Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANT Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. |
|||||||||||
CYMERADWYO A LLOFNODI HYSBYSIAD PENDERFYNIAD Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 31 MAWRTH 2023 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Mawrth, 2023, yn gywir. |
|||||||||||
CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: CRONFA ARLOESI GWLEDIG Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod Cabinet bum cais a oedd wedi dod i law am gymorth ariannol o dan y Gronfa Arloesi Gwledig, a oedd yn rhan o'r Angor Gwledig o fewn Ymyrraeth Cymunedau a Lle Cronfa Ffyniant Gyffredin Sir Gaerfyrddin. Nodwyd bod y ceisiadau wedi'u hasesu yn erbyn meini prawf y gronfa gan banel o swyddogion a Phanel Asesu y Gronfa Arloesi Gwledig a Chymunedau Cynaliadwy, fel rhan o'r Bartneriaeth Adfywio ehangach, cyn iddynt gael eu cyflwyno i'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth i'w hystyried.
PENDERFYNWYD
3.1 cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth gan y Gronfa Arloesi Gwledig yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad::
3.2 peidio â chefnogi'r cais a gyflwynwyd gan Fenter Cwm Gwendraeth Elli am nad oedd yn cyd-fynd â meini prawf allweddol y gronfa. |