Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267224088
Rhif | eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: |
|||||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 19 TACHWEDD 2024 PDF 91 KB Cofnodion: |
|||||||||||||||||
CYNLLUN LLEINIAU GLASWELLT ARTIFFISIAL SIR GAERFYRDDIN PDF 399 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried Cynllun Caeau Glaswellt Artiffisial Sir Gaerfyrddin, gyda'r nod o wella'r ddarpariaeth ar draws y sir.
Cyfeiriwyd at y gwaith a gomisiynwyd gan y Cyngor ym mis Chwefror 2023 i lunio gweledigaeth a dull gweithredu strategol ar gyfer y dyfodol o ran darpariaeth, rheoli a chynnal a chadw caeau chwaraeon awyr agored, yn enwedig Caeau Glaswellt Artiffisial. Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried y canfyddiadau a'r argymhellion a oedd yn deillio o'r adolygiad, ynghyd â'r goblygiadau cost cysylltiedig, cyfleoedd cyllid grant a'r heriau a nodwyd, fel y nodir yn yr adroddiad. Roedd y cynllun yn cynnwys cefnogi tirwedd arfaethedig y caeau 3G arfaethedig, mabwysiadu'r fethodoleg a'r arferion gwaith i sicrhau rhwydwaith Caeau Glaswellt Artiffisial effeithiol sy'n gynaliadwy yn ariannol, ac uno'r sector yn y weledigaeth Caeau Glaswellt Artiffisial ar gyfer y dyfodol a fyddai'n hwyluso chwaraeon ar gaeau) i ffynnu ac ysbrydoli trigolion i fod yn egnïol am oes.
Mewn ymateb i ymholiad, dywedwyd wrth yr Aelod Cabinet y byddai'r holl ffigurau sy'n ymwneud â data clybiau a chyfleusterau yn cael eu hadnewyddu er mwyn sicrhau gwybodaeth gyfredol cyn symud ymlaen gydag unrhyw gyfleoedd cyllid grant
PENDERFYNWYD:
|
|||||||||||||||||
CEISIADAU Y GRONFA CYLLID A DARGEDIR PDF 131 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o'r Gronfa Cyllid a Dargedir yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
|
|||||||||||||||||
ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET FARNU NAD YW'R EITEMAU CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. Cofnodion: PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.
|
|||||||||||||||||
BENTHYCIAD CANOL TREF Cofnodion: Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 5 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan Ddeddf 1972 mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r busnes a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.
Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried cais am fenthyciad i'r Cynllun Benthyciadau Canol Tref.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais am fenthyciad i'r Cynllun Benthyciadau Canol Tref yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad.
|
|||||||||||||||||
GRANT TRYDYDD PARTI TRAWSNEWID TREFI Cofnodion: Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 5 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan Ddeddf 1972 mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r busnes a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.
Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried dau gais prosiect a gyflwynwyd ar gyfer y cynllun Grant Trydydd Parti Trawsnewid Trefi ynghylch cefnogi busnesau yn Sir Gaerfyrddin i ddefnyddio adeiladau canol trefi at ddibenion masnachol unwaith eto a chreu cyfleoedd cyflogaeth.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ddau gais prosiect a gyflwynwyd ar gyfer y Grant Trydydd Parti Trawsnewid Trefi.
|