Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd A.D.T. Davies a Gynghorydd C. Evans.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD 2021/22 pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Craffu – Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd ar y gwaith a wnaed yn ystod blwyddyn y cyngor 2021/22. Nodwyd bod yr adroddiad wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor a'i fod yn rhoi trosolwg o'r rhaglen waith a materion allweddol dan sylw, gan gynnwys hefyd unrhyw faterion a gyfeiriwyd at neu gan y Cabinet, adolygiadau Gorchwyl a Gorffen a sesiynau datblygu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd ar gyfer 2021/22.

 

 

5.

CAMAU GWEITHREDU'R PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD - 2021/22 pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y camau gweithredu oedd yn deillio o'r Pwyllgor Craffu – Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd o'i waith yn ystod 2021/22 a bu'n ystyried y cynnydd a wnaed mewn perthynas â chamau gweithredu, gofynion neu atgyfeiriadau a gofnodwyd yn ystod cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid derbyn Adroddiad Camau Gweithredu Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd ar gyfer 2021/22.

 

 

6.

BLAENRAGLEN WAITH AR GYFER 2022/23 pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor, yn unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor, ei Flaengyllun Gwaith drafft ar gyfer 2022/23.  Bu'r Pwyllgor hefyd yn ystyried ei drefniadau Gorchwyl a Gorffen ar gyfer 2022/23-24. 

 

Yn ei sesiwn datblygu Blaengynllun Gwaith anffurfiol ar 21 Medi 2022, dechreuodd y Pwyllgor y broses o lunio'r blaengynllun gwaith ar gyfer 2022/23.  Mae canlyniad y sesiwn ddatblygu bellach wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor yn y Blaengynllun Gwaith i'w gadarnhau.

 

Datblygodd yr aelodau Flaengynllun Gwaith y Pwyllgor gan ystyried y pynciau sy'n peri pryder o fewn maes gorchwyl y Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd, gan reoli'r agenda drwy Fethodoleg Porth. 

 

Hefyd, drwy gydol y flwyddyn, nododd yr Aelodau y byddent yn ystyried Blaengynllun Gwaith y Cabinet er mwyn nodi adroddiadau cyn gwneud penderfyniadau y maent am eu rhoi ar y Blaengynllun Gwaith Craffu

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi sylw i'r ffaith bod y Pwyllgor, yn ei gyfarfod ar 2 Gorffennaf 2021, wedi cytuno'n ffurfiol bod y trefniadau Gorchwyl a Gorffen ar gyfer 2021/22-2023 yn cael eu cyflawni yn y drefn ganlynol:-

 

1) Adolygu'r gwaith o Reoli Tipio Anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin

2) Adolygu bridio c?n yn Sir Gaerfyrddin.

 

Gofynnwyd i'r Pwyllgor nodi'r trefniadau a gytunwyd yn flaenorol ar gyfer yr adolygiadau Gorchwyl a Gorffen ar gyfer 2022/2023-2024.

 

Wrth ystyried y trefniadau ar gyfer yr adolygiadau Gorchwyl a Gorffen, codwyd pryder ynghylch yr amser y byddai'n ei gymryd i gynnal yr adolygiad bridio c?n.  Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r Pwyllgor Craffu ond yn ymgymryd ag un Adolygiad Ymchwiliol (Gorchwyl a Gorffen) o fewn blwyddyn y cyngor, ond y gobaith oedd y byddai'r adolygiad o Reoli Tipio Anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei gwblhau erbyn mis Ebrill 2023, gan ganiatáu i'r adolygiad bridio c?n yn Sir Gaerfyrddin ddechrau yn ystod blwyddyn y cyngor 2023-2024.

 

Yn ogystal, mewn perthynas ag adolygiad y Gr?p Gorchwyl a Gorffen o Fridio C?n yn Sir Gaerfyrddin, dywedodd y Pennaeth Tai wrth y Pwyllgor nad yw'r amodau a'r ddeddfwriaeth o ran bridio c?n wedi dod i law eto gan Lywodraeth Cymru ac felly byddai'n well ddechrau'r adolygiad y flwyddyn nesaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

6.1      gymeradwyo'r Blaengynllun Waith Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd ar gyfer 2022/22.

 

6.2          cyflwyno Blaengynllun Waith Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd ar gyfer 2022/23 gydag adroddiadau cyn gwneud penderfyniadau a nodwyd o Flaengynllun y Cabinet i'w cymeradwyo yn y cyfarfod nesaf.

 

6.3          Nodi'r trefniadau ar gyfer adolygiadau Gorchwyl a Gorffen ar gyfer 2022/23 - 2023/2024 fel y nodir o fewn yr adroddiad.

 

 

7.

ADOLYGIAD O FLAEN-GYNLLUN DEDDF YR AMGYLCHEDD CYNGOR SIR CAERFYRDDIN 2020-2023 pdf eicon PDF 157 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd wedi'i atodi i Flaengynllun Deddf yr Amgylchedd (Cymru) Cyngor Sir Caerfyrddin 2020-23 i'w ystyried.  Amlinellodd yr adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd y cynnydd yr oedd y Cyngor yn ei wneud wrth gyflawni ei rwymedigaeth gyfreithiol gan gyfeirio at y Ddeddf.Mae'r Cynllun yn ymdrin â'r cyfnod rhwng Ionawr 2020 a Rhagfyr 2022.

 

Er mwyn cyflwyno tystiolaeth o'r ddyletswydd hon, o dan y Ddeddf Amgylchedd, roedd dyletswydd statudol ar bob corff cyhoeddus yng Nghymru i baratoi a chyflawni ei Ddyletswydd Bioamrywiaeth Adran 6 sy'n cael ei rhoi arni gan y Ddeddf hon. Mae'r cynllun yn cwmpasu cyfnod o dair blynedd.  Yn ogystal, mae'n ofyniad statudol bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn adrodd ar ddarpariaeth ei Flaengynllun Deddf yr Amgylchedd i Lywodraeth Cymru bob tair blynedd ac mae'r adroddiad nesaf i'w gyflwyno erbyn mis Rhagfyr 2022.

 

 

Nododd yr Aelodau fod dull Sir Gaerfyrddin o ddatblygu a chyflawni ei Flaen-gynllun wedi cynnwys ymgysylltu â swyddogion i edrych ar eu harferion gwaith, eu cynlluniau a'u prosiectau tra'n eu cynorthwyo i nodi cyfleoedd presennol ar gyfer cynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo gwytnwch ecosystemau, ochr yn ochr â chyflawni eu rhwymedigaethau a'u hamcanion eraill.

 

Pwysleisiodd yr adroddiad fod y camau a nodwyd yn y Blaengynllun yn gysylltiedig ag Amcanion Llesiant y Cyngor a nodwyd dyddiadau targed ar gyfer cyflawni pob cam gweithredu a nodwyd y swyddi a oedd yn gyfrifol.

 

Holwyd ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y golofn 'Erbyn Pryd neu Darged Diwedd y Flwyddyn'.  Codwyd sylw ynghylch yr adrodd anghyson o ran y targedau gweithredu.  Doedd gan rai ddim targedau, roedd gan eraill ddyddiadau yn y gorffennol ac roedd rhai'n parhau ar waith, codwyd y byddai eglurder pellach o ran targedau yn fuddiol wrth symud ymlaen.  Roedd Pennaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol wrth egluro'r disgrifiad o'r targedau, yn cydnabod y byddai'n fuddiol i'r targedau fod yn fwy disgrifiadol er mwyn rhoi gwell eglurder a dealltwriaeth i'r darllenydd.  Yn ogystal, rhoddodd y Rheolwr Cadwraeth Cefn Gwlad ddiweddariad ar lafar ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas ag adran 3 o'r cynllun.

·       Mewn ymateb i ymholiad a godwyd ynghylch y broses o roi coed newydd yn lle'r coed ynn sydd wedi'u gwaredu o ganlyniad i Glefyd Coed Ynn, eglurodd y Rheolwr Cadwraeth Cefn Gwlad fod plannu coed newydd yn rhan annatod o gynllun Clefyd Coed Ynn gan nodi bod 200+ o goed newydd wedi'u plannu dros y 2 aeaf diwethaf ger Parc Dewi Sant, Caerfyrddin, a bydd rhagor o yn cael eu plannu dros y gaeaf hwn.  Yn ogystal, nodwyd bod 3 safle wedi'u nodi ar gyfer plannu'r gaeaf hwn o ran eiddo a oedd wedi cael ei osod yn flynyddol ar gyfer pori, gyda grantiau Creu Coetiroedd Glastir gan Lywodraeth Cymru.  Dywedwyd bod y grantiau hyn wedi cymryd 2 flynedd i'w cytuno ac yn hynny o beth roedd rhaglen o geisiadau grant ar waith yn dilyn nodi tir addas heb unrhyw werth bioamrywiaeth presennol ar gyfer plannu coed  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD CYNNYDD Y CYNLLUN CARBON SERO NET pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Cynnydd Cynllun Carbon Sero Net a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd.

 

Cymeradwyodd y Cyngor Sir Gynllun Carbon Sero Net ar 12 Chwefror 2020 ac roedd Cam Gweithredu 28 o'r Cynllun yn gofyn am adroddiadau perfformiad ar gynnydd tuag at ddod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030 i'w gyhoeddi'n flynyddol.

 

Holwyd ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y tabl, crynodeb o'r cynnydd – Ôl Troed Carbon ar dudalen 3 o'r adroddiad.  Teimlwyd y byddai'n fuddiol cynnwys ffigwr ariannol yn y tabl a fyddai'n dangos yn nhermau ariannol faint o ynni oedd yn cael ei arbed.  Dywedodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd fod Archwilydd Cyffredinol Cymru, ar ôl cwblhau adolygiad yn ddiweddar ar gynlluniau newid hinsawdd yng Nghymru, wedi nodi y byddai cynnwys costau ariannol a briodolir i'r ôl troed carbon yn fuddiol. Felly, bydd cost ariannol yn cael ei gynnwys yn y fersiwn nesaf o'r cynllun.


 

Yn ogystal, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am y gwaith fyddai'n cael ei wneud i ddatblygu'r cynllun ymhellach gan gynnwys rhagor o wybodaeth ynddo a thaflwybrau mewn perthynas â'r rhaglenni a'r cynlluniau yr oedd y Cyngor wedi ymrwymo iddynt hyd yn hyn.

 

·       Wrth ganmol cynnwys yr adroddiad, dywedwyd y byddai'n gyfle ystyried cynhyrchu trydan. Teimlwyd bod paneli solar ben to yn rhy fach ar gyfer galw ynni'r adeiladau y cawsant eu lleoli arnynt.  Nodwyd bod y Cyngor yn cynhyrchu 1 awr megawat (MWh) yn flynyddol yn gyffredinol, sef 50% yn llai na'r hyn a gynhyrchir gan y sector cymunedol yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd. Gan gofio'r wybodaeth hon, gofynnwyd a oedd unrhyw gynlluniau i gynyddu faint o drydan sy'n cael ei gynhyrchu drwy baneli solar, batris a thyrbinau gwynt o bosib?  Esboniodd y Rheolwr Datblygu Cynaliadwy fod cyrraedd sefyllfa 'carbon sero' yn amhosibl ac mai'r unig ffordd o gyrraedd 'carbon sero net' yw drwy wrthbwyso a hynny drwy gynhyrchu rhagor o ynni adnewyddadwy a dal carbon. Mewn ymateb penodol i baneli solar ben to, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynaliadwy, er bod y Cyngor ymhlith yr awdurdodau lleol sy'n cynhyrchu'r mwyaf o ynni solar ben to yng Nghymru, mae angen buddsoddiad pellach er mwyn cyrraedd y nod o fod yn sero net erbyn 2030.

 

Mewn ymateb i'r sylwadau a godwyd, ychwanegodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd fod cryn dipyn o waith yn cael ei wneud ar lefel strategol i ddatblygu safleoedd ynni adnewyddadwy gan gynnwys safle Nant-y-caws oedd yn safle blaengar o ran yr economi gylchol.

 

Roedd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd yn cydnabod bod angen bod yn fwy ystwyth ar frys gyda mwy o bwyslais ar weithio gyda'r trydydd sector.

 

·         Gofynnwyd a oedd unrhyw grantiau neu gymorth ar gael i neuaddau pentref lleol osod paneli solar?  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd y gallai fod cefnogaeth drwy'r Rhaglen Leader a'r Biwro sy'n cyflwyno grantiau cymunedol ar gyfer gosod ffynonellau ynni adnewyddadwy.  Yn wyneb costau byw cynyddol, cydnabuwyd y byddai hwn yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 80 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y rhestr o eitemau i gael eu cynnwys ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf oedd i'w gynnal ar 24 Tachwedd 2022 a rhoddwyd cyfle i'r Pwyllgor wneud cais am unrhyw wybodaeth benodol yr hoffai'r Aelodau ei chynnwys yn yr adroddiadau.

 

Yn ogystal â'r adroddiadau a oedd i'w cyflwyno yng nghyfarfod ffurfiol y Pwyllgor Craffu ar 24 Tachwedd, nododd yr Aelodau'r adroddiadau a fyddai hefyd yn cael eu dosbarthu iddynt y tu allan i broses graffu ffurfiol y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y rhestr o'r eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 24 Tachwedd 2022.

 

 

10.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 7 MAWRTH 2022 pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau