Lleoliad: Siambr - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen
01267 224030
Media
Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
|
2. |
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Ni
chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip
waharddedig.
|
3. |
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
|
4. |
STRATEGAETH COED A CHOETIR AR GYFER CYNGOR SIR CAERFYRDDIN 2023-2028 PDF 145 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu'r
Pwyllgor yn ystyried fersiwn drafft o'r Strategaeth Coed a Choetir
ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin 2023-2028. Cyflwynwyd y Strategaeth
gan yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a
Chynaliadwyedd.
Roedd y
strategaeth yn rhoi sylw i gyfrifoldebau'r Awdurdod o ran rheoli
coed a choetiroedd yn ogystal â chyfleoedd i blannu coed
newydd.
Nododd
y Pwyllgor fod y strategaeth yn gyson â Phecyn Cymorth y
Strategaeth Coed a Choetir ar gyfer Awdurdodau Lleol. Roedd Strategaeth Clefyd Coed Ynn yr Awdurdod
wedi'i chynnwys fel atodiad i'r adroddiad.
Gwnaed
nifer o sylwadau/ymholiadau. Dyma'r
prif faterion:-
- Nodwyd bod yr Awdurdod yn cynnig plannu 33 hectar o goetir bob
blwyddyn ac o leiaf 10% ar ffermydd yr Awdurdod â
thenantiaid. Cwestiynwyd ymarferoldeb cyflawni'r targed hwn o 10%.
Rhoddodd y Rheolwr Cadwraeth Cefn Gwlad wybod bod y ffigur o 10%
erbyn 2030 yn gyson â chynllun ffermio cynaliadwy newydd
gwirfoddol Llywodraeth Cymru. Roedd y targed o 10% yn uchelgeisiol
ond byddai'n rhaid i'r ffermwyr a gofrestrodd i fod yn rhan o'r
cynllun cymorth ffermio newydd gydymffurfio ag ef.
- Mynegwyd pryder am blannu 33 hectar o goetir newydd y flwyddyn
a'r effaith ar y ffermydd â thenantiaid a oedd yn fach o ran
maint. Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros
Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd sicrwydd i'r
Pwyllgor y byddai'r strategaeth yn cael ei llunio drwy roi'r goeden
iawn yn y lle iawn am y rheswm iawn. Dywedodd y byddai adborth yn
cael ei groesawu wrth i'r strategaeth gael ei datblygu ymhellach.
Yn ogystal, nodwyd bod y ffigur o 19% o orchudd coed ar gyfer tir
sy'n eiddo i'r Cyngor yn cyd-fynd ag argymhellion gan Bwyllgor y DU
ar Newid Hinsawdd a Choed Cadw ond nad oedd yn statudol. Byddai
pwyslais hefyd ar blannu coed mewn ardaloedd trefol.
- Gofynnwyd sut y byddai llwyddiant y plannu'n cael ei fesur,
megis yr effaith ar yr amgylchedd, a chyfrif adar ac
anifeiliaid. Dywedodd y Pwyllgor y
byddai cyfrifiadau ar gyfer dal carbon yn cael eu defnyddio ac y
byddai'r holl rychwant o fanteision yn cael eu hystyried gan
gynnwys lleihau llifogydd a d?r ffo.
- Pwysleisiodd y Pwyllgor fod angen ystyried yn ofalus y
goblygiadau o ran plannu coetiroedd, oherwydd ar ôl plannu ni
fyddai modd defnyddio'r tir ar gyfer ffermio a byddai llai o fwyd
yn cael ei gynhyrchu. Byddai'r math o
goed y byddai'r Cyngor yn bwriadu eu plannu yn bwysig gan fod tir o
dan gonwydd yn ddifywyd. Dywedwyd y byddai canran uchel o goed
llydanddail a llwyni newydd yn cael eu plannu ond y gallai rhai
pinwydd yr Alban fod yn rhan o'r gymysgedd oherwydd eu gwerth
tirweddol.Pwysleisiwyd y byddai'r gwaith plannu'n cael ei wneud
mewn modd sensitif, a hynny fesul safle.
- Dywedwyd bod coed llydanddail yn cymryd degau o flynyddoedd i
gloi carbon, a bod argyfwng hinsawdd dybryd. Awgrymodd y Rheolwr
Cadwraeth Cefn Gwlad y gallai coed llydanddail gloi mwy o garbon yn
y pen draw na chonwydd, a dyfodd yn gyflymach, a bod angen
defnyddio dull gofalus.
- Mewn ymateb i ddatganiad bod glaswelltir a ...
Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.
|
5. |
LEFELAU FFOSFFADAU MEWN ARDALOEDD CADWRAETH ARBENNIG AFONOL GWARCHODEDIG - DIWEDDARIAD PDF 126 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cafodd
y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan yr Aelod Cabinet dros
Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio ynghylch y cynnydd a'r gwaith
a wnaed wrth ymateb i effeithiau llygredd ffosffad mewn Ardaloedd
Cadwraeth Arbennig gwarchodedig.
Gwnaed
nifer o sylwadau/ymholiadau. Dyma'r
prif faterion:-
- Mewn ymateb i ymholiad ynghylch pam nad oedd Afon Taf wedi'i
chynnwys yn y rhaglen waith, cytunodd Rheolwr y Rhaglen Bwrdd
Rheoli Maetholion fod ffosffadau ychwanegol yn cael effaith ar bob
afon, ond roedd y pwyslais ar hyn o bryd ar afonydd a ddynodwyd
â statws Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (SAC). Cafodd y
Pwyllgor wybod bod CNC (Cyfoeth Naturiol Cymru) yn gyfrifol am
briodoli statws Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (SAC).
- Mynegwyd pryder am faint o gemegau y mae eu hangen i gael
gwared ar ffosffadau a pha mor gymhleth yw'r broses o ddatrys y
problemau. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai angen cydweithio a
bod llawer o atebion sy'n seiliedig ar natur ar gael a allai gynnig
manteision, gan arwain at well ansawdd aer a llai o
lifogydd.
- Tynnodd Rheolwr Rhaglen y Bwrdd Rheoli Maetholion sylw at y
ffaith bod yr Awdurdod wedi creu cyfrifiannell i ddatblygwyr fesur
faint o ffosffad y byddai eu cynllun yn ei gynhyrchu. Clywodd y
Pwyllgor fod y cyfrifiannell wedi'i dderbyn gan Lywodraeth Cymru a
CNC a'i fod yn cael ei gyflwyno i weddill Cymru. Byddai'r
cyfrifiannell yn cynorthwyo datblygwyr i fesur faint o ffosffad y
byddai eu cynllun yn ei gynhyrchu.
- Mewn ymateb i gais am eglurhad ynghylch y cynllun credyd,
rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor mai cynllun oedd hwn lle y byddai
datblygwyr yn prynu credydau ar gyfer cartrefi newydd yn
nalgylchoedd yr afonydd y mae llygredd ffosffad yn effeithio
arnynt. Y syniad yw y byddai gwlyptiroedd a ffyrdd eraill sy'n
seiliedig ar natur yn cael eu creu sy'n lliniaru ffosffadau mewn
carthion a d?r ffo amaethyddol sy'n niweidiol i afonydd. Yna
byddai'r gwlyptiroedd yn cynhyrchu credydau i'w gwerthu i
ddatblygwyr fel ffordd o liniaru effaith eiddo newydd ar ffosffadau
mewn dalgylchoedd afonydd a ddynodwyd yn Ardaloedd Cadwraeth
Arbennig (SAC). Byddai masnachu credyd yn ddewis amgen i
ddatblygwyr sy'n llunio eu mesurau lliniaru ffosffad eu hunain ar
gyfer eu cynlluniau.
- Dywedodd y Cabinet eu bod am weld llai o garthion yn cael eu
rhyddhau i afonydd. Mewn ymateb i'r pryder hwn cadarnhaodd yr Aelod
Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio fod 65% o'r
llygredd ffosffad yn Afon Teifi yn dod o garthion ac nad
amaethyddiaeth oedd y broblem. Roedd cyfran y llygredd ffosffad o
garthion yn Afon Cleddau yn llawer llai na 65%, a nodwyd nad oedd y
ganran yn hysbys eto am Afon Tywi. Nodwyd y cyfyngir ar D?r Cymru
gan ei seilwaith presennol a bod rhaglen fuddsoddi ar y gweill i
leihau gollyngiadau i afonydd. Dywedwyd hefyd y gallai'r cyhoedd
helpu o ran yr hyn maen nhw'n ei fflysio i lawr y
toiled.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y Diweddariad
ynghylch Lefelau Ffosffad mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afonol
Gwarchodedig.
|
6. |
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 97 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
|
7. |
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 23 IONAWR 2023 PDF 146 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
|