Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cabinet Member Office - County Hall, Carmarthen. SA31 1JP.

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Nid oedd datganiadau o fuddiant.

 

 

2.

GRANT CYMORTH RHANDIROEDD LLYWODRAETH CYMRU pdf eicon PDF 405 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd yr Aelod Cabinet adroddiad ar Gronfa Cymorth Rhandiroedd 2022/23 Llywodraeth Cymru. Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y gronfa ac yn cynnwys cynllun gwaith a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ôl-weithredol yr Aelod Cabinet.

 

Adroddwyd bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael swm dangosol o £39,601 gan Lywodraeth Cymru drwy'r Grant Cymorth Rhandiroedd er mwyn cynyddu argaeledd lleiniau rhandiroedd o ansawdd da ledled Sir Gaerfyrddin.  Roedd y cyllid yn ymwneud â gweithgarwch o fewn blwyddyn ariannol 2022/23 a byddai'r gronfa'n cael ei defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd i helpu i hybu gallu'r sefydliadau fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd yr Aelod Cabinet y Cynllun Gwaith a atodwyd i'r adroddiad yn Atodiad A a oedd yn cynnwys manylion 14 o brosiectau a oedd wedi'u derbyn a'u hasesu gan dîm y Biwro. Esboniwyd bod y Cynllun Gwaith eisoes wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo cyn y dyddiad cau, sef 10 Mehefin, 2022, ac felly ceisid cymeradwyaeth ôl-weithredol yr Aelod Cabinet.

 

Dywedwyd, fel y nodwyd yn yr adroddiad, fod y gronfa ac unrhyw amrywiadau i'r cyllid yn cael eu gweinyddu gan dîm Biwro'r Awdurdod.

 

PENDERFYNWYD bod y ceisiadau a gyflwynwyd i'w hystyried fel rhan o Gronfa Cymorth Rhandiroedd Llywodraeth Cymru 2022/23 yn cael eu cymeradwyo'n ôl-weithredol.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau