Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth - Dydd Iau, 6ed Hydref, 2022 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 21AIN GORFFENNAF 2022 pdf eicon PDF 75 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 21ain Gorffennaf 2022, gan ei fod yn gywir.

 

 

3.

CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL:GRONFA CYLLID A DARGEDIR AR CRONFA BUDD CYMUNEDOL MYNYDD Y BETWS pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Cyllid a Dargedir a Cronfa Budd Cymunedol Mynydd y Betws yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Gronfa Cyllid a Dargedir

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

Angor

£18,470.35

Tregib Sports Facilities Ltd

£20,000.00

 

Cronfa Budd Cymunedol Mynydd y Betws

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

Amman United RFC

£13,700.00

Black Mountain Centre

£5,904.80

Brynamman Public Hall & Institute

£10,000.00

Caerbryn Welfare Association

£15,000.00

Cwmamman Town Council

£15,000.00

Cwmamman United AFC

£5,922.40

Penybanc RFC

£15,000.00

Cwmaman Community Centre Management Group

£4,456.67

 

4.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI YNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET WEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

5.

BENTHYCIAD CANOL TREF

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r unigolion a'r busnesau a nodir yn yr adroddiad o dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Bu’r Aelod Cabinet yn ystyried cais a dderbyniwyd ar gyfer Benthyciad Canol Tref.

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais canlynol am Fenthyciad Canol Tref yn amodol ar y telerau ac amodau arferol a’r rhai a nodwyd yn yr adroddiad:

 

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

Tinworks Brewing Company Ltd

£143,812.50