Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio - Dydd Mawrth, 14eg Mawrth, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Aelod y Cabinet, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.

 

 

2.

CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL:CYLLID CYFALAF 10 TREF SIR GÂR pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad ar Gymorth Ariannol o Gyllid Cyfalaf y 10 Tref mewn perthynas ag 1 cais gan Gyngor Tref Llanymddyfri.  Dywedwyd mai nod y cyllid oedd cefnogi gwelliannau i economi twristiaeth ac ymwelwyr Llanymddyfri fel rhan o'r rhaglen 10 Tref.

 

Roedd yr adroddiad yn gofyn i'r Aelod Cabinet gymeradwyo'r cais am gyfanswm cyllid o £60,681.08 a atodir i'r adroddiad yn Atodiad 1.

 

Nododd yr Aelod Cabinet fod datblygu pecyn o brosiectau gwella twristiaeth i gefnogi twf y dref wedi cael ei nodi fel un o brif flaenoriaethau Llanymddyfri. Yn ogystal, roedd y cyfleoedd a oedd yn cael eu cynnig yn sgil cynnal Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri yn golygu y byddai'r prosiect yn cael ei gyflwyno'n raddol er mwyn sicrhau bod yr elfennau gwella twristiaeth, fel y nodwyd yn y cais, yn cael eu cwblhau'n amserol i fanteisio ar y nifer fawr o ymwelwyr a fyddai'n dod i'r ardal yn ystod wythnos yr ?yl.

 

Dywedwyd bod y cyllid yn amodol ar yr amodau canlynol:-

  1. Cymeradwyaeth Caniatâd Heneb Gofrestredig gan CADW;
  2. Caniatâd hysbysebu gan Gyngor Sir Caerfyrddin;
  3. Fel y nodwyd yn yr adroddiad, roedd lwfans wedi cael ei roi yn seiliedig ar drafodaethau â'r cyflenwr yn ymwneud â dylunio a gwaith ychwanegol i gynnwys canllaw yn y castell, yn unol â'r cais gan CADW a Chyngor Sir Caerfyrddin;
  4. Gosod cyfyngiad cyfreithiol ar Y Gannwyll yn unol â gweithdrefnau Cyngor Sir Caerfyrddin.

    V.         Ffurfioli'r brydles rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Llanymddyfri ar gyfer datblygiadau'r castell.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar roi'r amodau uchod ar waith, gymeradwyo'r cais canlynol am Gyllid Cyfalaf y 10 Tref fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad;

Cyngor Tref Llanymddyfri - Cyfanswm Gwerth = £60,681.08