Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Aelod y Cabinet, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD PENDERFYNIDAU AELOD Y CABINET DROS Y AMGYLCHEDD A GYNHALIWYD AR 3 RHAGFYR 2021 pdf eicon PDF 78 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi'r cofnod penderfyniadau o gyfarfod yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2021 gan ei fod yn gofnod cywir.

 

 

3.

SHOPMOBILITY CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 117 KB

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod Cabinet adroddiad ynghylch cefnogi Shopmobility Caerfyrddin drwy grant pellach o £15,236 am gyfnod o 12 mis gan gychwyn ym mis Medi 2022. Esboniwyd er bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cefnogi cynllun Shopmobility ers 2011 a'i fod wedi cael incwm drwy godi tâl a thrwy gynnal gweithgareddau i godi arian, ei fod yn dibynnu'n bennaf ar gefnogaeth ariannol gan y Cyngor.

 

Nodwyd bod Shopmobility yn un o nifer o fentrau sy'n cael eu hannog gan yr Awdurdod i gefnogi'r dref ac mae'n elfen bwysig o sicrhau bod mynediad i siopau, busnesau a gwasanaethau o fewn Caerfyrddin yn gynhwysol ac yn darparu ar gyfer unigolion sydd ag anableddau symud.

 

Dywedwyd bod Shopmobility yn elusen gofrestredig yng Nghanol Tref Caerfyrddin sy'n darparu cyfleusterau fel cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd i ymwelwyr eu defnyddio yn y dref.  Yn ogystal, byddai'n cael ei ariannu gan elfen Trafnidiaeth Gymunedol y Cyngor Sir o Grant Cymorth Gwasanaethau Bysiau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD bod Shopmobility yng Nghaerfyrddin yn parhau i gael ei gefnogi ar gyfer y cyfnod rhwng mis Medi 2022 a mis Medi 2023 gyda grant o £15,236/

 

4.

SHOPMOBILITY LLANELLI pdf eicon PDF 126 KB

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod Cabinet adroddiad i gefnogi Shopmobility Llanelli gyda grant o £15,236 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/23 yn dechrau mis Awst, 2022. Esboniwyd er bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cefnogi cynllun Shopmobility ers 2011 a'i fod wedi cael incwm drwy godi tâl a thrwy gynnal gweithgareddau i godi arian, ei fod yn dibynnu'n bennaf ar gefnogaeth ariannol gan y Cyngor.

 

Nodwyd bod Shopmobility yn un o nifer o fentrau a oedd yn cael eu hannog gan yr Awdurdod i gefnogi tref Llanelli ac roedd yn elfen bwysig o sicrhau bod mynediad i siopau, busnesau a gwasanaethau yn Llanelli yn gynhwysol ac yn darparu ar gyfer unigolion â namau symudedd.

 

Dywedwyd bod Shopmobility yn darparu ar gyfer cyfleusterau llogi fel cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd i siopwyr ac ymwelwyr i'w defnyddio yn y dref.  Yn ogystal, byddai'n cael ei ariannu gan elfen Trafnidiaeth Gymunedol y Cyngor Sir o Grant Cymorth Gwasanaethau Bysiau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD bod grant p £15,236 yn cael ei ddarparu i gefnogi Shopmobility yn Llanelli rhwng mis Awst 2022 a mis Awst 2023.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau