Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Aelod y Cabinet, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD PENDERFYNIADAU YR AELOD CABINET DROS ADFYWIO, HAMDDEN, DIWYLLIANT A THWRISTIAETH A GYNHALIWYD AR 6ED HYDREF 2022 pdf eicon PDF 88 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Hydref, 2022 yn gofnod cywir.

 

3.

CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: GRONFA CYLLID A DARGEDIR AR CRONFA'R DEGWM pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Cyllid a Dargedir a’r Chronfa Degwm yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Y Gronfa Cyllid a Dargedir

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

Ymlaen Llanelli

£19,194.74

 

Cronfa'r Degwm

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

Capel Bethel                                                                          

£2,174.75

Eglwys Llandyfan - Llandeilo

£2,749.00

Eglwys Sant Gwynog

£727.50

Capel Libanus, y Pwll

£2,670.00

Cyfle Building Skills Ltd

£3,000.00

Opera Ieuenctid Caerfyrddin a'r Cylch

£3,000.00

 

 

4.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI YNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET WEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitem ganlynol yn cael ei chyhoeddi, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

5.

CRONFA MENTRAU GWLEDIG SIR GAERFYRDDIN

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan Ddeddf 1972 mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r person a'r busnesau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried cais am gymorth o Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol a ddaeth i law am gymorth o Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Cronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin

Yr Ymgeisydd

Y Dyfarniad

Fox and Hounds Bancyfelin Ltd

£96,187.50 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau