Agenda a chofnodion drafft

Yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio - Dydd Llun, 24ain Mawrth, 2025 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Aelod y Cabinet, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin Runeckles  01267 224674

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

2.

LLOFNODI BOD COFNOD PENDERFYNIADAU'R CYFARFOD AR 25 MAWRTH, 2024, YN GYWIR pdf eicon PDF 85 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi'r cofnodion fel cofnod cywir o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2024.

3.

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG (2018-2033): YMGYNGHORIAD SAFLEOEDD YCHWANEGOL pdf eicon PDF 202 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i adroddiad yngl?n â'r ymgynghoriad (gan gynnwys Asesiad Cynaliadwyedd Integredig (ISA) ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA)) mewn perthynas â'r safleoedd ychwanegol ar gyfer Tai, fel sy'n ofynnol o ganlyniad i'r Archwiliad i'r CDLl Diwygiedig.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Polisi Strategol a Chreu Lleoedd, a nododd y gofyniad cyffredinol o 8,822 o dai newydd yn ystod cyfnod y cynllun. Wrth gyflawni'r gofyniad hwn, roedd yn ofynnol i'r Cynllun gynnwys lefel ychwanegol o hyblygrwydd, lwfans a oedd yn 10% yn yr 2il Gynllun Adneuo. Fodd bynnag, wrth i'r Cynllun symud o'r 2il Gynllun Adneuo i'r Archwiliad, arweiniodd cyfres o newidiadau tystiolaethol at ostwng y lwfans hyblygrwydd hwn i 2.5%. Roedd hwn yn fater a gafodd ei ystyried gan yr Arolygwyr yn sesiynau gwrandawiad yr archwiliad, ac, o ganlyniad, maent wedi gofyn i'r awdurdod ganfod safleoedd ychwanegol. Bwriad hyblygrwydd o'r fath oedd sicrhau bod y cynllun yn ddigon hyblyg i ddarparu ar gyfer amgylchiadau lle na fyddai rhai safleoedd yn cael eu cyflawni yn y ffordd a ragwelid.

 

Nododd yr Aelod Cabinet hyn a dywedwyd wrthi mewn ymateb i gwestiwn, fod y 428 o 'safleoedd a ddyrannwyd' ychwanegol yn rhai nad oedd ganddynt ganiatâd cynllunio eto. Soniwyd hefyd y byddai dyraniad ar gyfer 10 o dai yn Llanelli ar dir oddi ar Penywern, Strade yn cael ei ddileu cyn yr ymgynghoriad. Rhoddwyd gwybod i'r Aelod Cabinet hefyd fod y safleoedd wedi bod yn destun asesiadau Seilwaith Gwyrdd a Glas (GBI), a byddent yn cydymffurfio â'r Canllawiau Cynllunio Atodol oedd yn cael eu datblygu ar hyn o bryd.

 

Hefyd, mewn ymateb i gwestiwn gan yr Aelod Cabinet, dywedwyd na fyddai effaith fawr ar ffosffad gan unrhyw un o'r safleoedd ychwanegol. Dywedwyd wrth yr Aelod Cabinet hefyd na fyddai Asesiadau Cymeriad y Dirwedd yn rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer yr ymgynghoriad, ond rhoddwyd ystyriaeth i'r cymeriad hwnnw ac nid oedd yn debygol o fod yn broblem, gyda'r safleoedd wedi'u dewis yn gyffredinol yn agos i ardaloedd trefol o gymeriad tebyg.

 

PENDERFYNWYD nodi'r safleoedd tai ychwanegol a glustnodwyd a'r dogfennau ategol a chymeradwyo eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghori cyhoeddus am saith wythnos rhwng 27 Mawrth a 15 Mai 2025, yn unol â'r gofynion sy'n deillio o'r archwiliad i'r CDLl Diwygiedig.