Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth - Dydd Iau, 19eg Hydref, 2023 2.00 yp

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANT.

Cofnodion:

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD PENDERFYNIADAU A GYNHALIWYD AR 27AIN MEDI 2023. pdf eicon PDF 93 KB

Cofnodion:

3.

CYLLID REFENIW DEG TREF (CRONFA REFENIW). pdf eicon PDF 195 KB

Cofnodion:

Bu’r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad yn rhoi manylion ar 6 cais yn gofyn am gymorth ariannol gan Gronfa Refeniw y 10 Tref, fel a ganlyn:- 

 

Cyngor Tref Cwmaman                                              Cais am grant o £19,250

Cyngor Tref Hendy-gwyn ar Daf                                Cais am grant o £20,000

Cyngor Tref Llanymddyfri                                           Cais am grant o £19,970

Cyngor Tref Cydweli                                                  Cais am grant o £10,000

Ymddiriedolaeth Hen Ysgol Llanybydder                  Cais am grant o £20,000

Cyngor Tref Sanclêr                                                   Cais am grant o £20,000

 

Roedd manylion llawn ynghylch y prosiectau arfaethedig wedi'u rhestru yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD dyfarnu'r grant y gofynnwyd amdano i'r 6 cais a gyflwynwyd am gyllid o'r Rhaglen Deg Tref (y Gronfa Refeniw), fel y manylir uchod, yn unol â'r telerau ac amodau fel y nodir yn yr adroddiad.

 

4.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD.

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI YNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET FARNU NAD YW'R EITEMAU CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf. 

5.

CYMUNEDAU MENTRUS.

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, roedd prawf budd y cyhoedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran cynnal tryloywder ac atebolrwydd oherwydd gallai datgelu'r wybodaeth danseilio sefyllfa'r sefydliadau dan sylw mewn perthynas â sefydliadau eraill sy'n gweithredu yn yr un maes gweithgaredd.

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried cais a gyflwynwyd am gyllid gan y Gronfa Cymunedau Mentrus a oedd yn rhan o raglen Arfor II.

 

PENDERFYNWYD dyfarnu cyllid fel y manylir yn yr adroddiad ac yn unol â'r telerau a'r amodau a nodwyd. 

 

 

6.

CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN - CRONFA YNNI ADNEWYDDIADWY BUSNES

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.

CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN - CRONFA EIDDO GWAG.

Cofnodion: