Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth - Dydd Gwener, 17eg Chwefror, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

2.

CYMERADWYO A LLOFNODI HYSBYSIAD PENDERFYNIAD Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 19EG IONAWR 2023. pdf eicon PDF 78 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 19 Ionawr 2023, gan ei fod yn gywir.

3.

CYMERADWYO RHAGLENNI ANGORI SPF Y DU A THEMÂU AR GYFER GALWAD AGORED PROSIECTAU ANNIBYNNOL pdf eicon PDF 176 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd yr Aelod Cabinet fod y Cabinet wedi derbyn argymhelliad y Bartneriaeth Adfywio yn flaenorol ar y modelau cyflawni ar gyfer gweithredu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer y themâu/prosiectau canlynol:

 

·       Rhaglenni Angor - Rhaglenni thematig a ddatblygwyd o dan bob un o themâu allweddol y Gronfa Ffyniant Gyffredin a fydd yn rheoli rhannau mawr o'r strategaeth fuddsoddi.

·       Prosiectau annibynnol - Ceisiadau strategol a fydd yn mynd i'r afael â heriau nad ydynt yn cael eu cynnwys gan y prosiectau Angor. Bydd ceisiadau'n cael eu gwahodd drwy alwadau agored.

·       Prosiectau a gomisiynwyd - Caffael Gweithgaredd i ddarparu gweithgaredd wedi'i ddiffinio'n union nad yw'n cael ei gyflawni gan y modelau cyflenwi y manylir arnynt uchod.

 

Adroddwyd, o ran Galwad Agored Prosiectau Annibynnol, bod ymarfer mapio wedi'i wneud (Atodiad 2 i'r adroddiad) lle aseswyd heriau a chyfleoedd allweddol a nodwyd o fewn Cynllun Buddsoddi Sir Gaerfyrddin yn erbyn y cyfleoedd cyllido sydd ar gael o fewn y rhaglenni Angor ar gyfer y blaenoriaethau buddsoddi Cymunedau a Lle a Chefnogi Busnesau. Byddai ymarfer tebyg yn cael ei gynnal ar gyfer blaenoriaeth Pobl a Sgiliau unwaith y byddai'r rhaglen Angor o fewn y flaenoriaeth honno wedi'i datblygu'n llawn.

 

Yn dilyn yr ymarfer mapio hwnnw ac yn seiliedig ar ganfyddiadau a mewnbynnau'r is-grwpiau blaenoriaeth, cynghorwyd yr Aelod Cabinet fod cymeradwyaeth yn cael ei geisio am alwadau agored ar gyfer ceisiadau am brosiectau Annibynnol sy'n canolbwyntio ar y themâu canlynol.

 

-Prosiectau sy'n ymateb i'r cyfleoedd yn y Strategaeth Arloesi Lleol  – Digidol, Iechyd, Yr Economi Gylchol, a'r Economi Sylfaenol       

-        Cymorth gwirfoddoli

-        Cymorth i fentrau cymdeithasol

-        Modelau bwyd lleol

-        Teithio llesol a thrafnidiaeth wledig

-        Prosiectau twristiaeth / diwylliant / treftadaeth strategol

-        Prosiectau sero net strategol ledled y sir

 

O ran yr Angor Gwledig ac elfen Hwb Fach y Wlad, y cyfeirir ato o fewn yr adroddiad, cafodd yr Aelod Cabinet y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sut y byddai hynny'n cael ei weithredu trwy sefydlu canolfannau Hwb gwledig ar draws trefi marchnad gwledig y Sir gan gynnig mynediad i wasanaethau, gwybodaeth a chefnogaeth i breswylwyr gwledig.

 

PENDERFYNWYD

 

3.1

Cymeradwyo Rhaglen Angor Cymunedau Cynaliadwy fel yr argymhellwyd gan Bartneriaeth Adfywio Sir Gaerfyrddin

3.2

Cymeradwyo Rhaglen Angor Lle fel yr argymhellwyd gan Bartneriaeth Adfywio Sir Gaerfyrddin

3.3

Cymeradwyo Rhaglen Angor Gwledig fel yr argymhellwyd gan Bartneriaeth Adfywio Sir Gaerfyrddin

3.4

Cymeradwyo'r Rhaglen Angor Cefnogi Busnesau Lleol fel yr argymhellwyd gan Bartneriaeth Adfywio Sir Gaerfyrddin

3.5

Cymeradwyo'r manylion o fewn y papur Prosiectau Annibynnol a chymeradwyo'r themâu allweddol i'w cyflwyno ar gyfer galwad agored fel yr argymhellwyd gan y Bartneriaeth Adfywio.

 

4.

TALIADAU HAMDDEN 2023-24 pdf eicon PDF 151 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod Cabinet yr adroddiad ynghylch Taliadau Hamdden 2023-24 a oedd yn gofyn am gymeradwyo'r taliadau arfaethedig a oedd yn ffurfio rhan o'r cynllun cynhyrchu incwm ar gyfer yr isadran hamdden yn 2023/24. Roedd yr adroddiad yn cynnwys taliadau ar gyfer yr isadrannau canlynol o fewn Gwasanaethau Hamdden a hefyd yn manylu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys grymoedd y farchnad, a oedd wedi dylanwadu ar lefel arfaethedig y taliadau:-

 

·        Gwasanaethau Diwylliannol (Y Celfyddydau, Amgueddfeydd, Theatrau a'r Gwasanaeth Archifau)

·        Lleoliadau Hamdden a Chwaraeon (Canolfannau Hamdden, pyllau nofio, cynnyrch ar-lein Actif  a Thaliadau Chwaraeon Cymunedol Actif)

·        Hamdden Awyr Agored (Parciau Gwledig, gan gynnwys Parc Arfordirol y Mileniwm, maes parcio Traeth Pentywyn a Chanolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn.

 

PENDERFYNWYD bod y Taliadau Hamdden ar gyfer 2023-24 fel y nodir yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo.