Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth - Dydd Mawrth, 11eg Gorffennaf, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 17 MAI 2023 pdf eicon PDF 71 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mai, 2023, yn gywir.

 

3.

CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: GRONFA CYLLID A DARGEDIR, CRONFA BUDD CYMUNEDOL MYNYDD Y BETWS AR CRONFA'R DEGWM pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Cyllid, Cronfa Budd Cymunedol Mynydd y Betwsa Dargedir a’r Cronfa Degwm yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Y GronfaCyllid a Dargedir

YrYmgeisydd

Y Dyfarniad

Ferryside Social Enterprise Group

£20,000.00

Brynamman Public Hall & Institute

£20,000.00

 

Cronfa Budd Cymunedol Mynydd y Betws

YrYmgeisydd

Y Dyfarniad

Initiative for Nature Conservation Cymru (INCC)

£11,838.57

Penygroes Rugby and Community Sports Association

£10,000.00

Ystradowen community support for services

£13,041.60

Friends Of Tycroes Parks

£2,124.80

Ammanford Town Council

£15,000.00

Ammanford Foodbank

£3,980.20

 

Cronfa'rDegwm

YrYmgeisydd

Y Dyfarniad

Brynamman Public Hall and Institute

£3,000.00

 

 

4.

CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: CRONFA ARLOESI GWLEDIG pdf eicon PDF 130 KB

Cofnodion:

 PENDERFYNWYD

4.1   bod y ceisiadau canlynol am gymorth gan y Gronfa Arloesi Gwledig yn cael eu cymeradwyo yn amodol ar y telerau ac amodau arferol a’r rheiny a nodwyd yn yr adroddiad:

 

YrYmgeisydd

Y Dyfarniad

The One Planet Centre

£37,000.00

Actif Communities, Carmarthenshire County Council

£45,000.00

Social Farms & Gardens

£44,571.00

Ynni Sir Gâr

£39,950.00

Tetrim Teas Cyf

£44,588.00*

[ * Diwygiwydyn y cyfarfod]]

 

4.2  nad yw’r ceisiadau canlynol am gymorth gan y Gronfa Arloesi Gwledig yn cael eu cefnogi gan nad ydynt yn cyd-fynd â meini prawf allweddol y gronfa a, lle bo’n briodol, fod yr ymgeisydd yn cael ei gyfeirio at gyfleoedd cyllido eraill sy’n fwy addas i weithgarwch y prosiect:

 

YrYmgeisydd

CETMA

The Family Foundation

Potential to Succeed CIC

Kidwelly Hub CIC

Trimsaran Community Council

 

 

5.

CRONFA ADFYWIO STRYD FAWR Y 10 TREF pdf eicon PDF 131 KB

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i adroddiad ar y bwriad i greu cynllun grant trydydd parti newydd fel rhan o gynnig gwell rhaglen y Deg Tref ar gyfer trefi marchnad gwledig y sir. Byddai Cronfa Adfywio Canol Trefi Gwledig y Deg Tref yn cynnig cyfle i safleoedd canol tref, sydd wedi’u lleoli ar y stryd fawr wledig, wneud cais am gyllid i gynorthwyo o ran adnewyddu ac adfywio blaen eu safle. Byddai’r gronfa yn agored i safleoedd a dargedwyd mewn ardaloedd dynodedig ar draws deg tref wledig y sir. Roedd yr adroddiad yn manylu ar feini prawf y gronfa a’r broses ymgeisio.

 

PENDERFYNWYD

 

5.1 cymeradwyo creu cynllun grant trydydd parti newydd, sef Cronfa Adfywio Canol Trefi Gwledig y Deg Tref, fel rhan o raglen y Deg Tref i gefnogi bywiogrwydd a chynyddu nifer yr ymwelwyr â’r canol trefi hyn;

 

5.2 dirprwyo’r gwaith o ddyfarnu cyllid i’r Pennaeth Adfywio.