Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio - Dydd Gwener, 14eg Gorffennaf, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

2.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR PENDERFYNIADAU Y CYFARFOD A GYNHALWYD AR Y 14 MAWRTH 2023 pdf eicon PDF 75 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2023, gan ei fod yn gywir.

 

3.

GRANT CYMORTH RHANDIROEDD LLYWODRAETH CYMRU pdf eicon PDF 187 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth ôl-weithredol ar gyfer cyflwyno cynllun gwaith i Lywodraeth Cymru erbyn 30 Ebrill 2023 a oedd yn rhoi manylion deg cais am gyllid o dan ei Chronfa Cymorth Rhandiroedd 2023/24 a chytuno hefyd i Dîm Biwro yr Awdurdod ymgymryd â'r rôl weinyddol yn unol â Thelerau ac Amodau'r grantiau.

 

Nododd yr Aelod Cabinet fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael swm dangosol o £34,308 gan Lywodraeth Cymru drwy'r Grant Cymorth Rhandiroedd er mwyn cynyddu argaeledd lleiniau rhandiroedd o ansawdd da ledled Sir Gaerfyrddin am flwyddyn ariannol 23/24. Roedd swm dangosol o £34,308 hefyd wedi'i ddyrannu ar gyfer gweithgarwch yn 2024-25, ar yr amod bod Cynllun Gwaith arall wedi'i gwblhau erbyn 31 Rhagfyr 2023 fan bellaf. Nodwyd hefyd bod y 10 cais y manylwyd arnynt yn yr adroddiad wedi cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru wedi hynny.

 

Byddai'r gronfa, sydd i'w gweinyddu gan Dîm Biwro yr Awdurdod, yn cael ei defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd i helpu i hybu gallu'r sefydliadau a nodir yn yr adroddiad ac yn cynnwys:-

 

·        Creu lleiniau newydd

·        Defnyddio lleiniau diffaith unwaith eto

·        Gwella hygyrchedd

·        Gwella gwasanaethau safleoedd

·        Gwella diogelwch safleoedd

·        Gwella'r ffordd mae safleoedd yn cael eu rheoli

·        Cynyddu ailgylchu / adnewyddu

·        Cynyddu bioamrywiaeth / pryfed peillio

 

PENDERFYNWYD 

 

3.1

Rhoi cymeradwyaeth ôl-weithredol ar gyfer cyflwyno ceisiadau am gyllid i Lywodraeth Cymru fel rhan o'i Chronfa Cymorth Rhandiroedd 2023/24.

3.2

Bod Tîm Biwro yr Awdurdod yn ymgymryd â'r rôl weinyddol yn unol â Thelerau ac Amodau'r grantiau