Agenda a chofnodion drafft

Yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth - Dydd Llun, 29ain Gorffennaf, 2024 11.00 yb

Lleoliad: Aml leoliad - Ystafell Bwyllgor 3, Llawr Gwaelod - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

2.

CEISIADAU ROWND 14 CRONFA BUDD CYMUNEDOL FFERM WYNT MYNYDD Y BETWS pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i 10 cais a ddaeth i law yn ceisio cymorth gan Gronfa Budd Cymunedol Fferm Wynt Mynydd y Betws (Rownd 14).

 

Nodwyd bod Cyngor Cymuned Llandybie yn cyfrannu £15,659 o'i gyllid ei hun ac nid £10,659 fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth gan Gronfa Budd Cymunedol Fferm Wynt Mynydd y Betws (Ceisiadau Rownd 14) yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:  

 

Ymgeisydd

Dyfarniad

Cyngor Cymuned Betws

£12,253

Canolfan Deulu'r Garnant

£9,294

Band Arian Tref Rhydaman

£10,674

Clwb Pêl-droed Rhydaman

£15,000

Eglwys Bresbyteraidd Moriah

£14,000

Canolfan y Mynydd Du

£15,000

Clwb Rygbi T?-croes

£15,000

Cyngor Cymuned Llandybïe

£15,000

Clwb Pêl-droed Cwmaman

£2,242

Cyngor Tref Cwmaman

£11,984

 

3.

CRONFA SGILIAU'R GRONFA FFYNIANT GYFFREDIN - SGILIAU ADEILADU CYFLE pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

T Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i gais a ddaeth i law yn ceisio cymorth gan Gronfa Sgiliau'r Gronfa Ffyniant Gyffredin .

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth gan Gronfa Sgiliau'r Gronfa Ffyniant Gyffredinyn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Ymgeisydd

Prosiect

Dyfarniad

Sgiliau Adeiladu Cyfle

Rhannu Prentisiaeth

£45,000

 

4.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET FARNU NAD YW'R EITEMAU CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf. 

 

5.

CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN - CRONFA DECHRAU BUSNES A THWF

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 5 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran cynnal tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r bobl a'r busnesau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i geisiadau a ddaeth i law gan bymtheg o fusnesau yn ceisio cymorth gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin - y Gronfa Cychwyn Busnes a'r Gronfa Tyfu Busnes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r prosiectau canlynol a gyflwynwyd i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin - y Gronfa Cychwyn Busnes a'r Gronfa Tyfu Busnes fel y nodir yn yr adroddiad yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol a'r rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Cyfeirnod yr Ymgeisydd

Dyfarniad

SUG 56

£50,000.00

SUG 50

£28,903.74

SUG 53

£17,697.11

BGG 142

£20,145.35

BGG 141

£12,252.32

BGG 144

£50,000.00

BGG 133

£15,890.22

BGG 121

£17,844.99

BGG 152

£50,000.00

BGG 153

£20,205.05

BGG 154

£33,750.00

BGG 146

£15,000.00

RDG 02

£17,716.00

RDG 03

£18,400.00

RDG 05

£36,344.65

 

6.

CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN - CRONFA YNNI ADNEWYDDADWY BUSNES

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 5 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran cynnal tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r bobl a'r busnesau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i geisiadau prosiect a oedd wedi dod i law gan ddeg fusnes a oedd yn ceisio cymorth gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin – Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r prosiectau a gyflwynwyd i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin – Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes fel y manylir yn yr adroddiad a'r atodiadau ategol.

 

7.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 8 GORFFENNAF 2024 pdf eicon PDF 88 KB

Cofnodion: