Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.

BLAENRAGLEN WAITH DIWEDDARAF AR GYFER 2022/23 pdf eicon PDF 74 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor ei Flaengynllun Gwaith diweddaraf ar gyfer 2022/23 i'w ystyried a'i gymeradwyo yn unol â'i benderfyniad a wnaed yn ei gyfarfod ar 4 Hydref 2022 [gweler cofnod 6.2] lle "penderfynwyd cyflwyno Blaengynllun Gwaith Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd ar gyfer 2022/23 gydag adroddiadau cyn gwneud penderfyniadau a nodwyd o Flaengynllun y Cabinet i'w cymeradwyo yn y cyfarfod nesaf.”

 

Roedd aelodau'r Pwyllgor wedi cyfarfod yn anffurfiol ar 21 Medi, 2022 i ddatblygu'r Blaengynllun Gwaith ymhellach. Bu'r aelodau yn ystyried Blaengynllun y Cabinet gan nodi pa adroddiadau i'w cynnwys ym Mlaengynllun Gwaith y Pwyllgor.

 

Yn ystod y cyfarfod anffurfiol, mynegwyd pryder ynghylch y lefelau ffosffadau mewn afonydd a'r effaith ar yr amgylchedd yn ogystal â datblygiadau cynllunio yn y dyfodol. Ar ôl derbyn briff ar y mater gan y swyddogion, roedd y Pwyllgor o'r farn y byddai'n fuddiol trafod a chraffu ar y mater hwn ymhellach. Felly, cynigwyd cynnwys adroddiad ym Mlaengynllun Gwaith y Pwyllgor. Eiliwyd y cynnig hwn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Blaengynllun Gwaith Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd ar gyfer 2022/22, yn amodol ar gynnwys adroddiad ar y lefelau ffosffadau mewn Afonydd o fewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.  

 

 

5.

GRWP GORCHWYL A GORFFEN 2022 DOGFEN GYNLLUNIO A CHWMPASU DDIWYGIEDIG ADOLYGU'R GWAITH O REOLI TIPIO ANGHYFREITHLON YN SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn amlinellu'r daith hyd yn hyn ers i'r Pwyllgor gymeradwyo'r ddogfen Cynllunio a Chwmpasu wreiddiol i Adolygu'r gwaith o Reoli Tipio anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin yn ei gyfarfod ar 2 Gorffennaf 2021.

 

Yn ei Sesiwn Datblygu Blaengynllun Gwaith anffurfiol ar 1 Tachwedd, 2022, manteisiodd y Pwyllgor ar y cyfle i drafod Dogfen Cynllunio a Chwmpasu'r adolygiad a gafodd ei gymeradwyo ar 2 Gorffennaf 2021. Cafodd canlyniad y sesiwn ei atodi i'r adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ffurfiol y Pwyllgor a ffurfio Gr?p Gorchwyl a Gorffen sy'n wleidyddol gytbwys er mwyn i'r adolygiad ddechrau.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried nodau a chwmpas diwygiedig gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen, fel y nodir yn y ddogfen cynllunio a chwmpasu. 

 

Er mwyn ffurfio Gr?p Gorchwyl a Gorffen gwleidyddol gytbwys, gofynnodd y Cadeirydd am hyd at 6 enwebiad gan y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

 

5.1      derbyn y Ddogfen Cynllunio a Chwmpasu Ddiwygiedig - Adolygu'r gwaith o Reoli Tipio Anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin;

5.2      cymeradwyo nodau a chwmpas gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen fel y nodir yn y Ddogfen Cynllunio a Chwmpasu ddiwygiedig;

5.3      bod Aelodaeth y Gr?p Gorchwyl a Gorffen sy'n gytbwys yn wleidyddol o ran Adolygu'r Gwaith o Reoli Tipio Anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin fel a ganlyn:-

 

 

Y CYNGHORYDD

PLAID

1.

Y Cynghorydd Arwel Davies

Plaid Cymru

2.

Y Cynghorydd Neil Lewis

Plaid Cymru

3.

Y Cynghorydd Dorian Phillips

Plaid Cymru

4.

Y Cynghorydd John James

Llafur

5.

Y Cynghorydd Shelly Godfrey-Coles

Llafur

6.

Y Cynghorydd Sue Allen

Annibynnol

 

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2021/22 pdf eicon PDF 160 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn atodiad i Adroddiad Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2021/22. Roedd yr adroddiad yn gofyn am ystyriaeth y pwyllgor mewn perthynas â'r meysydd o fewn maes gorchwyl y Pwyllgor.

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros y Gweithlu a Threfniadaeth golwg gorfforaethol ar yr adroddiad i'r Pwyllgor. Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith rannau o'r adroddiad blynyddol sy'n rhan o faes gorchwyl y Pwyllgor Craffu.

 

Canolbwyntiodd yr Aelodau ar yr adrannau canlynol yn y ddogfen sy'n berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor:

 

·       Amcan Llesiant 10: Gofalu am yr amgylchedd nawr ac ar gyfer y dyfodol

 

·       Amcan Llesiant: Gwella seilwaith a chysylltedd priffyrdd a thrafnidiaeth


 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at dudalen 72 a 132 yr Adroddiad Blynyddol. Gwnaed sylw fod tudalen 72 yn nodi nad oedd y targed o 64% ar gyfer y gyfradd ailgylchu wedi'i gyrraedd yn dilyn y tân yng Nghyfleuster Ailgylchu Deunyddiau Nantycaws, er hynny, nodwyd ar dudalen 132 fod Adolygiad Archwilio Cymru 2021/22 wedi canfod bod y Cyngor wedi cyrraedd ei dargedau ailgylchu statudol. Mewn ymateb i'r sylw, esboniodd y Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith, er bod Adolygiad Archwilio Cymru wedi'i gynnal yn 2021/22, roedd y wybodaeth ystadegol a ddefnyddiwyd yn yr adolygiad yn dod o 2020/21 a dyna pryd yr oedd y targed statudol o 64% wedi'i gyrraedd, gan gadarnhau bod y wybodaeth yn yr adroddiad yn gywir.

 

Mewn ymateb i ymholiad pellach, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith na fyddai'r Awdurdod yn cael ei gosbi am beidio â chyrraedd y targed ac esboniodd fod Llywodraeth Cymru yn gwbl ymwybodol o uchelgais y Cyngor i symud tuag at lasbrint newydd ar gyfer y dull casglu lle disgwylir i'r rhagfynegiadau fod yn fwy na'r targed.

 

·       Cyfeiriwyd at Siop ETO ar dudalen 77 yr adroddiad. Er mwyn bod o fudd i'r economi gylchol, gofynnwyd a oedd posibilrwydd y gallai pobl gymryd y nwyddau sy'n cael eu gwaredu mewn cynwysyddion ailgylchu cyn mynd i'r siop. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol fod rhoddion sy'n cael eu gwaredu mewn canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar hyn o bryd yn cael eu nodi fel gwastraff ac felly ni fyddai'n bosib i aelodau'r cyhoedd dynnu eitemau o'r fath o gynwysyddion/sgipiau. Fodd bynnag, wrth gydnabod y budd i'r economi gylchol byddai'n rhywbeth i'w ystyried yn y dyfodol.

 

·       O ran erydu arfordirol, gofynnwyd pryd y cafodd adolygiad cynhwysfawr ei gynnal ddiwethaf? Dywedodd y Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith fod Cynllun Rheoli Traethlin rhanbarthol, a oedd yn cael ei oruchwylio gan Adran yr Amgylchedd, yn cynnwys mesurau ynghylch diogelu a rheoli'r arfordir. Yn ogystal â'r cynllun, byddai gwaith monitro gweithredol yn cael ei wneud yn dilyn pob storm i nodi ac ymateb i unrhyw ddifrod a lliniaru unrhyw risg i gymunedau.

 

·       Cyfeiriwyd at yr adran ynghylch Rheoli'r Fflyd ar dudalen 74 y Cynllun Blynyddol. Gofynnwyd am esboniad yn dilyn sylw ynghylch gostyngiad yn y milltiroedd ynghyd â chynnydd yng nghyfanswm y diesel a ddefnyddiwyd. Esboniodd y Pennaeth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD DATGANIAD BLYNYDDOL 2022 Y CYNLLUN RHEOLI ASEDAU PRIFFYRDD pdf eicon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Datganiad Blynyddol 2022 y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Mewn ymateb i sylw a godwyd ynghylch pryder am gyflwr ffyrdd gwledig sy'n dirywio, dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod y brif broblem o ganlyniad i'r her gyson rhwng gofynion cynyddol a chyllidebau llai, ac nad oedd hyn yn unigryw i Sir Gaerfyrddin. Roedd dull seiliedig ar risg y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn canolbwyntio adnoddau cyfyngedig ar feysydd sydd â'r angen mwyaf a oedd yn cadw'r ffyrdd dosbarth uwch mewn cyflwr sefydlog. Lle bo'n briodol, byddid yn gofyn am arian a grantiau gan Lywodraeth Cymru er mwyn datrys unrhyw ddifrod o storm.

 

·       Wrth ganmol y lori tarmac poeth, 'hotbox', a ddefnyddiwyd yn Sir Gâr yn ddiweddar, gofynnwyd a fyddai'r gwasanaeth yn cynyddu yn y dyfodol? Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod yr adroddiad yn tynnu sylw at enghreifftiau o sut roedd technoleg yn cael ei defnyddio wrth foderneiddio gwaith sy'n cael ei wneud i wella effeithlonrwydd a pherfformiad, gan gynnwys defnyddio'r 'hotbox'. Roedd y fenter atgyweirio tyllau yn y ffordd gyda deunydd poeth ynghyd â threialu'r cerbyd 'hotbox' yn darparu dull mwy gwydn na atgyweirio tyllau yn y ffordd gyda deunyddiau oer. Nodwyd, o ganlyniad i gyfnod prawf llwyddiannus, byddai dau gerbyd 'hotbox' yn cael eu cyflwyno, gan wella ymhellach ein heffeithlonrwydd atgyweirio gydag un ymweliad 'atgyweirio'r tro cyntaf'.

 

·       Wrth gydnabod bod angen proses flaenoriaethu, heb gyllid digonol dywedwyd bod gostyngiadau pellach mewn cronfeydd ar gyfer priffyrdd gan y llywodraeth ganolog a'r lefel gynyddol o ddirywiad o ran ffyrdd diddosbarth yn achos pryder.  

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Datganiad Blynyddol 2022 y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd.

 

 

8.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF - ANSAWDD AER pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad diweddaru ynghylch ansawdd aer a gafodd ei gynnwys ym Mlaengynllun Gwaith y Pwyllgor ar gais y Pwyllgor gan ei fod yn destun pryder parhaus ac yn flaenoriaeth i bobl Sir Gaerfyrddin a thu hwnt.

 

Roedd yr adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd, yn cynnwys y gwaith a wnaed o ran Ansawdd Aer yn Sir Gaerfyrddin sydd â thair Ardal Rheoli Ansawdd Aer ar hyn o bryd - Llandeilo, Caerfyrddin a Llanelli. Roedd y diweddariad hwn yn nodi gwybodaeth am fonitro Nitrogen Deuocsid (NO2) ar draws Sir Gaerfyrddin gan gymharu canlyniadau â'r blynyddoedd blaenorol. Cafodd diweddariad ar y cynnydd o ran y Cynllun Cyflawni Ansawdd Aer ei gynnwys hefyd.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y wybodaeth a roddwyd am ansawdd yr aer yn Heol Rhosmaen, Llandeilo a oedd yn dangos lefelau uchel iawn o NO2.  Dywedwyd bod ansawdd yr aer yn Llandeilo wedi bod yn bryder ers rhyw 20 mlynedd a mwy a bod y mater ond yn gwaethygu o flwyddyn i flwyddyn. Dangosodd y dystiolaeth fod lefelau NO2 ddwywaith dros y terfyn cyfreithiol. Pwysleisiwyd mai'r unig ateb i wella ansawdd aer gwael yn Llandeilo fyddai datblygu ffordd osgoi. 

 

Mewn ymateb i ymholiad a godwyd ynghylch adolygiad ar ddatblygu ffordd osgoi Llandeilo, roedd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd yn cydnabod, er bod y ffigurau'n dynodi cyfartaleddau ar gyfer adegau penodol o'r dydd, gallai'r ffigyrau hefyd fod yn uwch o lawer ar adegau eraill o'r dydd a'r flwyddyn. Yn ogystal, cydnabuwyd bod ffordd osgoi yn angenrheidiol nid yn unig i wella ansawdd yr aer ond hefyd i ddarparu gwell diogelwch ffyrdd. Eglurodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd i'r Aelodau mai'r ffordd drwy Landeilo oedd y brif gefnffordd rhwng Abertawe a Manceinion. Roedd y ffordd wedi mynd trwy'r Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru yn ddiweddar a byddai'r canlyniad hwn wedyn yn destun ymgynghoriad pellach. Byddai'r cam hwn yn pennu'r rhestr derfynol o gynlluniau i'w hystyried.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith ei fod, fel aelod lleol dros Landeilo, wedi ysgrifennu sawl gwaith at Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ynghylch y mater hwn ond nid oedd wedi cael ateb. Fodd bynnag, dywedodd ei fod fel Aelod Cabinet, wedi ysgrifennu at y Gweinidog yn ddiweddar ac roedd yn falch o gyhoeddi bod cyfarfod rhithwir wedi ei drefnu ar gyfer dydd Llun, 28 Tachwedd rhwng Arweinydd y Cyngor a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a bod ffordd osgoi Llandeilo ar yr agenda. Yn dilyn y wybodaeth am y cyfarfod a drefnwyd, cynigwyd bod e-bost yn cael ei anfon at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar ran y Pwyllgor i gefnogi ffordd osgoi Llandeilo. Eiliwyd y cynnig hwn.

 

·       Dywedwyd y gallai'r ddeddfwriaeth newydd mewn perthynas â chyflwyno terfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr hefyd gael effaith gadarnhaol ar ansawdd aer. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd nad  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

YSTYRIED GORCHYMYN DIOGELU MANNAU AGORED CYHOEDDUS YCHWANEGOL (PSPO) AR GYFER GORCHMYNION CWN SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ynghylch ystyried Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus Ychwanegol (PSPO) ar gyfer Gorchmynion C?n Sir Gaerfyrddin. 

 

Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd yn cynnwys canlyniadau arolwg ymgysylltu diweddar mewn perthynas â'r potensial i gyflwyno rheolaethau c?n atodol drwy gyfrwng Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ychwanegol lle mae tystiolaeth yn cefnogi'r angen am orchmynion ychwanegol. 

 

Nodwyd bod 3,354 o gwynion ynghylch Ymddygiad Gwrthgymdeithasol cysylltiedig â ch?n gan gynnwys baw c?n wedi dod i law ers i'r gorchymyn ddod i rym yn 2016.

 

Er mwyn dysgu mwy, cynhaliwyd arolwg ymgysylltu i nodi meysydd / problemau lle gallai fod angen gorchmynion ychwanegol sy'n rhagori ar y rhai presennol.Yn ystod yr un cyfnod, roedd 108 o hysbysiadau cosb benodedig wedi'u rhoi ac roedd 6 erlyniad wedi'u rhoi ar waith i droseddwyr nad oedd wedi talu'r hysbysiad cosb benodedig.

 

Er mwyn gweithio tuag at fynd i’r afael â’r pryderon parhaus o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig â ch?n mewn cymunedau, cynhaliwyd arolwg ymgysylltu i gasglu barn a nodi meysydd neu broblemau lle gallai fod angen gorchmynion ychwanegol sy'n rhagori ar y Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus presennol.

 

Cynhaliwyd yr arolwg ymgysylltu wedi'i dargedu gyda rhanddeiliaid allweddol yr effeithiwyd arnynt gan ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig â ch?n a chafodd ei gynnal dros gyfnod o wyth wythnos rhwng 10 Ionawr a 11 Mawrth 2022.

 

Darparwyd canlyniadau ac adborth yr arolwg ymgysylltu yn yr atodiad i'r adroddiad.

 

O ganlyniad i'r arolwg ymgysylltu, esboniodd yr Aelod Cabinet fod yr opsiynau o ran gorchmynion ychwanegol i'w hystyried yn cynnwys:

 

       Gwahardd c?n o Gaeau Chwaraeon (fesul safle neu ar draws y sir)

       Cadw c?n ar dennyn ym mhob man cyhoeddus.

       Modd o godi baw ci

 

I gefnogi'r opsiwn uchod, darparodd yr adroddiad a'r Aelod Cabinet y camau nesaf awgrymedig i'r pwyllgor eu hystyried.

 

Holwyd ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

Wrth nodi bod y rhan fwyaf o achosion o faw c?n yn digwydd ar lwybrau'r stryd gan g?n ar dennyn lle mae perchnogion c?n yn dewis peidio â chasglu a gwaredu'n gyfrifol, awgrymwyd mabwysiadu'r cysyniad o ddamcaniaeth perswâd a oedd eisoes wedi bod yn llwyddiannus mewn Cynghorau eraill. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol fod damcaniaeth perswâd eisoes yn rhan allweddol o'r Cynllun Rheoli Ansawdd yr Amgylchedd Lleol a phe bai Cynghorau Tref/Cymuned yn dymuno cymryd rhan mewn defnyddio'r cysyniad o ddamcaniaeth perswâd, roedd pecynnau Baw C?n ar gael ar gyfer Cynghorau Cymuned. Yn ogystal, yn dilyn cyfnod prawf, roedd defnyddio stensils wedi bod yn llwyddiannus o ran annog cerddwyr c?n i osod eu gwastraff yn y bin agosaf drwy ddilyn yr olion pawennau stensiliedig ar y llawr. Hefyd, eglurwyd bod adnoddau wedi'u cyfeirio at ardaloedd sydd â'r angen mwyaf.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet, er mwyn cyfeirio'r adnoddau sydd ar gael yn briodol, y dibynnir yn fawr ar dderbyn gwybodaeth gan aelodau'r gymuned.

 

Cydnabuwyd bod y Sir yn dibynnu ar 8 Swyddog Gorfodi, ac er  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 90 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y rhestr o eitemau i gael eu cynnwys ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf oedd i'w gynnal ar 15 Rhagfyr 2022 a rhoddwyd cyfle i'r Pwyllgor wneud cais am unrhyw wybodaeth benodol yr hoffai'r Aelodau ei chynnwys yn yr adroddiadau.

 

Yn ogystal â'r adroddiadau a oedd i'w cyflwyno yng nghyfarfod ffurfiol y Pwyllgor Craffu ar 15 Rhagfyr, nododd yr Aelodau'r adroddiadau a fyddai hefyd yn cael eu dosbarthu iddynt y tu allan i broses ffurfiol y Pwyllgor ar gyfer craffu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y rhestr o'r eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 15 Rhagfyr, 2022.

 

 

 

11.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 4 HYDREF 2022 pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau