Lleoliad: Rhith-Gyfarfod. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD 29ain O ORFFENNAF 2022 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 29Gorffennaf 2022 yn gofnod cywir. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Nodwyd bod gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi'i roi i'r Cadeirydd, i Bennaeth yr Ysgol ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/Aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd.
Hefyd dywedwyd bod Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.
Dywedodd y Pen Swyddog Llywodraethu Ysgolion y gall yr holl Gynghorwyr Sir, ar ôl cael eu hethol, bennu ar ba gyrff llywodraethu ysgolion y byddant yn eistedd a bydd eu penderfyniad yn cael blaenoriaeth dros lywodraethwyr awdurdod lleol na chafodd eu hethol. O ganlyniad, gall Cynghorwyr Sirol enwebu i wasanaethu fel Llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar ysgolion lle nad oes lle gwag ar hyn o bryd. Os bydd swydd llywodraethwr wedi'i ordanysgrifio, gall y Cyngor bennu pa Lywodraethwr Awdurdod Lleol sy'n gorfod rhoi'r gorau i'r swydd.
PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr Awdurdod Lleol er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GYMRAEG 2021-22 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried yr Adroddiad Blynyddol o ran yr iaith Gymraeg a chydymffurfio â Safonau'r Gymraeg yn ystod 2021-22. Roedd yr adroddiad yn manylu ar waith darparu, datblygu a hyrwyddo'r Iaith Gymraeg yn ystod y cyfnod adrodd a chafodd ei lunio er mwyn cydymffurfio â threfniadau monitro Comisiynydd yr Iaith Gymraeg.
Cyfeiriwyd at Adroddiad Sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2021/22, a oedd yn cadarnhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.
PENDERFYNWYD cytuno ar gynnwys yr Adroddiad Blynyddol er mwyn ei gyhoeddi a'i hyrwyddo ar wefan y Cyngor. |