Lleoliad: Ystafell Aelod y Cabinet, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 30 HYDREF 2024 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Hydref, 2024 yn gofnod cywir.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Roedd gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi'i roi i'r Cadeirydd, i Bennaeth yr Ysgol ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/yr aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd.
Hefyd dywedwyd bod Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.
Nodwyd hefyd y gallai'r holl Gynghorwyr Sir, ar ôl cael eu hethol, bennu ar ba gyrff llywodraethu ysgolion y byddent yn eistedd, a byddai eu penderfyniad yn cael blaenoriaeth dros Lywodraethwyr Awdurdod Lleol na chafodd eu hethol. O ganlyniad, gallai Cynghorwyr Sir enwebu i wasanaethu fel Llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar ysgol lle nad oedd lle gwag ac os oedd gormod o lywodraethwyr, byddai'r Cyngor yn nodi pa Lywodraethwr Awdurdod Lleol yr oedd yn ofynnol iddo roi'r gorau i'r swydd.
PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr Awdurdod Lleol er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL AR YR IAITH GYMRAEG 2023-24 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried yr Adroddiad Blynyddol ynghylch y Gymraeg a chydymffurfio â Safonau'r Gymraeg yn ystod 2023-24. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y gwaith o ddarparu, datblygu a hyrwyddo'r Gymraeg yn ystod y cyfnod adrodd yn unol â threfniadau monitro Comisiynydd y Gymraeg.
Daeth Rheoliadau Safonau'r Gymraeg 2015 i rym ar 31 Mawrth, 2015 ac fe'u gosodwyd ar yr Awdurdod ar 31 Mawrth, 2016.
Dywedodd y Rheolwr Polisi a Chynnwys y byddai Adroddiad Blynyddol y Gymraeg ar gyfer 2023-24 yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor.
PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Blynyddol y Gymraeg 2023-24 a'i gyhoeddi ar wefan y Cyngor.
|