Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg - Dydd Gwener, 24ain Mawrth, 2023 9.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 24AIN IONAWR 2023 pdf eicon PDF 77 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'rcyfarfod oedd wedi'igynnal ar 24ain Ionawr 2023 yn gofnodcywir.

 

3.

PENODI LLYWODRAETHWYR A.L.L. pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Nodwyd bod gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi'i roi i'r Cadeirydd, i Bennaeth yr Ysgol ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/yr Aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd.

 

Hefyd dywedwyd bod Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.

 

Dywedodd y Pen Swyddog Llywodraethu Ysgolion y gall yr holl Gynghorwyr Sir, ar ôl cael eu hethol, bennu ar ba gyrff llywodraethu ysgolion y byddant yn eistedd a bydd eu penderfyniad yn cael blaenoriaeth dros lywodraethwyr awdurdod lleol na chafodd eu hethol. O ganlyniad, gall Cynghorwyr Sirol enwebu i wasanaethu fel Llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar ysgolion lle nad oes lle gwag ar hyn o bryd. Os bydd swydd llywodraethwr wedi'i ordanysgrifio, gall y Cyngor bennu pa Lywodraethwr Awdurdod Lleol sy'n gorfod rhoi'r gorau i'r swydd.

 

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr Awdurdod Lleol er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-

 

Ysgol Gynradd

Penodiadau

Blaenau

(1 x lle gwag - 1 enwebiad)

 

Mrs D Fisher-Edwards

                                 

Carwe-Gwynfryn-Ponthenri Federation

(1 x lle gwag - 1 enwebiad)

 

 

Y Cynghorydd M. James

Cwrt Henri, Ffairfach and Talley Federation

(2 x lle gwag - 1 enwebiad)

 

Y Cynghorydd F. Walters

Griffith Jones

(1 x lle gwag o 1.4.23 - 1 enwebiad)

 

Mr. T. John

Hendy

(1 x lle gwag o 1.4.23 - 1 enwebiad) 

Mrs. K. Taylor

Old Road

(2 x lle gwag - 2 enwebiad)

Y Cynghorydd A. Leyshon

Rev. G. Hays

Parcyrhun

(1 x lle gwag - 1 enwebiad)

Mrs. E. Jones

Peniel

 (1 x lle gwag - 1 enwebiad)

Mr. W. Evans

Pentip

(2 x lle gwag - 1 enwebiad)

Mr. W.G. Thomas

Penygaer

(1 x lle gwag - 1 enwebiad

Y Cynghorydd R. James

Pontyates

 (1 x lle gwag - 1 enwebiad)

Mrs. L.M. Cave

Teilo Sant

(2 x lle gwag - 1 enwebiad)

Mr. E. Davies