Lleoliad: Cabinet Member Office - County Hall, Carmarthen. SA31 1JP.
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANT Cofnodion: Nid oedd datganiadau o fuddiant.
|
|
GRANT CYMORTH RHANDIROEDD LLYWODRAETH CYMRU PDF 405 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd yr Aelod Cabinet adroddiad ar Gronfa Cymorth Rhandiroedd 2022/23 Llywodraeth Cymru. Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y gronfa ac yn cynnwys cynllun gwaith a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ôl-weithredol yr Aelod Cabinet.
Adroddwyd bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael swm dangosol o £39,601 gan Lywodraeth Cymru drwy'r Grant Cymorth Rhandiroedd er mwyn cynyddu argaeledd lleiniau rhandiroedd o ansawdd da ledled Sir Gaerfyrddin. Roedd y cyllid yn ymwneud â gweithgarwch o fewn blwyddyn ariannol 2022/23 a byddai'r gronfa'n cael ei defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd i helpu i hybu gallu'r sefydliadau fel y nodir yn yr adroddiad.
Ystyriodd yr Aelod Cabinet y Cynllun Gwaith a atodwyd i'r adroddiad yn Atodiad A a oedd yn cynnwys manylion 14 o brosiectau a oedd wedi'u derbyn a'u hasesu gan dîm y Biwro. Esboniwyd bod y Cynllun Gwaith eisoes wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo cyn y dyddiad cau, sef 10 Mehefin, 2022, ac felly ceisid cymeradwyaeth ôl-weithredol yr Aelod Cabinet.
Dywedwyd, fel y nodwyd yn yr adroddiad, fod y gronfa ac unrhyw amrywiadau i'r cyllid yn cael eu gweinyddu gan dîm Biwro'r Awdurdod.
PENDERFYNWYD bod y ceisiadau a gyflwynwyd i'w hystyried fel rhan o Gronfa Cymorth Rhandiroedd Llywodraeth Cymru 2022/23 yn cael eu cymeradwyo'n ôl-weithredol.
|