Agenda a chofnodion drafft

Yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cymunedau, a’r Gymraeg - Dydd Gwener, 30ain Hydref, 2026 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Twr y Cadeirydd), Neuadd y Sir, Caerfyrddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine White  01267 224030

Eitemau
Rhif Eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 2 HYDREF 2026 pdf eicon PDF 96 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2026 yn gofnod cywir.

 

3.

CYFLWYNO TÂL AM YMHOLIADAU NEWID DEFNYDD pdf eicon PDF 139 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd yr Aelod Cabinet adroddiad i'w ystyried a oedd yn cynnig cyflwyno ffi ar gyfer ymholiadau ynghylch newid defnydd.

 

Nododd yr Aelod Cabinet fod yr Adran Gynllunio ar hyn o bryd yn darparu cyngor am ddim ar gynigion i newid defnydd. Mae'r ymholiadau hyn yn ceisio cadarnhad ynghylch a oes angen caniatâd cynllunio, a yw cynnig yn newid defnydd sylweddol, a'r llwybr cynllunio mwyaf priodol. Roedd y galw am y gwasanaeth yn rhoi pwysau ar adnoddau swyddogion. Yn ogystal, nid oedd modd i'r gwasanaethau cynllunio adennill costau llawn ac maent yn parhau i gael cymhorthdal gan yr Awdurdod.  Byddai cyflwyno tâl yn cefnogi uchelgais y Gwasanaeth i symud tuag at fodel adennill costau llawn ac alinio'r Awdurdod â nifer o Awdurdodau Lleol eraill sy'n codi tâl am wasanaethau cyngor cynllunio yn ôl disgresiwn tebyg.

 

Felly, cynigiodd yr adroddiad gyflwyno ffi o £92 fesul ymholiad, gyda'r incwm a gynhyrchir yn cael ei neilltuo i gefnogi'r gwaith o ddarparu a datblygu'r gwasanaeth yn barhaus.

 

Esboniodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd wrth gyflwyno'r adroddiad fod y gwasanaeth yn derbyn tua 50 - 100 o ymholiadau bob blwyddyn. Ar gyfartaledd, roedd pob ymholiad yn cymryd tua awr a hanner o amser swyddogion.   Roedd y ffi arfaethedig o £92 yn seiliedig ar asesiad o amser swyddog cyfartalog a'r costau sy'n gysylltiedig â darparu'r gwasanaeth.

 

Roedd ystyriaeth wedi'i rhoi i ddefnyddio'r ffi cyn ymgeisio statudol bresennol, ond ystyriwyd bod hyn yn debygol o atal ymgeiswyr rhag ceisio cyngor cynnar. Ystyriwyd bod ffi sefydlog yn well na threfniad codi tâl pwrpasol gan y byddai'n rhoi eglurder a thryloywder i ymgeiswyr ynghylch costau o'r cychwyn cyntaf.

 

Yn ogystal, esboniodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd y gallai darparu cyngor cynnar leihau ceisiadau amhriodol, achosion gorfodi a chwynion cysylltiedig. Byddai'r ffi a'i heffaith yn cael eu monitro a'u hadolygu ar ôl y flwyddyn gyntaf.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet y cynnig, gan nodi y gallai cyngor cynnar wella ansawdd y ceisiadau a gyflwynwyd wedyn a chynorthwyo gydag amseroedd dilysu a phrosesu. Ar ôl ystyried y gwahanol ddulliau codi tâl a fabwysiadwyd gan awdurdodau lleol eraill, roedd yr Aelod Cabinet o'r farn bod ffi sefydlog yn darparu'r dull mwyaf clir ac ymarferol i ymgeiswyr.

 

PENDERFYNWYD yn dilyn adolygiad o wasanaethau cynllunio y gellir codi tâl amdanynt y Gwasanaeth Cynllunio a gynhaliwyd gan Adran Gynllunio'r Awdurdod, ac er mwyn alinio'r Awdurdod ag Awdurdodau Lleol eraill, gyflwyno tâl o £92 fesul ymholiad Newid Defnydd.