Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth - Dydd Llun, 8fed Gorffennaf, 2024 1.00 yp

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 4 MEHEFIN 2024 pdf eicon PDF 67 KB

Cofnodion:

3.

CRONFA GYFALAF Y DEG TREF pdf eicon PDF 138 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn darparu cais am gyllid a gyflwynwyd gan Gyngor Tref Sanclêr fel rhan o'r Rhaglen Deg Tref.  

 

Dywedwyd bod Cyngor Tref Sanclêr eisoes wedi cael cymeradwyaeth gan yr Aelod Cabinet ym mis Mawrth 2024 am £33,697 ar gyfer cam 1 ei brosiect Deg Tref.   Roedd cyllid wedi'i sicrhau i ailddatblygu Y Gât, a elwid gynt yn Ganolfan Grefftau Gorllewin Cymru, fel lle amlddefnydd i'r gymuned leol. Hefyd, roedd yr adeilad wedi cael ei drosglwyddo fel ased i'r Cyngor Tref yn ddiweddar.

 

Nododd yr Aelod Cabinet fod yr adroddiad hwn yn ymwneud â phrosiect Cam 2 Sanclêr a oedd yn cynnwys 3 elfen fel y manylir yn yr adroddiad.  Byddai'r prosiect yn dechrau cyn gynted ag y rhoddir cymeradwyaeth lawn. 

 

Dywedwyd bod yn rhaid cwblhau'r prosiect yn llawn erbyn diwedd mis Rhagfyr 2024 yn unol â chyfnod cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol a gyflwynwyd fel rhan o'r Rhaglen Deg Tref ar ran y Tîm Cynllun Twf Economaidd yn Sanclêr:-

 

Ymgeisydd: Cyngor Tref Sanclêr

Enw'r Prosiect:  Cronfa Gyfalaf Deg Tref Sanclêr - Cam 2

Y grant y gofynnir amdano: £31,263

 

 

4.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET FARNU NAD YW'R EITEMAU CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf. 

 

 

5.

CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN Y DU CRONFA YNNI ADNEWYDDADWY BUSNES.

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).   

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran cynnal tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r bobl a'r busnesau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried cais prosiect a oedd wedi dod i law gan fusnes a oedd yn gofyn am gymorth gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin – Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes, a oedd yn cefnogi busnesau yn Sir Gaerfyrddin i fuddsoddi mewn technoleg ynni adnewyddadwy i alluogi twf busnes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r prosiectau a gyflwynwyd i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin – Cronfa Cychwyn Busnes a Thyfu Busnes fel y manylir yn yr adroddiad.

 

 

6.

CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN - CRONFA DECHRAU BUSNES A THWF

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).   

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran cynnal tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r bobl a'r busnesau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Bu’r Aelod Cabinet yn ystyried ceisiadau prosiect a oedd wedi dod i law gan fusnesau a oedd yn ceisio cymorth gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin – Cronfa Cychwyn Busnes a Thyfu Busnes a oedd yn helpu busnesau i gychwyn, tyfu, parhau a chreu swyddi.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r prosiectau a gyflwynwyd i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin – Cronfa Cychwyn Busnes a Thyfu Busnes fel y manylir yn yr adroddiad.

 

 

7.

CRONFA DATBLYGU EIDDO

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).   

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran cynnal tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r bobl a'r busnesau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried cais am grant gan Gronfa Datblygu Eiddo masnachol y Cyngor. Nod y gronfa hon oedd creu lle ac eiddo masnachol i fusnesau yn y sir a chefnogi'r gwaith o ddatblygu busnesau newydd a chreu swyddi.

 

PENDERFYNWYD cefnogi'r cais am grant gan y Gronfa Datblygu Eiddo fel y manylir yn yr adroddiad.