Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd - Dydd Gwener, 14eg Ebrill, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2022/23 pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad monitro ariannol a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau ynghylch Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2022/23 y Gwasanaeth Lle a Seilwaith a'r Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Rhagfyr 2022.

 

Dywedwyd bod y gyllideb refeniw ar y cyfan yn rhagweld gorwariant cyffredinol o £593k ar ddiwedd y flwyddyn.  Rhagwelwyd gwariant net yn y gyllideb gyfalaf o £15,263k o gymharu â chyllideb net weithredol o £19,105k gan roi amrywiant o £-3,824k.

 

Nododd y Pwyllgor, mewn perthynas â'r adroddiad arbedion, mai'r disgwyl oedd y byddai £694k o arbedion Rheolaethol mewn perthynas â tharged o £824k yn cael ei gyflawni ar ddiwedd y flwyddyn.  Yn ogystal, cyflwynwyd £20k o arbedion Polisi mewn perthynas â tharged o £20k ar gyfer 2022/23 a rhagwelwyd y byddai'r rhain yn cael eu cyflawni.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·       O ran gwella'r amgylchedd, cyfeiriwyd at Atodiad B lle mynegwyd pryder y gallai'r pwysau ariannol parhaus roi'r daith o ran bod yn garbon sero net yn y fantol.  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau y byddai'r Awdurdod Lleol yn ymdrechu'n barhaus i gyrraedd y targedau angenrheidiol.

 

·       Cyfeiriwyd at Atodiad B yr adroddiad – Priffyrdd a Thrafnidiaeth. Mewn perthynas â'r mater o hebryngwyr croesfannau ysgol, lle nodwyd bod 'sawl swydd wedi dod yn wag ac na fyddai'r swyddi'n cael eu llenwi', gofynnwyd ai dyma'r polisi ac, os felly, a fyddai croesfannau i gerddwyr yn cael eu rhoi ar waith?  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau mai'r polisi oedd trefnu bod staff croesfannau ysgolion yn ymddeol mewn mannau lle'r oedd darpariaeth electronig ar gael. Mewn mannau lle nad oedd darpariaethau addas ar gael byddai staff croesfannau ysgol yn parhau yno.

 

·       Cyfeiriwyd at Atodiad E yr adroddiad Seilwaith Priffyrdd Rhydaman a oedd yn nodi bod angen 'penderfyniad corfforaethol o ystyried adolygiad ffyrdd Llywodraeth Cymru', a gofynnwyd am esboniad.  Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth y byddai angen rhoi rhagor o ystyriaeth yn dilyn Adroddiad Ffyrdd diweddar Llywodraeth Cymru.  Roedd canlyniadau'r adolygiad yn cynnwys meini prawf polisi newydd a fyddai'n golygu goblygiadau i bob cynllun ffordd yn y dyfodol.


 

·       Cyfeiriwyd at Atodiad B yr adroddiad - Y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff.  O ran y tanwariant a briodolwyd i Orfodi Materion Amgylcheddol, gofynnwyd pryd y byddai hyn yn cael ei asesu, a phryd y rhoddir gwybod am y canlyniad? Dywedodd y Pennaeth Gwastraff Dros Dro fod Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor yn ystyried yr elfennau hyn yn ei adolygiad ar Reoli Tipio Anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin.  Priodolwyd y tanwariant i staff yn gadel, lle mae trefniadau dros dro wedi'u rhoi ar waith. Nodwyd, ar ôl ystyried y strwythur adrannol, argymhellion yr adolygiad Gorchwyl a Gorffen a'r cyfyngiadau cyllidebol, y byddai'r amserlen yn debygol o fod hyd at 6 mis.

 

·       Cyfeiriwyd at Atodiad E – Eiddo.  O ran y Gwasanaeth "Tasgfan" Ysgolion, dywedwyd bod 'mwy o waith yn cael ei nodi mewn ysgolion y mae angen ei wneud', a chodwyd pryderon y gallai'r gorwariant barhau i waethygu mewn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

CYNLLUN NODDI CYLCHFANNAU pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar y Cynllun Noddi Cylchfannau newydd a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith.

 

Nodwyd y byddai'r Cynllun Noddi Cylchfannau newydd yn golygu bod modd i fusnesau noddi cylchfan yn y Sir a gweld eu cwmni'n cael ei hyrwyddo mewn lleoliadau allai fod yn amlwg iawn heb achosi costau i'r Cyngor.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth yn amlinellu sut y byddai'r cynllun yn gweithio'n ymarferol ac yn ystyried unrhyw faterion cyfreithiol posib, ynghyd â sut y gellid sefydlu meini prawf diogelwch perthnasol i liniaru unrhyw risg posib i ddefnyddwyr y ffyrdd ac o bosibl i'r Cyngor.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·       Gofynnwyd a oedd y cynllun yn agored i ymholiadau gan fusnesau y tu allan i'r Sir.  Dywedodd yr Aelod Cabinet y byddai pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun. Mewn ymateb i gwestiwn arall, esboniodd y Rheolwr Gwella Busnes y byddai gweithgor bach, a oedd yn cynnwys adrannau megis Marchnata a'r Cyfryngau a Chynllunio a Phriffyrdd, yn ystyried y ceisiadau a'r manylebau eang gan ddefnyddio matrics blaenoriaethu.  Yn ogystal, nodwyd y gallai cylchfan gynnwys mwy nag un noddwr.

 

·       Dywedwyd, er bod cynllun nawdd newydd i'w groesawu, y gobaith oedd y byddai cylchfannau yn parhau heb arwyddion gan fod perygl o gael gormod o arwyddion.  Awgrymwyd y gellid cyflawni hyn drwy gael busnesau'n noddi cerfluniau ar gylchfannau yn hytrach na defnyddio llawer o arwyddion llethol.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch sut y byddai'r gystadleuaeth rhwng busnesau lleol a busnesau rhyngwladol yn cael ei rheoli, dywedodd y Rheolwr Gwella Busnes y byddai'r matrics blaenoriaethu yn ffafrio busnesau lleol ac y byddai pwysoliad y matrics yn cael ei fonitro.

 

·       Gofynnwyd a allai busnesau llai lleol gael cost well.  Esboniodd y Rheolwr Gwella Busnes, gan mai cynllun budd i'r ddwy ochr oedd hwn, roedd y prisiau a gynigir yn werth da am arian yn enwedig o ystyried yr hinsawdd bresennol.

 

PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CABINET fod y Cynllun Noddi Cylchfannau yn cael ei gymeradwyo.

 

 

6.

STRATEGAETH GORFFORAETHOL - CYNGOR SIR CAERFYRDDIN 2022-27 pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Strategaeth Gorfforaethol 2022-27 y Cyngor i'w hystyried, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd.

 

Roedd Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, a oedd yn cynnwys amcanion llesiant y Cyngor, yn pennu cyfeiriad a blaenoriaethau'r sefydliad dros gyfnod y weinyddiaeth bresennol.  Roedd y Strategaeth yn darparu'r fframwaith ar gyfer cyflawni gweledigaeth ac ymrwymiadau'r Cabinet yn ystod y cyfnod hwnnw.  Byddai'r strategaeth newydd yn canolbwyntio ar nifer llai o amcanion yn seiliedig ar y boblogaeth gan nodi'r blaenoriaethau thematig, blaenoriaethau gwasanaethau a galluogwyr busnes craidd y byddai'r Cyngor yn ceisio eu symud yn eu blaen yn ystod y cyfnod hwnnw.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·       Dywedodd y Cadeirydd, yn unol â Blaengynllun Gwaith y Pwyllgor a'r adroddiad nad oedd wedi'i gyflwyno y cytunwyd yn eu cylch yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 23 Ionawr 2023, fod y Strategaeth Gorfforaethol eisoes wedi'i chymeradwyo gan y Cyngor llawn yn ei gyfarfod ar 1 Mawrth 2023.  Yng ngoleuni hyn, parhaodd y Strategaeth Gorfforaethol yn eitem ar agenda'r Pwyllgor, gan roi cyfle i Aelodau'r Pwyllgor Craffu graffu arni gan feddu ar y ddealltwriaeth fod y cynllun eisoes wedi'i gymeradwyo.

 

Wrth nodi bod y Strategaeth Gorfforaethol eisoes wedi'i chymeradwyo cyn i'r Pwyllgor graffu arni, cynigiwyd bod Strategaethau Corfforaethol y dyfodol yn cael eu darparu i'r Pwyllgor mewn modd amserol er mwyn i'r aelodau graffu'n briodol ar gynnwys y Strategaethau cyn iddynt gael eu cadarnhau gan y Cyngor llawn.  Eiliwyd y cynnig hwn.

 

Gan gydnabod bod y Strategaeth eisoes wedi'i chymeradwyo, nododd yr Aelod Cabinet fod pob Aelod Etholedig wedi cael gwahoddiad i ddod i sesiwn ymgynghori a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2023 a oedd yn gyfle i'r Aelodau roi adborth ar y Strategaeth Gorfforaethol, ynghyd â'r Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2023 a'r Cyngor Llawn ar 1 Mawrth 2023.

 

Ni chodwyd dim cwestiynau ar gynnwys y Strategaeth Gorfforaethol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Pwyllgor yn cael y Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer craffu cyhoeddus mewn modd amserol cyn iddi gael ei chymeradwyo gan y Cyngor llawn.

 

 

7.

CYNLLUNIAU CYFLAWNI IS-ADRANNOL DRAFFT 2023-24 pdf eicon PDF 132 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cynlluniau Cyflawni Gwasanaeth Is-adrannol Drafft sy'n berthnasol i'r isadrannau o fewn y gyfarwyddiaeth Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd ar gyfer 2023/24 fel a ganlyn:

 

·   Is-adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth – Atodiad 1 yr adroddiad

·   Is-adran y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff - Atodiad 2 yr adroddiad

·   Is-adran Dylunio a Chynnal a Chadw Eiddo - Atodiad 3 yr adroddiad

·   Is-adran Lle a Chynaliadwyedd - Atodiad 4 yr adroddiad

·   Is-adran Gwella Gwasanaethau a Thrawsnewid - Atodiad 5 yr adroddiad

 

Roedd y Cynlluniau Cyflawni Gwasanaeth Is-adrannol Drafft yn pennu'r camau a'r mesurau strategol i'w gweithredu ym mhob isadran er mwyn i'r Cyngor wneud cynnydd mewn perthynas â'i amcanion llesiant, ei flaenoriaethau thematig a blaenoriaethau'r gwasanaeth.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor am bob Cynllun Is-adrannol Drafft, fel a ganlyn:

 

Cynllun Cyflawni Is-adrannol - Priffyrdd a Thrafnidiaeth
[Atodiad 1 yr adroddiad]

 

·       Cyfeiriwyd at y Cam Gweithredu a'r Mesur o fewn yr adran Rheoli Asedau Priffyrdd - 'ar ôl i gyllid Llywodraeth Cymru gael ei dynnu yn ôl, archwilio'r holl opsiynau ariannu posibl i gefnogi rhaglen o wella cyflwr ffyrdd gwledig.’    Gofynnwyd pa opsiynau ariannu oedd yn cael eu hystyried.  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros  Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith fod gan Sir Gaerfyrddin y rhwydwaith priffyrdd ail fwyaf yng Nghymru sy'n cynnwys ffyrdd B, ffyrdd C a ffyrdd diddosbarth yn bennaf, a oedd mewn cyflwr gwael a bod gwaith sylweddol heb ei wneud.  Pwysleisiwyd bod yn rhaid chwilio am ddulliau ariannu amgen. 

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y mater hwn o ganlyniad i Brosiect Cyni Llywodraeth y DU, ond pan ddechreuwyd torri cyllidebau yn 2010, y rhwydwaith priffyrdd a dargedwyd gyntaf.  O ganlyniad, mae amodau'r rhwydwaith ffyrdd wedi dirywio gyda diffyg o £45m, sef yr hyn sydd ei angen i gynnal a chadw'r ffyrdd.  Dywedwyd bod hyn yn ymestyn y tu hwnt i Sir Gaerfyrddin. 

 

O ran cyllid yn y dyfodol, dywedodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod cyllid wedi ei sicrhau drwy gyflwyno ceisiadau i gael mynediad at gyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn atgyweirio ffyrdd a gafodd ddifrod mewn stormydd.  Yn ogystal, cyflwynwyd ceisiadau i gael mynediad at gyllid ar gyfer adnewyddu ffyrdd a ffyrdd cydnerth.  Sicrhawyd yr Aelodau y byddai ceisiadau'n cael eu cyflwyno i gael cyllid i wella'r rhwydwaith ffyrdd cyn gynted ag y cyhoeddir cyfleoedd i gael cyllid grant.

 

·       Gan gydnabod llwyth gwaith trwm yr adran briffyrdd, canmolwyd y tîm priffyrdd am ymateb yn gyflym i adroddiadau o amodau ffyrdd peryglus, a diolchwyd i'r tîm.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad a wnaed mewn perthynas â'r 'ffynhonnell gyfeirio' o fewn y cynllun, esboniodd yr Aelod Cabinet fod gan y cynlluniau ddyluniad newydd er mwyn cyd-fynd yn well â'r Strategaeth Gorfforaethol a'r Amcanion Llesiant ynghyd â gweledigaeth y Cabinet.

 

·       Cyfeiriwyd at y Cam Gweithredu a'r Mesur o fewn yr adran Cynllunio a Seilwaith - 'Adolygu'r strategaeth fflyd cerbydau bresennol gyda'r bwriad o ddefnyddio'r dechnoleg cerbydau mwyaf addas ac allyriadau isel (gan gynnwys ffynonellau trydan neu ffynonellau p?er eraill) dros y blynyddoedd nesaf.' O ran  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

DRAFFT CYNLLUNIAU CYFLAWNI GWASANAETH 2023-24 I TAI A DIOGELU'R CYHOEDD pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Derbyniodd y Pwyllgor Gynllun Cyflawni Gwasanaeth Is-adrannol Drafft 2023-24 ar gyfer Tai a Diogelu'r Cyhoedd sy'n berthnasol i'r gyfarwyddiaeth Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd.  Roedd y cynllun yn pennu'r camau a'r mesurau strategol i'w cyflwyno er mwyn i'r Cyngor wneud cynnydd mewn perthynas â'i Amcanion Llesiant, ei flaenoriaethau thematig a blaenoriaethau'r gwasanaeth.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, croesawodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd faterion/ymholiadau mewn perthynas ag elfen Diogelu'r Cyhoedd y cynllun is-adrannol fel cylch gorchwyl y Pwyllgor Craffu hwn.

 

Ni chodwyd dim materion/sylwadau gan y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Cynlluniau Is-adrannol Drafft 2023-24 ar gyfer Tai a Diogelu'r Cyhoedd yn cael eu derbyn.

 

 

9.

PEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

The Committee received an explanation for the non-submission of the scrutiny report pertaining to the Delivery Plan for Community Safety/Crime and Disorder.  The revised submission date being 30th June 2023.

 

RESOLVED that the explanation for the non-submission be noted.

 

11.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 24 CHWEFROR 2023 pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adolygodd y Pwyllgor y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn ei gyfarfod nesaf i'w gynnal ar 15 Mai 2023, a oedd wedi deillio o Flaengynllun Gwaith y Pwyllgor am 2022/23. Pwysleisiodd y Cadeirydd fod y Blaengynllun Gwaith yn ddogfen hyblyg y gellid ei diweddaru yn ôl y gofyn trwy gydol y flwyddyn wrth i wybodaeth newydd ddod i'r amlwg.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r adroddiadau canlynol yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf ar 15 Mai 2023:-

 

-   Adroddiad y Gr?p Gorchwyl a Gorffen ynghylch Rheoli Tipio Anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin gan fod yr adroddiad yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd. 

 

-   Cynllun Busnes CWM Environmental 2022-23, oherwydd amgylchiadau personol cynrychiolydd Cwm Amgylcheddol.

 

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 15 Mai, 2023.