Agenda a chofnodion drafft

Yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd - Dydd Mercher, 17eg Gorffennaf, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Aelod y Cabinet, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

2.

CYNLLUN CYFLAWNI GWASANAETH HYLENDID A SAFONAU BWYD 2024/25 pdf eicon PDF 178 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi sut yr ydym yn cynllunio sut i weithredu rheolaethau bwyd swyddogol, cyngor ac addysg yn ystod 2024/25, gan gynnwys ymyriadau sydd wedi'u rhaglennu ac unrhyw ymyriadau hwyr. Nodwyd bod y cynllun hefyd yn tynnu sylw at yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2023/24 a oedd wedi llywio'r gwaith o gynllunio'r gwasanaeth ar gyfer 2024/25.

 

Roedd y cynllun yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

·         Asesiad o berfformiad ar gyfer 2023/24 (Atodiad A);

·         Cefndir i Sir Gaerfyrddin;

·         Galw ar y gwasanaeth bwyd;

·         Darparu gwasanaethau wedi'u cynllunio ar gyfer 2024/25, gan gynnwys swyddogaethau ehangach;

·         Adnoddau (gan gynnwys staff) i ddarparu'r gwasanaeth bwyd;

·         Sut y byddai'r ddarpariaeth yn cael ei monitro a'i hadolygu yn ystod y flwyddyn; a

·         Meysydd i dargedu gwella yn ystod y flwyddyn. 

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar ddiweddariad ar ddiwedd Chwarter 2 i ystyried argymhellion Archwilio ASB:

2.1

nodi'r Adolygiad Perfformiad Blynyddol (Atodiad A) a oedd wedi llywio'r gwaith o gynllunio'r gwasanaeth ar gyfer 24/25.

2.2

 

cadarnhau'r Cynllun Cyflawni Gwasanaeth ar gyfer 24/25 sy'n nodi sut y mae'r Awdurdod yn ymchwilio i reolaethau bwyd swyddogol, cyngor ac addysg ac yn eu gweithredu