiad y Cyngor
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-23
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
- Etholiad Cyffredinol Seneddol y Deyrnas Unedig
- Pleidleisio
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Prawf Adnabod Pleidleisiwr
- Recriwtio ar gyfer etholiadau
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth