Lleoliad: Ystafell Gynadledda Adnoddau - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Nodyn: moved from 21st
Rhif | eitem | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: |
|||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 19EG HYDREF, 2023 Cofnodion: |
|||||||||||||||
CRONFA ARLOESI GWLEDIG Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod Cabinet bum cais a oedd wedi dod i law am gymorth ariannol o dan y Gronfa Arloesi Gwledig, a oedd yn rhan o'r Angor Gwledig o fewn Ymyrraeth Cymunedau a Lle Cronfa Ffyniant Gyffredin Sir Gaerfyrddin.
Nodwyd bod y ceisiadau wedi'u hasesu yn erbyn meini prawf y gronfa gan banel o swyddogion a Phanel Asesu y Gronfa Arloesi Gwledig a Chymunedau Cynaliadwy, fel rhan o'r Bartneriaeth Adfywio ehangach, cyn iddynt gael eu cyflwyno i'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth i'w hystyried.
PENDERFYNWYD
3.1 cymeradwyo'r ceisiadau canlynol a gyflwynwyd am gyllid gan y Gronfa Arloesi Gwledig yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
3.2 peidio â chefnogi'r ceisiadau canlynol a gyflwynwyd am gyllid gan y Gronfa Arloesi Gwledig:
|
|||||||||||||||
ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI FOLLOWING CONSIDERATION OF ALL THE CIRCUMSTANCES OF THE CASE AND FOLLOWING THE APPLICATION OF THE PUBLIC INTEREST TEST THE CABINET MEMBER MAY CONSIDER THAT THE FOLLOWING ITEMS ARE NOT FOR PUBLICATION AS THEY CONTAIN EXEMPT INFORMATION AS DEFINED IN PARAGRAPH 14 OF PART 4 OF SCHEDULE 12A TO THE LOCAL GOVERNMENT ACT, 1972 AS AMENDED BY THE LOCAL GOVERNMENT (ACCESS TO INFORMATION) (VARIATION) (WALES) ORDER 2007. Cofnodion: PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.
|
|||||||||||||||
CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN Y DEYRNAS UNEDIG - GRANT TYFU BUSNES (ARLOESEDD) Cofnodion: Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran cynnal tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r bobl a'r busnesau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.
Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i gais prosiect a oedd wedi dod i law gan fusnes a oedd yn ceisio cymorth gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin – Cronfa Grant Tyfu Busnes a oedd yn galluogi busnesau i ddechrau, cynnal, tyfu ac arloesi.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r prosiect a gyflwynwyd i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin – Cronfa Grant Tyfu Busnes fel y manylir yn yr adroddiad.
|
|||||||||||||||
CRONFA YNNI ADNEWYDDADWY BUSNES Cofnodion: Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran cynnal tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r bobl a'r busnesau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.
Ystyriodd yr Aelod Cabinet geisiadau prosiect a oedd wedi dod i law gan ddau fusnes a oedd yn gofyn am gymorth gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin – Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes a oedd yn galluogi busnesau i ymgymryd â phrosiectau gwella ynni adnewyddadwy gan arwain at arbedion effeithlonrwydd busnes a lleihau carbon.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r prosiectau a gyflwynwyd i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin – Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes fel y manylir yn yr adroddiad.
|