Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. 

 

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD 12 MAI 2023 pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 12 Mai 2023 yn gofnod cywir. 

 

3.

PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL. pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Roedd gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi'i roi i'r Cadeirydd, i Bennaeth yr Ysgol ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/yr aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd.

 

Nodwyd bod Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.

 

Nodwyd hefyd y gallai'r holl Gynghorwyr Sir, ar ôl cael eu hethol, bennu ar ba gyrff llywodraethu ysgolion y byddent yn eistedd, a byddai eu penderfyniad yn cael blaenoriaeth dros Lywodraethwyr Awdurdod Lleol na chafodd eu hethol. O ganlyniad, gallai Cynghorwyr Sir enwebu i wasanaethu fel Llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar ysgol lle nad oedd lle gwag ac os oedd gormod o lywodraethwyr, byddai'r Cyngor yn nodi pa Lywodraethwr Awdurdod Lleol yr oedd yn ofynnol iddo roi'r gorau i'r swydd.

 

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr Awdurdod Lleol er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-

 

Ysgol Gynradd

Penodiadau

Bro Banw

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mrs K. Hughes

 

Gorslas

(2 le gwag - 1 ar hyn o bryd ac un o 2 Medi 2023 - 2 enwebiad)

Mr M. Jenkins

Mr C. Davies

 

Tre Ioan

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Miss K. Gardner

 

Llandeilo

(2 le gwag - 1 ar hyn o bryd ac un o 12 Gorffennaf 2023 - 2 enwebiad)

Y Cynghorydd Edward Thomas

Mr C. New

 

Llandybïe

(1 lle gwag o 15 Gorffennaf 2023 - 1 enwebiad)

 

Mrs E. Williams

Y Pwll

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mr. R. Staines

Santes Fair, Llanelli

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mrs C. Cooper

Tycroes

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mr S. Taylor

Y Dderwen

(2 le gwag o 25 Medi 2023 – 2 enwebiad)

Mr A. Charles

Y Cynghorydd Emlyn Schiavone

 

Ysgol Uwchradd

Penodiadau

Ysgol Emlyn

(3 lle gwag – 2 enwebiad)

 

Mrs M. Peckham

Mr M. Morden

 

Maes y Gwendraeth

(2 le gwag – 2 enwebiad)

Mrs D. Williams

Ms M. Maddock

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau