Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 24AIN TACHWEDD 2022 pdf eicon PDF 76 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2022 yn gofnod cywir.

3.

PENODI LLYWODRAETHWYR A.L.L pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Nodwyd bod gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi'i roi i'r Cadeirydd, i Bennaeth yr Ysgol ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/yr aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd.

 

Hefyd dywedwyd bod Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi. 

 

Rhoddodd y Pen Swyddog Llywodraethu Ysgolion wybod y gall yr holl Gynghorwyr Sir, ar ôl cael eu hethol, bennu ar ba gyrff llywodraethu ysgolion y byddant yn eistedd a bydd eu penderfyniad yn cael blaenoriaeth dros Lywodraethwyr Awdurdod Lleol na chafodd eu hethol. O ganlyniad, gall Cynghorwyr Sirol enwebu i wasanaethu fel Llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar ysgolion lle nad oes lle gwag ar hyn o bryd. Os bydd swydd llywodraethwr wedi'i ordanysgrifio, gall y Cyngor bennu pa Lywodraethwr Awdurdod Lleol y mae'n rhaid iddo roi'r gorau i'r swydd.

 

 

 

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr Awdurdod Lleol er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:- 

Ysgol Gynradd

Penodiadau

Y Bryn

(1 lle gwag ar ôl 29.01.23 - 1 enwebiad)

Dr M.A. Williams

CarregHirfaen

(1 lle gwag ar ôl 29.01.23 - 1 enwebiad) 

 

 

Mr G. Hope

Ffederasiwn Cynwyl Elfed a Llanpumsaint

(3 lle gwag – 2 enwebiad)

 

Mr. A. Davies

Mr K.A. Nicholas

Ffwrnes

(0 lle gwag)

(Bydd angen i un o’r Llywodraethwyr Awdurdod Lleol presennol roi'r gorau i'r swydd i alluogi'r Cynghorydd James i eistedd ar y Bwrdd o Lywodraethwyr)

Y Cynghorydd Rob James

Hafodwenog

(1 lle gwag ar ôl 06.03.23)

 

Y Cynghorydd Jean Lewis

Llandybïe

(1 lle gwag – 1 enwebiad) 

 

Mrs. S. Cann

Llangynnwr

(1 lle gwag ar ôl 12.02.23 - 1 enwebiad) 

 

Mr. G. Rees

Myrddin

(1 lle gwag – 1 enwebiad) 

 

Mrs. D. Ridley

Peniel

(1 lle gwag – 1 enwebiad) 

 

Mr. M.J. Evans

Saron

(1 lle gwag ar ôl 18.03.23 - 1 enwebiad) 

Mrs. L. Jones

Y Ddwylan

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

 

 

Mrs. J. Ludgate 

 

Ysgol Uwchradd

Penodiadau

Bro Myrddin

(2 le gwag, 1 ar hyn o bryd ac un ar ôl 29.01.23 - 1 enwebiad) 

Y Parchedig T.T. Defis

Dyffryn Taf

(1 lle gwag ar ôl 18.03.23 - 1 enwebiad) 

Mr. E. Howells

Ysgol Gyfun Emlyn

(2 le gwag – 1 enwebiad) 

Dr. D. Whybrow

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau