Lleoliad: Ystafell Aelod y Cabinet, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 24 MEHEFIN 2024 PDF 74 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 24 Mehefin, 2024 yn gofnod cywir.
|
|
TALIADAU DIBRESWYL 2025-26 PDF 141 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad ar gynigion i gynyddu taliadau gofal dibreswyl y Cyngor ar gyfer 2024/25 yn unol â chostau cynyddol a chwyddiant.
Nodwyd, gan fod Llywodraeth Cymru wedi gosod cap ariannol o £100 am ofal dibreswyl ni fyddai fawr o fudd mewn cynyddu taliadau y tu hwnt i chwyddiant. Fodd bynnag, er mai dim ond y cynnydd lleiaf mewn incwm i'r awdurdod y byddai chwyddiant yn ei roi, roedd yn rhaid cynyddu taliadau hanfodol i adlewyrchu costau chwyddiant.
Wrth nodi bod y ffigurau a ddangosir yn yr adroddiad ar gyfer y flwyddyn nesaf yn seiliedig ar gyhoeddiadau presennol Llywodraeth Cymru ac nad oedd unrhyw arwydd y byddai newid yn digwydd y tu hwnt i 2025-26, efallai y bydd angen cynnydd pellach i'r taliadau pe bai Llywodraeth Cymru yn diwygio'r rheolau taliadau.
Ar ben hynny, byddai'r incwm ychwanegol a gronnwyd yn dibynnu'n llwyr ar y gallu i dalu am yr unigolion sydd angen gofal, roedd yr Aelod Cabinet yn teimlo'n gryf bod angen i Lywodraeth Cymru adolygu'r cap ariannol ymhellach.
PENDERFYNWYD:
3.1 bod Sir Gaerfyrddin yn cynyddu'r taliadau dibreswyl ar gyfer gwasanaethau y codir tâl amdanynt fesul awr o £22.00 i £23.85 (%) a chynyddu'r taliadau ar gyfer gofal sesiynol o £19.55 i £23.85 (10%). Bydd hyn yn fodd o geisio adennill cymaint o refeniw â phosibl o fewn y rheolau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26, ac i alinio cyfraddau ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, a symud yn agosach at Awdurdodau Lleol rhanbarthol.
3.2 bod Sir Gaerfyrddin yn cyflwyno'r ffioedd yn unol â'r polisi Codi Tâl newydd sydd ynghlwm wrth yr adroddiad.
|