Lleoliad: Aml leoliad - Ystafell Bwyllgor 3, Llawr Gwaelod - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: |
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 23 MEDI 2024 Cofnodion: |
|
CRONFA MENTRAU GWLEDIG SIR GAERFYRDDIN Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd yr Aelod Cabinet adroddiad i'w ystyried a oedd yn nodi diwygiadau arfaethedig i Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin (CREF).
Roedd yr Aelod Cabinet yn cydnabod effaith cynllun Cronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin ers ei lansio yn 2016 lle darparwyd cymorth i 25 o fusnesau gwledig gyflwyno 90,000 troedfedd sgwâr o le cyflogaeth ychwanegol neu well, gan greu 151 o swyddi, a chan arwain at fuddsoddiad o £5.5m i economi wledig Sir Gaerfyrddin.
Rhoddwyd gwybod bod tîm y prosiect wedi monitro'r cynllun ers iddo gael ei ail-lansio ym mis Awst 2023 ac wedi nodi'r rhwystrau canlynol i ymgeiswyr a oedd naill ai wedi tynnu'n ôl o'r broses neu'r rhai yr ystyrir eu bod yn anghymwys i wneud cais am gyllid:-
Yn unol â hynny, adolygodd yr Aelod Cabinet ddiwygiadau arfaethedig i feini prawf ariannu cynllun Cronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin (CREF) i sicrhau bod y gronfa'n gyfredol a'i bod yn gallu darparu cymorth priodol i fusnesau Sir Gaerfyrddin.
PENDERFYNWYD gwneud y newidiadau canlynol i Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin:
i) Cynyddu swm y grant fesul swydd Cyfwerth ag Amser Llawn a grëwyd o £20,000 i £30,000. ii) Cynyddu'r gyfradd ymyrryd o 45%-50%. iii) Dyfarnu cyllid yn y dyfodol o dan gynllun cymhorthdal Cymorth Ariannol Lleiaf (MFA) i alluogi cynnydd yn y gyfradd ymyrryd i 50% iv) Cynyddu'r uchafswm grant sydd ar gael o £200,000 i £240,000. v) Bydd y grant bellach ar gael i fusnesau ledled y sir. vi) Ailfrandio'r cynllun fel Cronfa Mentrau Sir Gaerfyrddin – CEF. |