Lleoliad: Aml leoliad - Ystafell Bwyllgor 3, Llawr Gwaelod - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Nodyn: Originally 10 a.m.
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: |
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 21 HYDREF, 2024 Cofnodion: |
|
SAFON CYNLLUN ACHREDU AMGUEDDFEYDD Y DU Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i'r cynllun strategol 10 mlynedd a pholisïau'r Fframwaith Rheoli Mynediad a Chasgliadau diwygiedig canlynol i gefnogi Achrediad Amgueddfeydd y DU i CofGâr:
· Polisi Mynediad CofGâr 2024-2029 · Polisi Datblygu Casgliadau CofGâr 2024-2029 · Polisi Gofal a Chadwraeth Casgliadau 2024-2029 · Polisi Benthyciadau CofGâr 2024-2029 · Datganiad Polisi Dogfennaeth CofGâr 2024-2029
Nodwyd bod y polisïau diwygiedig a ddiweddarwyd yn adolygiad o'r polisïau presennol a oedd wedi derbyn cymeradwyaeth yn 2017. Bydd y polisïau'n darparu modd i gynllunio a threfnu gweithgarwch ymlaen llaw, i gefnogi dull y gwasanaeth amgueddfeydd o reoli risg yn ymwneud ag asedau'r Cyngor.
PENDERFYNWYD:
3.1 Cymeradwyo Cynllun Strategol CofGâr 2024-2034 3.2 Cymeradwyo Polisi Mynediad CofGâr 2024-2029 3.3 Cymeradwyo Polisi Datblygu Casgliadau CofGâr 2024-2029 3.4 Cymeradwyo Polisi Gofal a Chadwraeth Casgliadau 2024-2029 3.5 Cymeradwyo Polisi Benthyciadau CofGâr 2024-2029 3.6 Cymeradwyo Datganiad Polisi Dogfennaeth CofGâr 2024-2029
|
|
FFIOEDD A THALIADAU AR GYFER 2025/26 O FEWN HAMDDEN AWYR AGORED Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu’r Aelod Cabinet yn ystyried y ffioedd a'r taliadau ar gyfer adroddiad 2025/26 a oedd yn ceisio cymeradwyaeth o ran hamdden awyr agored, yn benodol ar gyfer y canlynol:
· Caban; · Gwersylla a Charafanio ym Mhen-bre; a · Meysydd parcio ar yr arfordir.
Dywedwyd bod nifer o ffactorau wedi dylanwadu ar y lefel arfaethedig o daliadau. Bydd nifer o ffactorau yn chwarae rhan yng ngallu'r gwasanaeth i godi a chynhyrchu incwm ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, ac o bosibl y nesaf.
Yn unol â hynny, bu’r aelod Cabinet yn ystyried y ffioedd a thaliadau fel y nodir yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD bod y Ffioedd a Thaliadau ar gyfer 2025/26 o ran Hamdden Awyr Agored fel y nodir yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo.
|