Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

2.

CYMERADWYO A LLOFNODI HYSBYSIAD PENDERFYNIAD Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 31 MAWRTH 2023 pdf eicon PDF 86 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Mawrth, 2023, yn gywir.

3.

CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: CRONFA ARLOESI GWLEDIG pdf eicon PDF 127 KB

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod Cabinet bum cais a oedd wedi dod i law am gymorth ariannol o dan y Gronfa Arloesi Gwledig, a oedd yn rhan o'r Angor Gwledig o fewn Ymyrraeth Cymunedau a Lle Cronfa Ffyniant Gyffredin Sir Gaerfyrddin. Nodwyd bod y ceisiadau wedi'u hasesu yn erbyn meini prawf y gronfa gan banel o swyddogion a Phanel Asesu y Gronfa Arloesi Gwledig a Chymunedau Cynaliadwy, fel rhan o'r Bartneriaeth Adfywio ehangach, cyn iddynt gael eu cyflwyno i'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth i'w hystyried.

 

PENDERFYNWYD

 

3.1     cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth gan y Gronfa Arloesi Gwledig yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad::

 

Yr Ymgeisydd

Dyfarniad

Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru

£44,845

Cymunedau Actif – Cyngor Sir Caerfyrddin

£45,000

Priffyrdd, Cyngor Sir Caerfyrddin / Ramblers Cymru

£45,000

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant - Ysgol Fusnes Caerfyrddin

£45,000

 

3.2     peidio â chefnogi'r cais a gyflwynwyd gan Fenter Cwm Gwendraeth Elli am nad  oedd yn cyd-fynd â meini prawf allweddol y gronfa.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau