Agenda a chofnodion drafft

Yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg - Dydd Mercher, 30ain Hydref, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Aelod y Cabinet, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. 

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 10 GORFFENNAF pdf eicon PDF 75 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2024 yn gofnod cywir. 

3.

PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL. pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Roedd gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi'i roi i'r Cadeirydd, i Bennaeth yr Ysgol ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/yr aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd.

 

Dywedwyd bod Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.

 

Nodwyd hefyd y gallai'r holl Gynghorwyr Sir, ar ôl cael eu hethol, bennu ar ba gyrff llywodraethu ysgolion y byddent yn eistedd, a byddai eu penderfyniad yn cael blaenoriaeth dros Lywodraethwyr Awdurdod Lleol na chafodd eu hethol. O ganlyniad, gallai Cynghorwyr Sir enwebu i wasanaethu fel Llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar ysgol lle nad oedd lle gwag ac os oedd gormod o lywodraethwyr, byddai'r Cyngor yn nodi pa Lywodraethwr Awdurdod Lleol yr oedd yn ofynnol iddo roi'r gorau i'r swydd.

 

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr Awdurdod Lleol er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-  

 

Ysgol Gynradd

Penodiadau

Bryn Teg

(1 Swydd Wag o 26/11/24 – 1 enwebiad)

Mr D. Sutherland

Y Bynea

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mrs C. Richards

 

Carreg Hirfaen

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Y Cynghorydd Denise Owen

 

Ffederasiwn Ysgolion Carwe Gwynfryn a Phont-henri

(2 le gwag – 1 cyfredol ac 1 o 26/11/24 – 1 enwebiad)

Y Cynghorydd Tyssul Evans

 

Ffederasiwn Ysgolion Cross Hands a Dre-fach

(3 lle gwag – 2 gyfredol ac un o 26/11/24 – 4 enwebiad)

Ms K. Isaac

Y Cynghorydd Darren Price

Mrs N.M. Lewis 

Ffederasiwn Ysgolion Cwrt-henri, Ffair-fach a Thalyllychau

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mr A. Rees

 

Dafen

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Ms F. Thomas

Llys Hywel

(2 le gwag – 1 enwebiad)

Mrs A. Cornick

Parc-yr-hun

(2 le gwag – 1 enwebiad)

Mr D. Reid

Penrhos

(1 lle gwag o 31/10/24 – 1 Enwebiad)

Y Cynghorydd Louvain Roberts

Peniel

(1 lle gwag o 26/11/24 – 1 Enwebiad)

Mrs C. Llwyd

Parc Waundew

(2 le gwag – 2 enwebiad

Ms C. Jones

Ms C. Jones

Saron

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mr O. Jones

T?-croes

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mrs J. Joseph

Y Dderwen

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Y Parch T.T. Defis

Y Ddwylan

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Y Cynghorydd Hazel Evans

Y Felin

(1 Swydd Wag – o 26/11/24 - 1 enwebiad)

Y Parch G. Payne

 

Ysgol Uwchradd

Penodiadau

Dyffryn Aman

(2 le gwag – 2 enwebiad)

Dr. A. Rees

Mr A. Cleverly

Dyffryn Taf

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mrs A. Prickett

Gyfun Emlyn

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mrs L. Peckham

Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth

(2 le gwag – 1 enwebiad

Mrs J. Pearce