Lleoliad: Rhith-Gyfarfod. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2023, gan ei fod yn gywir. |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffwyd yr Aelod Cabinet fod y Cabinet wedi derbyn argymhelliad y Bartneriaeth Adfywio yn flaenorol ar y modelau cyflawni ar gyfer gweithredu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer y themâu/prosiectau canlynol:
· Rhaglenni Angor – Rhaglenni thematig a ddatblygwyd o dan bob un o themâu allweddol y Gronfa Ffyniant Gyffredin a fydd yn rheoli rhannau mawr o'r strategaeth fuddsoddi. · Prosiectau annibynnol – Ceisiadau strategol a fydd yn mynd i'r afael â heriau nad ydynt yn cael eu cynnwys gan y prosiectau Angor. Bydd ceisiadau'n cael eu gwahodd drwy alwadau agored. · Prosiectau a gomisiynwyd – Caffael gweithgaredd i ddarparu gweithgaredd wedi'i ddiffinio'n union nad yw'n cael ei gyflawni gan y modelau cyflenwi y manylir arnynt uchod.
Ar ôl hynny, bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad yn manylu ar y sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â'r Rhaglen Angor, Galwad Agored Prosiectau Annibynnol a'r alwad agored - Lluosi - a bod caniatâd yn cael ei roi ar gyfer bwrw ymlaen â'r elfennau hynny y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
|