Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol. |
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 22AIN IONAWR, 2024 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 22ain Ionawr 2024, gan ei fod yn gywir. |
|
Y TÂL SAFONOL AM OFAL PRESWYL GAN YR AWDURDOD LLEOL AM 2024-2025 Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried cynnig mewn adroddiad bod y tâl safonol am gartref gofal preswyl i bobl h?n gyda'r Awdurdod Lleol ar gyfer 2024-25 yn cael ei gynyddu o £840.60 i £889.94 am welyau prif ffrwd ac o £990.85 i £1,058.85 am welyau dementia. Ar gyfer preswylwyr sy'n cael eu lleoli gan yr awdurdod yng Nghartrefi'r Awdurdod Lleol, dyddiad gweithredu'r cyfraddau newydd fyddai 24 Mehefin 2024 ac ar gyfer preswylwyr sy'n cael eu lleoli yng nghartrefi'r awdurdod gan Awdurdodau Lleol Eraill, daeth y newidiadau i rym ar 8 Ebrill 2024.
Nodwyd bod yn rhaid i’r oedolion oedd yn derbyn llety preswyl gyfrannu at gost eu gofal. Os oedd ganddynt adnoddau digonol, roedd yn ofynnol iddynt dalu'r gost lawn am eu llety, sef y Tâl Safonol a gyfrifwyd yn flynyddol ar sail y gost lawn i'r Awdurdod o ddarparu'r llety.
PENDERFYNWYD bod y Tâl Safonol am Gartref Gofal Preswyl i Bobl H?n gyda'r Awdurdod Lleol yn cael ei gynyddu o £840.60 i £889.94 am welyau prif ffrwd ac o ££990.85 i £1,058.85 am welyau dementia. |