Lleoliad: Ystafell Aelod y Cabinet, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine White 01267 224030
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 17 MAWRTH 2026 Cofnodion: |
|
|
TALIADAU AR GYFER TYMOR CASGLU GWASTRAFF GARDD 2027/2028 Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i'r taliadau arfaethedig ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd ar gyfer tymor 2027/28.
Esboniodd yr adroddiad fod y Cyngor yn gweithredu gwasanaeth casglu gwastraff gardd bob pythefnos, yn seiliedig ar danysgrifiad, gan ddarparu 21 casgliad rhwng Chwefror a Rhagfyr. Roedd angen cymeradwyo'r taliadau yn gynnar i ganiatáu digon o amser i gyfathrebu â chwsmeriaid, adnewyddu tanysgrifiadau, prosesu taliadau, cynllunio gwasanaeth a chyflenwi neu atgyweirio biniau cyn dechrau'r casgliadau.
Esboniodd Rheolwr y Strategaeth a'r Polisi Gwastraff mai 3.2% oedd y cynnydd mewn taliadau yn unol â'r chwyddiant ar gyfer 2027/28.
Y newidiadau arfaethedig oedd:
• £62.54 am y tanysgrifiad cyntaf pan gaiff ei dalu trwy Ddebyd Uniongyrchol; • £56.29 am y tanysgrifiad cyntaf pan gaiff ei dalu yn llawn, gan gynnwys gostyngiad o 10%; • £56.29 am bob tanysgrifiad ar gyfer bin ychwanegol pan gaiff ei dalu trwy Ddebyd Uniongyrchol; • £50.66 am bob tanysgrifiad ar gyfer bin ychwanegol pan gaiff ei dalu yn llawn; ac • £20 am bob bin gwastraff gardd newydd a gyflenwir.
Nododd yr Aelod Cabinet y byddai taliadau Debyd Uniongyrchol ar gael rhwng Chwefror a Gorffennaf, fel y gallai cwsmeriaid wasgaru'r gost dros sawl mis. Byddai'r tâl o £20 am finiau newydd yn adennill y gost i'r Cyngor o brynu'r bin ac yn lleihau'r gost o adfer biniau lle bo cwsmeriaid yn canslo'r gwasanaeth wedi hynny.
Hefyd, byddai tymor casglu 2027 yn dechrau yn Chwefror ac yn dod i ben ddechrau Rhagfyr. Bwriad y taliadau arfaethedig oedd cefnogi cynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth dewisol a rhoi modd i gael yr incwm tanysgrifio cyn darparu'r gwasanaeth.
PENDERFYNWYD cymeradwyo taliadau y gwasanaeth gwastraff gardd ar gyfer tymor 2027/28 fel y nodir yn yr adroddiad, cyn yr ymgynghoriad terfynol ynghylch y gyllideb a chyn i'r Cyngor Llawn ystyried cyllideb 2027/28.
|