Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CWARTER 2 2022/23 pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a roddai wybod i'r Aelodau am y cynnydd o ran y Camau Gweithredu a'r Mesurau oedd yn berthnasol i'r maes craffu hwn ar ddiwedd Chwarter 2 - 2022/23.  Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith y camau gweithredu o fewn eu portffolios.

 

Gwnaed y sylwadau/ymholiadau canlynol:-

 

·       Cyfeiriwyd at gam gweithredu rhif 15654 - 'Sicrhau bod system CAMS yn cael ei datblygu ar gyfer riportio symudol a hyfforddi 30 o wirfoddolwyr i Wella mynediad cyhoeddus i Gefn Gwlad’.  Gofynnwyd a oedd hyn wedi bod yn llwyddiannus ac a gafwyd llawer o wirfoddolwyr?  Esboniodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod ychydig o oedi wedi bod oherwydd gwelliannau angenrheidiol i'r system TG, a chadarnhaodd fod 30 o unigolion wedi gwirfoddoli.

 

Mewn ymateb i ymholiad ychwanegol ynghylch lleoliad gwirfoddolwyr yn y sir ac a oedd unrhyw beth y gallai Cynghorwyr ei wneud i gynorthwyo, cadarnhaodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod gwirfoddolwyr rhestredig ym mhob rhan o'r sir a dywedodd byddai Cynghorwyr yn cael cyfle i gynorthwyo yn ystod y rhaglen ehangach i recriwtio gwirfoddolwyr ychwanegol. Byddai gwybodaeth yn cael ei dosbarthu i Gynghorwyr maes o law.

 

·       Dywedwyd bod yr adroddiad perfformiad yn cynnwys llawer o acronymau a byrfoddau a oedd yn ei wneud yn anodd i'w ddarllen a'i ddeall.  Bu i'r Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith gydnabod y sylw.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 2022/23.

 

 

5.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y STRATEGAETH WASTRAFF pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad diweddaru am Strategaeth Wastraff 2021-2025 a'r gwasanaethau fydd yn cael eu cyflwyno ym mis Ionawr 2023. Roedd y strategaeth, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Gwastraff, Trafnidiaeth a Seilwath, yn darparu amcan strategol clir o wella casgliadau gwastraff domestig wrth ymyl y ffordd, ac, o ganlyniad, cynyddu cyfraddau ailgylchu yn Sir Gaerfyrddin. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn crynhoi'r polisïau rheoli gwastraff presennol oedd yn ofynnol er mwyn gwella perfformiad gweithredol a strategol.

 

Dywedwyd bod y strategaeth yn ffordd raddol o newid y gwasanaeth, gydag ateb dros dro i'w gyflwyno yn 2022, a newid mwy hirdymor i gyflawni'r dull casglu Glasbrint erbyn 2024.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am

§  Y sefyllfa dros dro

§  Asesiad Effaith Integredig

§  Cyllid

§  Economi Gylchol

§  Y camau nesaf

§  Polisi Gwastraff

 

Cafodd y Polisi Gwastraff ac Ailgylchu ei atodi i'r adroddiad.

 

Gwnaed y sylwadau/ymholiadau canlynol:-

 

·       O ran yr eiddo na fyddent yn derbyn y gwasanaeth casglu gwydr, gofynnwyd a allai Cynghorwyr dderbyn rhestr o'r eiddo hynny? Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol y byddai rhestr fesul ward ar gael ar ôl cwblhau darn o waith a fyddai'n cynnwys y rhesymau pam na fyddai'r eiddo yn derbyn y casgliad gwydr.  Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith y gallai'r rhesymau gynnwys lonydd hir, cul neu ffyrdd oedd heb eu mabwysiadu.

 

·       Dywedwyd y gellid ystyried padiau anymataliaeth fel y cynhyrchion hynny a gâi eu dosbarthu drwy nyrsys GIG/ardal, felly gofynnwyd a oedd padiau anymataliaeth fel y brand 'Tena Lady/Men' a hysbysebwyd wedi eu cynnwys yn y dosbarthiad o Gynhyrchion Hylendid Amsugnol (AHP) ar gyfer bagiau porffor, ac os nad oeddent, a fyddai modd gwneud hyn yn gliriach?  Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol byddai unrhyw badiau anymataliaeth gan gynnwys brand Tena yn cael eu hystyried yn AHP's, ac felly gellid eu rhoi yn y bagiau porffor, ac o gofio'r sylw, byddai'n ystyried cynnwys hyn yn y negeseuon cyfathrebu.

 

·       Mewn ymateb i bryder ynghylch casgliadau a gollwyd, eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol, yn ogystal â thrigolion yn rhoi gwybod am hynny  drwy wefan y Cyngor neu dros y ffôn, fod trigolion hefyd yn cael eu hannog i gofrestru i'r gwasanaeth negeseuon testun ac e-bost i'w hatgoffa o'u gwasanaeth casglu ar ymyl y ffordd, ac i roi unrhyw wybodaeth arall iddynt, fel unrhyw darfu ar wasanaethau oherwydd bod cerbyd wedi torri lawr neu'r tywydd yn arw.

 

·       Wrth sôn fod trigolion wedi mynegi pryderon yngl?n â chasglu bagiau du bob 3 wythnos, gofynnwyd a fyddai'r gwasanaeth hwn yn cael ei adolygu?  Yn ôl Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol, fel yn achos yr holl wasanaethau a ddarparwyd, byddai'r newid hwn i'r gwasanaeth yn destun craffu ac adolygu parhaus.  Fodd bynnag, gallai unrhyw aelwydydd oedd yn cael trafferthion â'r terfyn o 3 bag du ofyn am gyngor a chefnogaeth drwy'r tîm cyfathrebu a'r canolfannau Hwb.  Yn ogystal â hynny, cafodd Aelodau wybod bod modd ailgylchu bron i 50% o'r hyn oedd yn cael ei  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

STRATEGAETH SEILWAITH GWEFRU CERBYDAU TRYDAN CYNGOR SIR CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad yr oedd Strategaeth Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan y Cyngor wedi'i hatodi iddo.  Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith yr adroddiad yn hysbysu'r Aelodau bod y Cabinet yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2021 wedi cymeradwyo'r Strategaeth Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan sy'n nodi gweledigaeth sef: “Datblygu a hyrwyddo rhwydwaith o bwyntiau gwefru trydan, sy'n darparu ar gyfer ac yn annog twf yn y defnydd o gerbydau trydan yn y dyfodol, ac wrth wneud hynny, yn diogelu ein rhwydwaith trafnidiaeth yn y dyfodol ac yn cyfrannu at dargedau lleihau llygredd lleol a byd-eang.”

 

Gwnaed y sylwadau/ymholiadau canlynol:-

 

·       Wrth gydnabod faint o waith da oedd wedi cael ei roi i mewn i'r adroddiad, dywedwyd bod y ffigurau diweddaraf yn yr adroddiad yn cynnwys data, a oedd mor bell yn ôl â 2018, gyda datganiad gweledigaeth a nodai'r cyn-Aelod Cabinet, ond eto roedd y strategaeth yn nodi 2022. Dywedwyd efallai nad oedd hyn yn cyfleu i'r cyhoedd fod y Cyngor yn symud ymlaen.  Esboniodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd mai'r strategaeth oedd wedi'i hatodi i'r adroddiad oedd y strategaeth gymeradwy a roddwyd ar waith ym mis Rhagfyr 2021, gyda'r bwriad i'w hadolygu bob 3 blynedd i ystyried newidiadau.  Yn ogystal, eglurodd y Swyddog Cynllunio Trafnidiaeth - Strategaeth a Seilwaith fod y Strategaeth wedi ei datblygu gan ddefnyddio cyllid 2020/21.

 

·       Cyfeiriwyd at EV 4 - Annog y Defnydd o Gerbydau Trydan yn eu Fflyd ac EV11 - Annog Clybiau Ceir Trydan.  Dywedwyd mai cyfyng oedd y bwriadau i gryfhau'r defnydd o gerbydau trydan o fewn y fflyd a'r teimlad oedd y dylai'r Cyngor fod yn ystyried defnyddio cynlluniau fel clybiau ceir cymunedol i leihau faint o geir oedd ar y ffyrdd. 

 

Esboniodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod y fflyd yn fater cymhleth gan fod unrhyw newidiadau yn ddibynnol ar ble roedd pob cerbyd yn y cylch cyfnewid cerbydau.  Dechreuodd drwy dreialu cerbydau o fewn y fflyd sbwriel a wnaeth ddatgelu rhai heriau o ran y pellter teithio yn achos y llwybrau a ddefnyddir.  Yn ogystal, roedd heriau ehangach yn yr ystyr yr aed â nifer o gerbydau gartref ac roedd angen trefniadau gwefru ac ad-dalu, ac roedd heriau ymarferol o ran gwefru  e.e. ceblau ar draws palmentydd.  Fodd bynnag, er yr heriau cafodd aelodau wybod bod y Cynllun Busnes yn cynnwys cam i gyflwyno'r strategaeth fflyd yn chwarter 1 2023/24.

 

O ran cynlluniau clybiau ceir [EV11], eglurodd y Pennaeth Cludiant a Phriffyrdd fod clwb ceir, a oedd yn defnyddio cerbyd trydan, ar waith ym Mrechfa ar hyn o bryd ac roedd rhannau eraill o'r sector gwirfoddol yn y broses o ddatblygu cynlluniau.

 

·       Awgrymwyd bod y Cyngor yn ystyried dewis gwell tariff defnydd amser a fyddai'n cyfateb i tua 10% o'r costau rhedeg. Gallai'r opsiwn o dariff gwefru dros nos drawsnewid y sefyllfa gyllidol yn y dyfodol o bosib.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Strategaeth Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

 

7.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y rhestr o eitemau i gael eu cynnwys ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf oedd i'w gynnal ar 23 Ionawr 2023 a rhoddwyd cyfle i'r Pwyllgor wneud cais am unrhyw wybodaeth benodol yr hoffai'r Aelodau ei chynnwys yn yr adroddiadau.

 

Yn ogystal â'r adroddiadau a oedd i'w cyflwyno yng nghyfarfod ffurfiol y Pwyllgor Craffu ar 23 Ionawr 2023, nododd yr Aelodau'r adroddiadau a fyddai hefyd yn cael eu dosbarthu iddynt y tu allan i broses ffurfiol y Pwyllgor ar gyfer craffu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y rhestr o'r eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 23 Ionawr 2023.

 

 

8.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 24 TACHWEDD 2022 pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau