Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd - Dydd Llun, 23ain Ionawr, 2023 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr S. Godfrey-Coles, C. Evans, G. Jones a P. Cooper.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

A. Davies

 5 - Ymgynghori ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 hyd at 2025/26

Mae hawliau tramwy cyhoeddus yn croesi tir y mae'n berchen arno.

 D. Phillips

 5 - Ymgynghori ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 hyd at 2025/26

Mae hawliau tramwy cyhoeddus yn croesi tir y mae'n berchen arno.

 G. Thomas

 5 - Ymgynghori ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 hyd at 2025/26

Mae hawliau tramwy cyhoeddus yn croesi tir y mae'n berchen arno.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r Cynlluniau Busnes Adrannol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

4.1      derbyn y dyddiad diwygiedig ar gyfer y Cynlluniau Busnes Adrannol;

4.2      nodi'r esboniad dros beidio â'i gyflwyno.

 

 

5.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2023/24 TAN 2025/26 pdf eicon PDF 92 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorwyr A. Davies, D. Phillips a G. Thomas wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon. Bu iddynt aros yn y cyfarfod ac yn cymryd rhan yn y trafodaethau a'r pleidleisio yn eu cylch.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar Strategaeth Cyllideb Refeniw y Cyngor 2023/24 i 2025/26, fel y'i cymeradwywyd gan y Cabinet at ddibenion ymgynghori yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2023. Roedd yr adroddiad yn darparu'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2023/2024, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2024/2025 a 2025/2026, yn seiliedig ar ragamcanion ynghylch gofynion gwariant y swyddogion ac yn ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 14 Rhagfyr 2022.

 

Dywedodd y Pwyllgor, er bod y setliad amodol a gyhoeddwyd yn cynrychioli cynnydd cyfartalog o 8.0% ledled Cymru ar setliad 2022/23, fod cynnydd Sir Gaerfyrddin wedi bod yn 8.5% (£26.432m) gan felly gymryd y Cyllid Allanol Cyfun i £338.017m ar gyfer 2023/24. Er bod y setliad yn sylweddol uwch na'r ffigwr dangosol cychwynnol, sef cynnydd o 3.4%, ac yn darparu tua £15.5m yn fwy na rhagdybiaeth wreiddiol y Cyngor, roedd Llywodraeth Cymru wedi cydnabod na fyddai'r ffigwr cynyddol yn ddigonol o hyd i ymdopi â'r pwysau chwyddiant oedd yn wynebu cynghorau, dyfarniadau cyflog, a'r cynnydd mewn prisiau tanwydd, ac roedd penderfyniadau anodd i'w gwneud.

 

Tra bo cynigion y gyllideb yn tybio bod yr holl gynigion am arbedion yn cael eu cyflawni'n llawn, nodwyd byddai angen gwneud gwaith pellach i ddatblygu'r gostyngiadau mewn costau ar gyfer blynyddoedd ariannol 2024/25 a 2025/26 er mwyn gallu cynnal y Strategaeth Cyllideb a'r lefel Treth Gyngor presennol. 

 

Dywedwyd, o ystyried risgiau presennol Strategaeth y Gyllideb a'r cefndir parhaus o ran chwyddiant ynghyd â gwasgfeydd cyllidebol eraill, fod y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2023/24 wedi'i osod yn 7% i liniaru gostyngiadau i wasanaethau critigol. Ym mlynyddoedd 2 a 3 roedd y darlun ariannol dal yn ansicr, ac, o'r herwydd, roedd codiadau dangosol enghreifftiol o 4% a 3% yn y Dreth Gyngor wedi cael eu gwneud at ddibenion cynllunio'n unig, gan geisio taro cydbwysedd gyda'r gostyngiadau yn y gyllideb. Byddai'r cynigion hynny yn cael eu hystyried gan y Cyngor wrth bennu lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2023/24 yn ei gyfarfod ar 1 Mawrth 2023. Yn ogystal, roedd ffigur setliad terfynol Llywodraeth Cymru i gael ei gyhoeddi ar 7 Mawrth 2023 a byddai unrhyw ddiwygiadau yr oedd yn ofynnol eu hystyried i strategaeth y gyllideb o'r cyhoeddiad hwnnw hefyd yn cael eu hystyried gan y Cyngor.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:

 

·       Atodiad A(i) – Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd;

·       Atodiad A(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer Gwasanaeth yr Amgylchedd;

·       Atodiad B – Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd;

·       Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

LLAWLYFR CYNNAL A CHADW Y CYNLLUN RHEOLI ASEDAU PRIFFYRDD - RHANNAU 4.5, 4.6 A 4.7 pdf eicon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Lawlyfr Cynnal a Chadw'r Cynllun Rheoli Asedau Priffordd i gefnogi'r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith.

Gofynnodd yr adroddiad i'r Pwyllgor ystyried a rhoi sylwadau ar y rhannau canlynol sydd ynghlwm wrth yr adroddiad cyn i'r Cabinet ei fabwysiadu.

 

Rhan 4.5 - Rheoli Draenio Priffyrdd

Rhan 4.6 - Rheoli Geotechnegol

Rhan 4.7 - Ymateb Brys ar y Priffyrdd

 

Codwyd y sylwadau/ymholiadau canlynol ynghylch yr adroddiad:-

 

·       O ran cwteri a draeniad, codwyd pryder bod cwteri ar ffyrdd trac sengl wedi'u llenwi'n raddol er mwyn osgoi ceir yn disgyn i mewn ac wrth wneud hynny mae wedi cael gwared ar allfa hanfodol ar gyfer d?r sy'n cyfrannu at lifogydd. Yn ogystal, deallwyd bod CNC yn hoffi gosod canghennau mewn cwteri er mwyn ceisio arafu llif y d?r.  O ran y sylwadau, gofynnwyd sut y cafodd y rhain eu rheoli?

Esboniodd Rheolwr y Gwasanaethau Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod gan y rhan fwyaf o gwteri ar hyd y rhwydwaith priffyrdd system swmp.  Y system swmp sydd angen bod yn glir er mwyn rheoli llif y d?r.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cyfrifoldebau tirfeddianwyr cyfagos, esboniodd Rheolwr y Gwasanaethau Priffyrdd a Thrafnidiaeth, o ran y llif o'r system draenio priffyrdd i dir cyfagos, y byddai gan awdurdod priffyrdd hawl ragnodol fel arfer i lifo i'r tir.  Fodd bynnag, yn achos d?r sy'n llifo o dir cyfagos i'r briffordd, amlygwyd bod hwn yn fater mwy cymhleth a byddai angen ystyried pob achos.

 

·       O ran cyd-gyfrifoldeb CNC a'r Cyngor i gadw dyfrffyrdd yn glir, gofynnwyd sut y rheolwyd hyn?  Esboniodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth ei fod yn gymhleth ond, yn syml, CNC oedd yn gyfrifol am brif afonydd a chyrsiau d?r ac roedd gan y Cyngor gyfrifoldeb am nentydd llai a sgriniau sbwriel.  Os bydd rhybuddion tywydd garw, byddai gwiriadau ar y sgriniau sbwriel perthnasol yn cael eu gwneud i sicrhau nad oedd unrhyw ymyrraeth i lif y d?r.

 

·       Cyfeiriwyd at bibellau draenio a nodwyd yn adran 4.5.2 Gwybodaeth Asedau Draenio.  Gofynnwyd pwy oedd yn gyfrifol am bibellau tanddaearol yn y system draenio priffyrdd?  Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth mai un o'r materion cyffredin yw gwreiddiau coed yn mynd i mewn i bibellau a bod datrys hyn yn gallu defnyddio llawer o adnoddau.  Fel arfer, y tirfeddiannwr cyfagos fyddai'n gyfrifol am y goeden ac felly mae'n achos syml, ond yn y mwyafrif o achosion byddai'n rhaid i'r Cyngor dderbyn rhywfaint o atebolrwydd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd - Rhannau 4.5, 4.6 a 4.7

 

7.

DEDDFWRIAETH TERFYN CYFLYMDER 20MYA LLYWODRAETH CYMRU pdf eicon PDF 85 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad ar Ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru ynghylch y terfyn cyflymder o 20 mya, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaf am y newid yn y ddeddfwriaeth sy'n cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2023.  Byddai'r ddeddfwriaeth yn lleihau'r terfyn cyflymder diofyn 30mya presennol ar ffyrdd cyfyngedig (â goleuadau stryd) mewn ardaloedd preswyl i 20mya.

 

Codwyd y sylwadau/ymholiadau canlynol ynghylch yr adroddiad:-

 

·   Cyfeiriwyd at gyllid grant Llywodraeth Cymru o £797,074 a oedd ar gael yn 2022/23 ac y byddai ceisiadau pellach yn cael eu gwneud ar gyfer y blynyddoedd canlynol ac y rhagwelwyd y byddai hyn yn cyfateb i oddeutu £2.16M yn 2023/24.  Gofynnwyd i swyddogion pa mor obeithiol oedden nhw o ran sicrhau'r arian grant? Ac os nad oeddent, a fyddai'r arian yn dod o'r gyllideb?

Esboniodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth, gan fod Llywodraeth Cymru yn gwbl ymroddedig i ariannu'r gwaith o weithredu'r ddeddfwriaeth 20mya ynghyd â chyfathrebu cadarnhaol, ei fod yn hyderus y byddai'r cais yn llwyddiannus.

 

·   Codwyd pryderon mewn perthynas â'r canlynol:

-   yr adnoddau a fyddai'n cael eu hymrwymo i weithredu'r newid mewn terfyn cyflymder ac;

-   y gwaith gorfodi sydd ei angen i wella diogelwch.  Gofynnwyd a oedd yn bosibl i'r Pwyllgor neu'r Cyngor hwn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am arian ar gyfer swyddogion gorfodi ychwanegol;

-   O ran terfynau'r holl ffyrdd 30mya mewn ardaloedd preswyl yn cael eu lleihau i 20mya gofynnwyd a ellid newid hyn yn ôl-weithredol, os felly sut?

 

Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod prosiect wedi'i sefydlu i gyflawni'r fenter hon lle cytunwyd i gadw'r gwaith yn fewnol yn hytrach na defnyddio ffynonellau allanol drwy ymgynghoriadau.  Y manteision oedd bod gan swyddogion wybodaeth ymarferol gadarn am derfynau cyflymder, gorchmynion rheoleiddio traffig a gwybodaeth leol a fyddai'n gwasanaethu'r prosiect a'r cymunedau yn well.  Ar ben hynny, roedd amser swyddogion yn cael ei ariannu drwy'r grant.  Wrth gydnabod bod y tîm yn fach gydag amser cyfyngedig, i helpu i reoli hyn, wedi'i gynnwys fel rhan o gynigion y gyllideb oedd moratoriwm ar Orchmynion Rheoleiddio Traffig tra bod y ddeddfwriaeth hon yn cael ei chyflwyno.  Fodd bynnag, rhoddwyd sicrwydd pe byddai diogelwch yn bryder sylweddol y byddai'r achos yn cael ei ystyried yn unol â hynny.

 

O ran gorfodi, esboniodd Rheolwr y Gwasanaethau Priffyrdd a Thrafnidiaeth, er y gellid gorfodi drwy'r Heddlu a'r Bartneriaeth Gan Bwyll yn unig, y byddai pecyn adnoddau ar gael i gymunedau fel rhan o'r fenter a fyddai'n eu galluogi i sefydlu mentrau gwylio cyflymder cymunedol.  Byddai cymunedau'n gallu monitro cyflymderau gwirioneddol yn hytrach na chyflymderau canfyddedig a datblygu arolygon i ddeall lefelau diffyg cydymffurfio.  Gallai'r wybodaeth a gesglir gael ei darparu i'r heddlu er mwyn iddyn nhw cymryd y camau priodol.  Roedd y pecyn adnoddau hwn wedi'i gynnwys yn y cais.

 

Gwnaeth Rheolwr y Gwasanaethau Priffyrdd a Thrafnidiaeth gydnabod y byddai problemau yn debygol pan fydd y ddeddfwriaeth mewn grym ym mis Medi 2023, o ran barn cymunedau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

STRATEGAETH FARCHOGAETH SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad ar y Diweddariad ynghylch Strategaeth Farchogaeth Sir Gaerfyrddin, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith.  Roedd datblygu Strategaeth Farchogaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn ymrwymiad yng Nghynllun Gwella Hawliau Tramwy Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin 2019-2029.  Roedd swyddogion yn y broses o ddatblygu'r Strategaeth Farchogaeth a rhoddwyd yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed.

 

Codwyd y sylwadau/ymholiadau canlynol ynghylch yr adroddiad:-

 

·       Wrth gydnabod y rhwydwaith enfawr i'w reoli, codwyd pryder bod yr adran yn cael ei thanariannu, a bod angen buddsoddiad pellach cyn i'r rhai o'r llwybrau gael eu colli.

 

·       Dywedwyd y byddai'n fuddiol i'r Strategaeth derfynol gynnwys map llwybrau ceffylau.  Yn ogystal, er ei bod yn bleserus nodi bod dros 500 o ymatebion wedi dod i law yn dilyn yr arolwg cyhoeddus cynhwysfawr rhwng 21 Mehefin 2021 a 25 Gorffennaf 2021, gofynnwyd a allai'r Pwyllgor gael crynodeb o'r ymatebion er mwyn ystyried y sylwadau a'r data.  Cytunodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth.

 

·       Wrth ddweud nad oedd llawer o lwybrau ceffylau ar ôl mewn rhai ardaloedd, gofynnwyd a oedd modd newid llwybrau troed yn llwybrau ceffylau.  Esboniodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth, gan fod hyn yn rhywbeth newydd o ran Strategaeth Farchogaeth, fod angen gwneud ymchwil er mwyn deall anghenion y sector Marchogaeth ymhellach.  Yn dilyn dadansoddi'r wybodaeth a gasglwyd, byddai angen ystyried yr adnoddau sydd ar gael er mwyn datblygu strategaeth realistig y gellir ei chyflawni.  Hyd nes y bydd y darn hwn o waith wedi'i gwblhau, nid oedd modd penderfynu a oedd lefel yr adnoddau ar gael i reoli unrhyw newidiadau i'r llwybrau troed/llwybrau ceffylau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y Diweddariad ynghylch Strategaeth Farchogaeth Sir Gaerfyrddin.

 

 

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 15 RHAGFYR 2022 pdf eicon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion: