Lleoliad: Ystafell Aelod y Cabinet, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Nodyn: Originally 20th September
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANT Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Awst 2023 yn gofnod cywir.
|
|
CRONFA FFYNIANT CYFRANNOL CRONFA YNNI ADNEWYDDADWY BUSNES - LIKEAFISH SWIM SCHOOL LTD PDF 109 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Dywedwyd mai ysgol nofio ym Mhensarn, Caerfyrddin oedd Likeafish Swim School Ltd a oedd yn darparu gwersi nofio a gweithgareddau d?r eraill.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am y prosiect arfaethedig a oedd yn cynnwys gosod system paneli solar 60kw gyda chymorth storio batri 10kw. Rhagwelir y byddai'r prosiect yn lleihau'r galw ar y grid gymaint â 60-70% ac yn cynhyrchu allbwn blynyddol o tua 48,000kWh. Roedd buddion pellach yn cynnwys arbediad o tua 30.57552 tunnell o garbon dros gyfnod o 3 blynedd.
Nodwyd, fel amod, y byddai angen cofrestru pridiannau cyfreithiol y grant ar brydles yr adeilad a oedd yn cael ei gefnogi o dan y cynllun. Yn ogystal, roedd y cytundeb telerau ac amodau a grantiau ar gyfer Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi'i gymeradwyo gan yr adran gyfreithiol.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r dyfarniad grant o £25,000 tuag at gostau cymwys y prosiect o £56,656.42 ar gyfer gosod system paneli solar 60k/w a chymorth storio batri 10kw, yn amodol ar y canlynol:
• Gosod y pridiant cyfreithiol ar y brydles, • Datrys yr ymholiad ynghylch caniatâd y perchennog tir
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI YNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET WEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 Cofnodion:
PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.
|
|
CRONFA FFYNIANT CYFRANNOL - CRONFA YNNI ADNEWYDDADWY BUSNES Cofnodion: Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran cynnal tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r bobl a'r busnesau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol. Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried ceisiadau am brosiectau a dderbyniwyd gan dri busnes a oedd yn gofyn am gymorth gan Gronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cynigion oedd wedi'u cyflwyno i Gronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes y Gronfa Ffyniant Gyffredin fel y nodir yn yr adroddiad amgaeedig
|
|
CRONFA MENTRAU GWLEDIG SIR GAERFYRDDIN Cofnodion: Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran cynnal tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r bobl a'r busnesau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.
Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried ceisiadau am brosiectau a dderbyniwyd gan dri busnes a oedd yn gofyn am gymorth gan Gronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
PENDERFYNWYD cynyddu'r uchafswm grant sydd ar gael o dan Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin o'i lefel bresennol o £100,000 i £200,000 fesul prosiect / cais ac ar yr un pryd cynnal yr uchafswm grant o 45% o gostau prosiectau cymwys neu £20,000 ar gyfer pob swydd sy'n cael ei chreu, pa un bynnag yw'r lleiaf.
|
|
CRONFA DATBLYGU EIDDO Cofnodion: Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran cynnal tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r bobl a'r busnesau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.
Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar wybodaeth ynghylch rhestr y prosiectau ar gyfer Cronfa Datblygu Eiddo Sir Gaerfyrddin.
Yn dilyn adolygiad diweddar o brosiectau a gymeradwywyd yn 2021, dywedwyd nad oedd rhai wedi cyflwyno ceisiadau manwl eto ac o ganlyniad roedd nifer o brosiectau wedi tynnu'n ôl o'r broses.
PENDERFYNWYD bod rhestr prosiectau wrth gefn Cronfa Datblygu Eiddo Sir Gaerfyrddin o ran yr arian ychwanegol sydd ar gael yn cael ei chymeradwyo.
|