Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 18FED MAWRTH 2022 PDF 78 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 18fed Mawrth, 2022 yn gofnod cywir. |
|
CODI TÂL DIBRESWYL 2023-24 PDF 154 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar effaith bosibl newidiadau ar daliadau am wasanaethau dibreswyl a'r angen i daliadau gynyddu yn Sir Gaerfyrddin er mwyn parhau i sicrhau'r incwm mwyaf posibl.
Er mwyn gweithio tuag at adennill costau yn llawn ar gyfer 2023-24, ac alinio cyfraddau ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, cynigiwyd cynyddu taliadau dibreswyl am wasanaethau y codir tâl amdanynt fesul awr o £18.00 i £20.00 (11.11%) a chynyddu'r taliadau ar gyfer Gofal Dydd a Lleoli Oedolion o £17.60 i £19.55 (11.08%).
Nodwyd bod graddfa'r taliadau ar gyfer 2023-24, yn y rhan fwyaf o achosion, yn sylweddol is na chost y ddarpariaeth, ond ni fyddai taliadau cynyddol o reidrwydd yn cynyddu incwm eleni oherwydd bod y swm y gall unrhyw un ei dalu yn cael ei reoli drwy gyfrwng "Cap" presennol Llywodraeth Cymru ac Asesiad Ariannol. Fodd bynnag, cydnabuwyd y gallai fod cynnydd bach iawn mewn incwm o'r cynnydd chwyddiant a gymhwyswyd at y pecynnau gofal bach cost llawn.
PENDERFYNWYD bod Sir Gaerfyrddin yn cynyddu'r taliadau dibreswyl am wasanaethau y codir tâl amdanynt fesul awr o £18.00 io £20.00 (11.11%) a chynyddu'r taliadau am Ofal Dydd a Lleoli Oedolion o £17.60 io £19.55 (11.08%) mewn ymgais i adennill cymaint o refeniw â phosibl o fewn y rheolau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24, ac alinio cyfraddau ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru ac yn enwedig er mwyn symud yn agosach at Awdurdodau Lleol rhanbarthol.
|