Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 20 MAWRTH 2024 PDF 74 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2024, gan ei fod yn gywir. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL PDF 105 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Roedd gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi'i roi i'r Cadeirydd, i Bennaeth yr Ysgol ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/yr aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd.
Dywedwyd bod Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.
Nodwyd hefyd y gallai'r holl Gynghorwyr Sir, ar ôl cael eu hethol, bennu ar ba gyrff llywodraethu ysgolion y byddent yn eistedd, a byddai eu penderfyniad yn cael blaenoriaeth dros Lywodraethwyr Awdurdod Lleol na chafodd eu hethol. O ganlyniad, gallai Cynghorwyr Sir enwebu i wasanaethu fel Llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar ysgol lle nad oedd lle gwag ac os oedd gormod o lywodraethwyr, byddai'r Cyngor yn nodi pa Lywodraethwr Awdurdod Lleol yr oedd yn ofynnol iddo roi'r gorau i'r swydd.
PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr Awdurdod Lleol er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi swyddi gwag ar Gyrff Llywodraethu :-
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
PENODI AELODAU I'R FFORWM DERBYNIADAU PDF 122 KB Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet ynystyriedadroddiad yn manylu ar benodi Aelodau'r Fforwm Derbyniadau Addysg.
Yn unol â Pholisi Penodi Aelodau Fforwm Derbyniadau yr Awdurdod Lleol, mae gofyniad i adolygu aelodau craidd ac aelodau ysgolion y Fforwm bob 4 blynedd. Cynhaliwyd adolygiad aelodaeth llawn a chymeradwywyd yr enwebiadau'n ffurfiol ym mis Mai 2023.
Rhoddwyd gwybod i'r Aelod Cabinet fod Pennaeth Ysgol Sant Ioan Llwyd wedi ymddeol o addysgu a'r Fforwm ar 4 Chwefror 2024 a gofynnwyd am enwebiadau gan holl Benaethiaid Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir yn Sir Gaerfyrddin ym mis Ebrill 2024 ac fe gafwyd un enwebiad.
Er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol o ran llenwi swyddi gwag ar y Fforwm Derbyniadau
PENDERFYNWYD penodi'r canlynol i'r Fforwm Derbyniadau Addysg, am gyfnod cychwynnol o bedair blynedd:
Cynrychiolwyr y Penaethiaid Ysgol: Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir:Mrs Alison Howells (Ysgol Gynradd Gatholig Y Santes Fair, Llanelli)
|