Agenda a chofnodion drafft

Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith - Dydd Llun, 8fed Gorffennaf, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

 

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 19 MAWRTH 2024 pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

3.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

AR ÔL YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS , GALL YR AELOD O'R CABINET YSTYRIED NAD YW'R EITEM GANLYNOL I'W CHYHOEDDI GAN EI BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 16 O RAN 4 O ATODLEN 12(A) I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIAD) (CYMRU) 2007 FEL Y MAE'N YMWNEUD Â GWYBODAETH MEWN PERTHYNAS Â HAWLIAD I BREIFATRWYDD PROFFESIYNOL CYFREITHIOL Y GELLID EI CHYNNAL MEWN ACHOSION CYFREITHIOL.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

4.

GWELLA CYFLEUSTERAU PARCIO CEIR YN LLANSTEFFAN

Cofnodion:

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig yn ymwneud â gwybodaeth y gellid honni braint gyfreithiol broffesiynol mewn perthynas â hi mewn achosion llys cyfreithiol (Paragraff 16 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyo cynigion i wella'r cyfleusterau parcio yn Llansteffan.

 

Nododd yr Aelod Cabinet fod Cynllun Gweithredu wedi'i lunio i fynd i'r afael â rhai o'r problemau sydd wedi'u hachosi gan boblogrwydd cynyddol Llansteffan fel cyrchfan i ymwelwyr a bod dau gylch o ymgynghori cyhoeddus wedi'u cynnal ym mis Gorffennaf a mis Hydref 2022 i ymgysylltu â'r gymuned a rhanddeiliaid ynghylch y Cynllun Gweithredu.

 

Mewn partneriaeth â'r gymuned leol, nod y cynigion yng Nghynllun Gweithredu Llansteffan oedd:

 

·       Gwella'r ansawdd a'r olwg.

·       Darparu cynifer o leoedd parcio â phosibl.

·       Defnyddio dewisiadau deunyddiau a dyluniadau sy'n gweddu.

·       Cymell cartrefi modur i beidio ag aros dros nos.

·       Cyflwyno taliadau am barcio a defnyddio'r refeniw i gyllido'r buddsoddiad a'r gwaith cynnal a chadw a rheoli yn y dyfodol.

·       Darparu lleoedd parcio ychwanegol i ymateb i'r galw yn ystod y tymor prysur.

 

Nodwyd ymhellach fod y ddau Aelod lleol, sef y Cynghorydd C Jones a'r Cynghorydd P. M. Hughes, yn cefnogi'r cynigion i wella'r cyfleusterau parcio yn Llansteffan.

 

Dywedwyd bod grant wedi'i ddyfarnu'n llawn gyda gofyniad i'r prosiect gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2025.

 

PENDERFYNWYD RHOI AWDURDOD I:-

 

4.1      Bwrw ymlaen â gwelliannau i Faes Parcio Grîn y Gogledd fel y nodir yn yr adroddiad gan ddefnyddio cyllid grant i'r graddau mwyaf posibl.

 

4.2      Ymrwymo i gytundeb â Chyngor Cymuned Llansteffan ar gyfer prydlesu a gweithredu'r maes parcio yn y dyfodol, gyda'r Swyddogion yn cyd-drafod y telerau.

 

4.3      Cyflwyno tâl am barcio yn y ddau faes parcio yn Llansteffan fel y nodir yn yr adroddiad.