Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: |
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 14 MAWRTH 2025 Cofnodion: |
|
ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET FARNU NAD YW'R EITEMAU CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. Cofnodion: PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf. |
|
CRONFA DATBLYGU EIDDO (PDF) MASNACHOL TRAWSNEWIDIOL SIR GAERFYRDDIN Cofnodion: Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion ariannol a dyheadau busnes yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan Ddeddf 1972 mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r busnes a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.
Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried ceisiadau am gymorth o Gronfa Datblygu Eiddo Masnachol Sir Gaerfyrddin. Wrth ystyried yr adroddiad, dywedwyd wrth yr Aelod Cabinet bod y materion a oedd yn ymwneud â'r amodau cynllunio y cyfeiriwyd atynt yng nghofnod 8 o gyfarfod yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth a gynhaliwyd ar 24 Medi 2024, bellach wedi'u datrys. Ar ben hynny, cyfeiriwyd at y goblygiadau cyfreithiol lle cadarnhawyd y byddai cyllid grant yn ddarostyngedig i'r amodau a nodir yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r prosiectau a gyflwynwyd i Gronfa Datblygu Eiddo Masnachol ar gyfer Trawsnewid - Sir Gaerfyrddin, fel y manylir yn yr adroddiad. |
|
CYMORTH ARIANNOL I YMDDIRIEDOLAETH ADFYWIO TREFTADAETH SIR GAERFYRDDIN/PLAS LLANELLY Cofnodion: Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd gallai hyn ddatgelu gwybodaeth ariannol am weithrediad Plas Llanelly a fyddai'n tanseilio ei safle cystadleuol mewn perthynas ag eiddo sy'n cynnig gwasanaethau tebyg eraill yn ardal Llanelli.
Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn gofyn am gymorth ariannol parhaus i Ymddiriedolaeth Adfywio Treftadaeth Sir Gaerfyrddin/Plas Llanelly am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad. Yn hynny o beth roedd yr Aelod Cabinet yn cydnabod pwysigrwydd Plas Llanelly i adfywiad Canol Tref Llanelli, a bod angen y cymorth hwn i sicrhau cynaliadwyedd parhaus y Plas.
PENDERFYNWYD parhau i gefnogi prosiect Ymddiriedolaeth Adfywio Treftadaeth Sir Gaerfyrddin/Plas Llanelly drwy gymeradwyo pecyn cymorth o hyd at £60k y flwyddyn am 2 flynedd arall. |