Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth - Dydd Iau, 9fed Mai, 2024 9.30 yb

Lleoliad: Ystafell Y Cadeirydd, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 8 EBRILL 2024 pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

3.

CRONFA GYFALAF Y DEG TREF pdf eicon PDF 163 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth o Gronfa Gyfalaf y 10 Tref yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

 

Yr Ymgeisydd

 Prosiect

Gwobr

Cyngor Tref Llandeilo

Cam 2 y Prosiect Deg Tref i wella'r atyniad newydd yn y dref trwy ddarparu maes parcio pwrpasol, gosod ffensys o amgylch y llwybr pwmpio a phrynu celfi stryd ar y safle

£72,391.00

 

4.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET FARNU NAD YW'R EITEMAU CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

5.

Y GRONFA FFYNIANT GYFFREDIN - CRONFA EIDDO GWAG

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan Ddeddf 1972 mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r busnesau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i ddau gais a dderbyniwyd am gyllid gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin - Y Gronfa Eiddo Gwag.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ddau gais a nodir yn yr adroddiad am gyllid gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin - Y Gronfa Eiddo Gwag yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

6.

CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN - CRONFA DECHRAU BUSNES A THWF

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran cynnal tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r bobl a'r busnesau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i saith cais prosiect a oedd wedi dod i law gan fusnesau a oedd yn ceisio cymorth gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin – Cronfa Cychwyn Busnes a Thyfu Busnes a oedd yn helpu busnesau i gychwyn, tyfu, parhau a chreu swyddi.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r saith prosiect a gyflwynwyd i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin – Cronfa Cychwyn Busnes a Thyfu Busnes fel y manylir yn yr adroddiad. 

7.

CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN - CRONFA YNNI ADNEWYDDADWY BUSNES

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran cynnal tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r person a'r busnes a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Ystyriodd yr Aelod Cabinet cais a oedd wedi dod i law am gyllid gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin – Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes er mwyn galluogi busnesau i ymgymryd â phrosiectau gwella ynni adnewyddadwy gan arwain at arbedion effeithlonrwydd busnes a lleihau carbon.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais a ddaeth i law am gyllid gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin - Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes fel y manylir yn yr adroddiad.