Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: |
|||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 29 GORFFENNAF 2024 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2024 gan ei fod yn gywir.
|
|||||||||||||||
CRONFA REFENIW Y DEG TREF Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried cais a gyflwynwyd fel rhan o gronfa refeniw y Deg Tref.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth o Gronfa Refeniw y 10 Tref yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
|
|||||||||||||||
CEISIADAU I'R GRONFA CYLLID A DARGEDIR Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o'r Gronfa Cyllid a Dargedir yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
|
|||||||||||||||
ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET FARNU NAD YW'R EITEMAU CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.
Cofnodion: PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.
|
|||||||||||||||
CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN - CRONFA DECHRAU BUSNES A THWF Cofnodion:
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeisydd. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran cynnal tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r bobl a'r busnes a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.
Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried ceisiadau prosiect a oedd wedi dod i law gan fusnesau a oedd yn ceisio cymorth o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin – Cronfa Cychwyn Busnes a Thyfu Busnes a oedd yn helpu busnesau yn Sir Gaerfyrddin i gychwyn, tyfu, parhau a chreu swyddi.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau prosiect a gyflwynwyd a oedd yn ceisio cymorth o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin - Cronfa Cychwyn Busnes a Thyfu Busnes, yn unol â'r argymhellion a nodir yn yr adroddiad.
|
|||||||||||||||
BENTHYCIAD CANOL TREF Cofnodion: Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 5 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan Ddeddf 1972 mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r busnes a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.
Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried cais am fenthyciad i'r Cynllun Benthyciadau Canol Tref.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am fenthyciad i'r Cynllun Benthyciadau Canol Tref yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad.
|
|||||||||||||||
CRONFA DATBLYGU EIDDO Cofnodion: Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 5 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan Ddeddf 1972 mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r busnes a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.
Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried cais am gymorth o Gronfa Datblygu Eiddo Masnachol Sir Gaerfyrddin. Wrth nodi cefndir y cais, rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod Cabinet am amodau cynllunio a oedd wedi dod i law yn dilyn cyhoeddi'r agenda.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais nes bod yr amod caniatâd cynllunio wedi'i fodloni.
|